, ,
Iâr gini helmog Numida meleagris | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Galliformes |
Teulu: | Numidinae |
Genws: | Numida[*] |
Rhywogaeth: | Numida meleagris |
Enw deuenwol | |
Numida meleagris |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Iâr gini helmog (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: ieir gini helmog) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Numida meleagris; yr enw Saesneg arno yw Helmeted guineafowl. Mae'n perthyn i deulu'r Numidinae (Lladin: Numidinae) sydd yn urdd y Galliformes.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn N. meleagris, sef enw'r rhywogaeth. Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Affrica.
Mae'r iâr gini helmog yn perthyn i deulu'r Numidinae (Lladin: Numidinae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
"Iar Gini" yn tarddu o S. Guinea fowl
Galeeny: iar gini yn nhafodiaeth Saesneg Bro Gwyr ac Aberhonddu. Tybir iddo darddu rhywsut o Gallini, efallai trwy garcharorion rhyfel Eidalaidd.
Er bod yr aderyn yn dod o Affrica, ei enw Llydaweg yw yar Spagn - iar o Sbaen - (pintade yn Ffrangeg - o’r Portwgaleg: pintada yr aderyn sydd wedi ei baentio). Mae unrhyw beth sydd yn dod o bell yn dwyn yr enw Spagn ond os ydi pethau yn dod o bellach maent yn dwyn yr enw Turki sef pen pellaf y byd Llydewig! Enw’r twrci yn y Llydaweg yw yar Indez, yn debyg iawn i’r enw Ffrangeg dinde (ben.), dindon (gwr.) gan gyfeirio at India, nid y wlad ond y cyfandir oedd newydd gael ei ddarganfod, sef America. Mae’r iaith Saesneg wedi mabwysiadu Gini (Guinea) hefyd ar gyfer anifail bach o dde-America lle mae’r Ffrangeg yn ei alw’n cochon d’Inde (“mochyn India”).
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Petrisen | Perdix perdix | |
Sofliar frown | Synoicus ypsilophorus | |
Twrci llygedynnog | Meleagris ocellata |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Iâr gini helmog, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.