Y Rhyfel Saith Mlynedd

Yn ystod y Rhyfel Saith Mlynedd (1756-1763) roedd Teyrnas Prydain Fawr, Prwsia a Hanofer ar y naill ochr yn brwydro yn erbyn Ffrainc, Awstria, Sweden a Sacsoni ar y llall.

Am fod y mwyafrif o wledydd mawr Ewrop yn ymrwymedig i'r rhyfel a bod brwydrau ledled Ewrop yn ogystal ac yn ardaloedd sydd heddiw yn rhan o Ganada, Unol Daleithiau America, India a'r Môr Caribî, gellir dweud fod hi wedi bod y wir "rhyfel byd cyntaf". Hwyrach, roedd Sbaen a Portiwgal yn cymryd rhan hefyd ac oedd ymosodiad ar byddyn yr Iseldiroedd yn India, er roedden nhw ei hunain yn amhleidiol.

Y Rhyfel Saith Mlynedd
Y Rhyfel Saith Mlynedd
Un o frwydrau mawr y Rhyfel Saith Mlynedd
(llun gan Alexander Kotzebue, 1848)
Dyddiad 1754 neu 1756 - 1763
Lleoliad Ewrop, Affrica, India, Gogledd America, Pilipinas
Canlyniad Cytundeb Paris
Cytundeb Hubertusburg
Cydryfelwyr
Y Rhyfel Saith Mlynedd Teyrnas Prwsia
Y Rhyfel Saith Mlynedd Teyrnas Prydain Fawr a'i Colonies Americanaidd
Etholaeth Brunswick-Lüneburg (Hanover)
Y Rhyfel Saith Mlynedd Ffederasiwn Iroquois
Y Rhyfel Saith Mlynedd Teyrnas Portiwgal
Y Rhyfel Saith Mlynedd Tywysogaeth Brunswick-Wolfenbüttel
Y Rhyfel Saith Mlynedd Landgraviate Hesse-Kassel
Y Rhyfel Saith Mlynedd Austria
Y Rhyfel Saith Mlynedd Teyrnas Ffrainc a'i Gwladfeydd
Baner Rwsia Ymerodraeth Rwsia
Baner Sweden Teyrnas Sweden
Y Rhyfel Saith Mlynedd Teyrnas Sbaen
Y Rhyfel Saith Mlynedd Etholaeth Sacsoni
Y Rhyfel Saith Mlynedd Teyrnas Napoli a Sisili
Y Rhyfel Saith Mlynedd Teyrnas Sardinia
Arweinwyr
Y Rhyfel Saith Mlynedd Frederick II
Y Rhyfel Saith Mlynedd Friedrich Wilhelm von Seydlitz
Y Rhyfel Saith Mlynedd John Manners
Y Rhyfel Saith Mlynedd Edward Boscawen
Y Rhyfel Saith Mlynedd Barwn Clive
Y Rhyfel Saith Mlynedd James Wolfe
Y Rhyfel Saith Mlynedd Barwn Amherst
Ferdinand, dug Brunswick
Y Rhyfel Saith Mlynedd Cownt von Daun
Y Rhyfel Saith Mlynedd Franz Moritz von Lacy
Y Rhyfel Saith Mlynedd Charles Alexander of Lorriane
Y Rhyfel Saith Mlynedd Ernst von Laudon
Y Rhyfel Saith Mlynedd Louis XV
Y Rhyfel Saith Mlynedd Louis-Joseph de Montcalm
Baner Rwsia Elisabeth
Baner Rwsia Pyotr Saltykov
Y Rhyfel Saith Mlynedd Frederick Augustus II

Roedd y rhyfel hwn yn dilyn Rhyfel Olyniaeth Awstria, a adawodd nifer o broblemau heb eu datrys, er bod Ewrop yn newid yn gyflym gyda Ffrainc, Awstria a Rwsia, oedd wedi bod yn elynion ers ganrifoedd, yn cydweithio. Roedd hynny yn fygythiad i Brwsia - a roedd Prydain yn ddechrau poeni am Hanofer. Oblegid hynny, roedd yn naturol fod Prydain a Phrwsia yn cydweithio, hefyd. Achos arall y rhyfel roedd cystadleuaeth rhwng Prydain a Ffrainc ar gyfer gwladfeydd.

Yn wyneb ymosodiadau Awstria a Rwsia, enillodd Ffrederic Fawr, brenin Prwsia, nifer o fuddugoliaethau syfrdanol, ond gan fod adnoddau Awstria a Rwsia gymant mwy na'r eiddo ef, roedd ar fin cael ei orchfygu. Achubwyd ef pan fu farw tsarina Rwsia, Elisabeth I yn 1761. Roedd ei holynydd, Pedr III, yn edmygu Ffrederic yn fawr, a gwnaeth gytundeb heddwch ag ef.

O ganlyniad i'r cytundebau heddwch a arwyddwyd ar 10 Chwefror, 1763 ym Mharis rhwng Prydain a Portiwgal ar y naill ochr a Ffrainc a Sbaen ar y llall, roedd pethau yn newid yn y gwladfeydd. Cafodd Prydain Fflorida o Sbaen a gorfodwyd i Ffrainc rhoi'r ardal i'r gorllewin i Afon Mississippi i Sbaen. Collodd Ffrainc Ganada, a'r ardaloedd i'r dwyrain i Afon Mississippi a'r ardaloedd o amgylch y Llynnoedd Mawr i Brydain. Fel hynny, doedd dim ond New Orleans, rhan gorllewinol Hispaniola (heddiw Haiti) a rhai ynysoedd eraill yn aros yn ddiriogaethau Ffrengig ar ôl y rhyfel. A chollodd Ffrainc ei thiriogaethau yn India, Senegambia (heddiw: Senegal a Gambia) ac ati i Brydain, hefyd.

Ar 15 Chwefror, 1763 arwyddwyd cytundeb heddwch rhwng Prwsia a'i elynion oedd yn gwrthdroi y ffiniau i'r hyn yr oeddent o flaen y rhyfel.

O ganlyniad i'r rhyfel hwn daeth Prwsia i fod yn un o'r pum gwlad gryfaf Ewrop. Collodd Ffrainc bron ei holl wladfeydd ac felly daeth yn awyddus iawn i geisio dial ar Brydain. A daeth Prydain i fod y wlad gryfaf yn y byd, yn arbennig ar y môr, a chanddi'r gwladfeydd ehangaf.

Tags:

17561763AwstriaCanadaEwropFfraincHanoferIndiaMôr CaribîPortiwgalPrwsiaSacsoniSbaenSwedenTeyrnas Prydain FawrUnol Daleithiau AmericaYr Iseldiroedd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

1855Hebog tramorSwydd EfrogDavid Ben-GurionCascading Style SheetsTîm rygbi'r undeb cenedlaethol FfraincGwlad PwylMeddWiciadurImperialaeth NewyddCarthagoSaesnegGleidr (awyren)Pen-y-bont ar OgwrDinasyddiaeth yr Undeb EwropeaiddNeo-ryddfrydiaethBukkakeDobs HillPantheonFfwythiannau trigonometrigWilliam Nantlais Williams713Huw ChiswellSafleoedd rhywDiwydiant llechi CymruThe Iron Duke1739Catch Me If You CanBeverly, MassachusettsDoc PenfroMoralOld Wives For NewPupur tsiliPontoosuc, IllinoisDavid CameronY FfindirKatowicePrifysgol RhydychenMeddygon MyddfaiWicipedia CymraegMercher y LludwGogledd IwerddonParc Iago SantCyfryngau ffrydioFfraincRhaeGwyRobbie WilliamsDavid R. EdwardsMicrosoft WindowsUnicodeAbacwsPanda MawrComin WicimediaAlfred JanesCalon Ynysoedd Erch NeolithigIestyn GarlickDydd Iau CablydRheonllys mawr BrasilAnggunDisturbiaTri YannCytundeb Saint-GermainPidyn-y-gog AmericanaiddDon't Change Your HusbandCannesElizabeth TaylorEdwin Powell HubbleMetropolisAnna VlasovaConstance SkirmuntY Brenin ArthurYr Eidal🡆 More