Tylwyth sydd wedi bod o bwysigrwydd mawr yn hanes Ewrop yw'r Habsburg (hefyd Hapsbwrg).
Roedd y teulu yn wreiddiol o'r Swistir, a chafodd ei enw o'r Habichtsburg yn Aargau. Bu aelodau o dylwyth yr Habsburg yn teyrnasu am ganrifoedd dros Awstria, Bohemia a Hwngari. O 1438 hyd 1806, roedd bron pob Ymerawdwr Glân Rhufeinig yn aelod o'r teulu Habsburg. Yn y 16g a'r 17g, roedd aelodau o'r tylwyth yn rheoli Sbaen a Portiwgal, ac yn y 19g yn rheoli rhannau o ogledd yr Eidal.
Enghraifft o'r canlynol | teyrnach |
---|---|
Daeth i ben | 1780 |
Rhan o | Etichonids |
Iaith | Slofeneg |
Dechrau/Sefydlu | 11 g |
Sylfaenydd | Guntram y Cyfoethog |
Enw brodorol | Habsburger |
Gwladwriaeth | Archddugiaeth Awstria, Coron Castilia, Coron Aragón, Iberian Union, Teyrnas Portiwgal |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r teulu yn parhau, a rhwng 1979 a 1999 roedd Otto von Habsburg yn un o aelodau Senedd Ewrop dros yr Almaen. Yn 1961, roedd wedi ymwadu'n swyddogol a'i hawl ar orsedd Awstria.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Habsburg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.