Gwladwriaeth yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop oedd y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd a fodolai o 1569 i 1795.
Ffurfiwyd y ffederasiwn deuarchaidd drwy gyfuno Teyrnas Gwlad Pwyl ac Uchel Ddugiaeth Lithwania. Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd oedd un o wladwriaethau mwyaf Ewrop yn ystod y cyfnod modern cynnar, ac yn cynnwys bron 400,000 milltir sgwâr a rhyw 11 miliwn o bobl ar ei heithaf yn nechrau yr 17g. Yn ffurfiol, cafodd ei alw gan yr enw hir Teyrnas Gwlad Pwyl ac Uchel Ddugiaeth Lithwania (Pwyleg: Królestwo Polskie i Wielkie Księstwo Litewskie, Lithwaneg: Lenkijos Karalystė ir Lietuvos Didžioji Kunigaikštystė, Lladin: Regnum Poloniae Magnusque Ducatus Lithuaniae), neu Gymanwlad y Ddwy Genedl (Pwyleg: Rzeczpospolita Obojga Narodów, Lladin: Res Publica Utriusque Nationis). Defnyddiwyd yr enw Gwlad Pwyl yn aml i ddisgrifio'r holl Gymanwlad.
Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd Rzeczpospolita Obojga Narodów (Pwyleg) Res Publica Utriusque Nationis (Lladin) | ||||||
Ffederasiwn deuarchaidd | ||||||
| ||||||
---|---|---|---|---|---|---|
| ||||||
Arwyddair
| ||||||
Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd (gwyrdd), a'i gwladwriaethau caeth (gwyrdd golau), ar ei hanterth ym 1619. | ||||||
Prifddinas | (de jure)
(de facto) | |||||
Ieithoedd | Swyddogol: Pwyleg a Lladin Rhanbarthol:
| |||||
Crefydd | Swyddogol: Yr Eglwys Gatholig Lleiafrifol: | |||||
Llywodraeth |
| |||||
Brenin / Uchel Ddug | ||||||
- | 1569–1572 | Zygmunt II August (cyntaf) | ||||
- | 1764–1795 | Stanisław August Poniatowski (olaf) | ||||
Deddfwrfa | Sejm | |||||
- | Cyfrin Gyngor | Senedd | ||||
Cyfnod hanesyddol | Y cyfnod modern cynnar | |||||
- | Undeb Lublin | 1 Gorffennaf 1569 | ||||
- | Rhaniad 1af | 5 Awst 1772 | ||||
- | Cyfansoddiad 3 Mai | 3 May 1791 | ||||
- | 2il Raniad | 23 Ionawr 1793 | ||||
- | 3ydd Rhaniad | 24 Hydref 1795 | ||||
Poblogaeth | ||||||
- | 1582 amcan. | 8,000,000 | ||||
Dwysedd | 9.8 /km² (25.4 /sq mi) | |||||
- | 1618 amcan. | 12,000,000 | ||||
Dwysedd | 12 /km² (31.1 /sq mi) |
Gwlad aml-ethnig ac amlieithog oedd y Gymanwlad, gan gynnwys Pwyliaid, Lithwaniaid, Rwtheniaid, Almaenwyr, Iddewon, a chymunedau bychain o Datariaid, Armeniaid, ac Albanwyr. Roedd hefyd sawl crefydd, gan gynnwys yr Eglwys Gatholig, Protestaniaeth, yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, Iddewiaeth, ac Islam. Bu ambell gymuned yn meddu ar rywfaint o hunanlywodraeth, er enghraifft Cyngor y Pedair Gwlad a oedd yn arfer y gyfraith Iddewig.
Ym 1777, 1793 ac 1795, rhannwyd tiriogaeth y gymanwlad rhwng Prwsia, Ymerodraeth Rwsia, a'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd (Awstria-Hwngari). Wedi 1795, daeth y gymanwlad i ben, a bu'n rhaid aros nes 1918 nes i Wlad Pwyl a Lithwania ddod yn annibynnol. Yn ogystal â'r ddwy wlad hynny, mae tiriogaeth y gymanwlad gynt bellach yn cynnwys rhannau o'r Wcráin, Moldofa (Transnistria), Belarws, Rwsia, Latfia ac Estonia.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.