Ieithoedd Slafonaidd: Grwp o iethoedd Indo-Ewropeaidd

Grŵp o ieithoedd a siaredir yn nwyrain Ewrop a gogledd Asia yw'r ieithoedd Slafonaidd, hefyd ieithoedd Slafonig.

Maen nhw'n perthyn i deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd sy'n gorestyn o arfordir yr Iwerydd hyd at India yn y dwyrain. Fe'u dosbarthir yn dri is-grŵp: yr ieithoedd Slafonaidd Gorllewinol (Casiwbeg, Pwyleg, Slofaceg, Sorbeg a Tsieceg), yr ieithoedd Slafonaidd Dwyreiniol (Belarwsieg, Rwsieg ac Wcreineg, a'r ieithoedd Slafonaidd Deheuol (Bosneg, Bwlgareg, Croateg, Macedoneg, Serbeg a Slofeneg). Weithiau cyfeirir at y grwpiau gorllewinol a dwyreiniol fel ieithoedd Slafonaidd gogleddol ar sail nodweddion cyffredin. Mae ychydig o ieithoedd Slafonaidd eraill wedi marw: Hen Slafoneg Eglwysig (Slafeg deheuol) a Polabeg (iaith Slafig gogledd-orllewin yr Almaen).

Ieithoedd Slafonaidd: Grwp o iethoedd Indo-Ewropeaidd
     Gwledydd lle mae iaith Slafonaidd Orllewinol yn iaith genedlaethol      Gwledydd lle mae iaith Slafonaidd Ddwyreiniol yn iaith genedlaethol      Gwledydd lle mae iaith Slafonaidd Ddeheuol yn iaith genedlaethol
Ieithoedd Slafonaidd: Grwp o iethoedd Indo-Ewropeaidd
Ieithoedd Slafonaidd

Heddiw mae'r ieithoedd Slafonaidd yn defnyddio naill ai'r wyddor Gyrilig neu'r wyddor Ladin ar gyfer eu ffurf ysgrifenedig. Mae'r ieithoedd Slafonaidd Gorllewinol a Deheuol i gyd yn defnyddio'r wyddor Ladin, ac eithrio Bwlgareg, Macedoneg, ac, i radd helaeth, Serbeg, sy'n defnyddio'r wyddor Gyrilig. Mae'r ieithoedd Slafonaidd Dwyreiniol yn defnyddio'r wyddor Gyrilig. Fel rheol fras, mae'r gwledydd Slafaidd Catholig yn defnyddio'r wyddor Ladin, a'r rhai uniongred yn defnyddio'r wyddor Gyrilig. Defnyddiwyd gwyddor arall, y wyddor Glagolitig, a ddyfeisiwyd yn wreiddiol ar gyfer Hen Slafoneg Eglwysig gan SS. Cyril a Methodiws, o'r 9g ymlaen yn y gwledydd Slafig deheuol. Fe'i disodlwyd ym Mwlgaria a Macedonia gan y wyddor Gyrilig erbyn y 12g, ond cafodd ei defnyddio mewn rhai ardaloedd, Croatia yn arbennig, ar gyfer testunau eglwysig hyd at y 19g.

Ffynonellau

  • Comrie, Bernard, a Corbett, Greville G. gol. 1993. The Slavonic languages. Llundain: Routledge.
  • De Bray, Reginald G. A. 1970. Guide to the Slavonic languages. Llundain.
  • Horálek, K. 1992. Introduction to the study of the Slavonic languages. Nottingham: Astra Press.

Tags:

BelarwsiegBosnegBwlgaregCasiwbegCroategHen Slafoneg EglwysigMacedonegPwylegRwsiegSerbegSlofacegSlofenegSorbegTsiecegWcreineg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

There Goes The GroomAuschwitzMeinir GwilymForlorn RiverTsieineegThe SimpsonsBourákNot The Bradys XxxY PentagonRhyfeddodau Chwilengoch a Cath DduCadwyn FwydUnol DaleithiauHwngaregBaner NicaragwaBlogDeallusrwydd artiffisialSawdi ArabiaWessexDört Ateşli YosmaWyn LodwickEmojiLilo & StitchMathau GochLabiaThe Pecos KidGaeleg yr AlbanThe Werewolf of WashingtonAberfanDe Ontsnapping277 CC1997Kate CrockettObce NieboRhyw llawRhodri LlywelynHywel PittsArfon WynTrychineb HillsboroughTsietsniaGramadeg Lingua Franca NovaLos Angeles1989L'chayim, Comrade Stalin!Bill MaynardGŵydd dalcenwenPandemig ffliw 2009Ymgyrch ymosodol y Taliban (2021)All The Boys Love Mandy LaneMiri MawrAlex HarriesCynhaiarnEwropLladinPryderiSystème universitaire de documentationPeter HiggsDharti Ke LalCanyon RiverNebuchadnesar IIGiro d'ItaliaIemen.asSlofaciaGlyn CeiriogTai (iaith)Rhyw diogelY Deyrnas UnedigLluoedd Arfog yr Unol DaleithiauRowan Atkinson🡆 More