Wcráin: Gwlad yn nwyrain Ewrop

Gwlad a gweriniaeth yn nwyrain Ewrop yw Wcráin.

Ystyr y gair "Wcráin" yw'r "wlad gyda ffiniau" (yn debyg i'r "Mers" rhwng Cymru a Lloegr, a gwledydd cyfagos iddi yw Ffederasiwn Rwsia, Belarws, Gwlad Pwyl, Slofacia, Hwngari, Rwmania a Moldofa. Ei ffin i'r de yw'r Môr Du ac i'r de ddwyrain ohoni mae'r Môr Azov. Yn y cyfrifiad diwethaf, roedd poblogaeth y wlad yn 41,167,335 (1 Ionawr 2022).

Wcráin
Wcráin: Geirdarddiad, Daearyddiaeth, Hanes
Wcráin: Geirdarddiad, Daearyddiaeth, Hanes
''Україна
Ukrayina''
Wcráin: Geirdarddiad, Daearyddiaeth, Hanes
MathGwlad
Enwyd ar ôlname of Ukraine Edit this on Wikidata
PrifddinasKyiv Edit this on Wikidata
Poblogaeth41,167,335 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
AnthemAnthem genedlaethol Wcráin Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethDenys Shmyhal Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00, EET, Europe/Kyiv Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Wcreineg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDwyrain Ewrop, Cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
GwladWcráin Edit this on Wikidata
Arwynebedd603,550 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBelarws, Gwlad Pwyl, Slofacia, Hwngari, Rwmania, Moldofa, Rwsia, yr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49°N 32°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolCabined y Gweinidogion Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholVerkhovna Rada Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Wcráin Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethVolodymyr Zelenskyy Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Wcráin Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethDenys Shmyhal Edit this on Wikidata
Wcráin: Geirdarddiad, Daearyddiaeth, Hanes
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$199,766 million, $160,503 million Edit this on Wikidata
ArianHryvnia Edit this on Wikidata
Canran y diwaith8 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.498 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.773 Edit this on Wikidata

Ym Mawrth 2014 cyfeddiannwyd y Crimea gan Rwsia; ar 24 Chwefror 2022 dechreuodd Rhyfel Rwsia ac Wcráin pan ymosododd Rwsia ar Wcráin. Adenillodd Wcráin lawer o'r tir a gollwyd erbyn diwedd 2022; mae'r rhyfel hwn yn parhau.

Mae gan Wcráin arwynebedd o 603,628 km2 (233,062 mi sgw), sy'n golygu mai hi yw'r wlad fwyaf yn Ewrop (o'r gwledydd hynny sy'n gyfan gwbl o fewn Ewrop).

Gwladychwyd neu meddiannwyd ei thiroedd gan fodau dynol tua 44,000 o flynyddoedd yn ôl, ac mae'n ddigon posib mai yma y dofwyd y ceffyl am y tro cyntaf, a'r fan lle y cychwynnwyd siarad Ieithoedd Indo-Ewropeaidd.

Mae ehangder ei thiroedd a'i ffermydd ffrwythlon dros y blynyddoedd yn golygu ei bod ymhlith y gwledydd gorau am gynhyrchu grawn ac yn 2011, Wcráin oedd y trydydd gorau drwy'r byd. Yn ôl Cyfundrefn Masnach y Byd, mae Wcráin, felly'n un o'r 10 gwlad mwyaf dymunol i'w meddiannu. Ar ben hyn, mae ganddi un o'r diwydiannau creu awyrennau gorau.

Ceir poblogaeth o oddeutu 44.6 miliwn o bobl gyda 77.8% ohonyn nhw o darddiad Wcreinaidd, 17% yn Rwsiaid, Belarwsiaid, Tatariaid neu'n Rwmaniaid. Wcreineg yw'r iaith swyddogol a'i gwyddor yw'r wyddor Gyrilig Wcraneg. Siaredir y Rwsieg hefyd gan lawer. Y grefydd fwyaf yn y wlad yw'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol sydd wedi dylanwadu'n helaeth ar bensaernïaeth y wlad yn ogystal a'i llenyddiaeth a'i cherddoriaeth.

Roedd hi'n rhan o'r Undeb Sofietaidd.

Geirdarddiad

Ceir sawl esboniad am eirdarddiad (neu etymoleg) yr enw Wcráin. Yn ôl un o'r esboniadau cyntaf a hynaf, mae'n golygu "ffiniau", tra bod rhai astudiaethau ieithyddol mwy diweddar yn honni ystyr gwahanol, sef "mamwlad, rhanbarth, neu wlad".

Yn y Saesneg, arferai The Ukraine fod y ffurf mwyaf cyffredin, a hynny trwy gydol yr 20g, ond ers Datganiad Annibyniaeth Wcráin ym 1991, mae "yr Wcráin" wedi dod yn llai cyffredin yn y byd Saesneg ei iaith, ac mae llawer o ganllawiau'n rhybuddio yn erbyn ei ddefnyddio mewn ysgrifennu proffesiynol. Yn ôl llysgennad yr Unol Daleithiau William Taylor, mae "The Ukraine" bellach yn awgrymu diystyru sofraniaeth y wlad. Safbwynt swyddogol Wcrain yw bod y defnydd o "'yr Wcráin' yn anghywir yn ramadegol ac yn wleidyddol."

Daearyddiaeth

Gweler hefyd: Rhestr dinasoedd Wcráin.

Wcráin: Geirdarddiad, Daearyddiaeth, Hanes 
Golygfa o Barc Cenedlaethol Carpathia a Hoverla, sef mynydd 2,061 metr - mynydd uchaf Wcráin

Mae Wcráin yn wlad fawr yn Nwyrain Ewrop, sy'n gorwedd yn bennaf yng Ngwastadedd Dwyrain Ewrop. Hi yw'r wlad Ewropeaidd ail-fwyaf, ar ôl Rwsia. Mae'n cynnwys ardal o 603,628 metr sg ac mae ganddi arfordir o 2,782 km. Mae'n gorwedd rhwng lledredau 44 ° a 53 ° Gog, a hydoedd 22 ° a 41 ° Dwyr.

Mae adnoddau naturiol sylweddol yn Wcrain yn cynnwys mwyn haearn, glo, manganîs, nwy naturiol, olew, halen, sylffwr, graffit, titaniwm, magnesiwm, caolin, nicel, mercwri, pren a digonedd o dir âr. Er gwaethaf hyn, mae'r wlad yn wynebu nifer o faterion amgylcheddol mawr fel cyflenwadau annigonol o ddŵr yfed, datgoedwigo, llygredd aer a dŵr, ynghyd â ymbelydredd damwain 1986 Atomfa Niwclear Chernobyl.

Hinsawdd

Wcráin: Geirdarddiad, Daearyddiaeth, Hanes 
Dosbarthiad hinsawdd Köppen yn Wcrain

Mae gan Wcrain hinsawdd dymherus ar y cyfan, ac eithrio arfordir deheuol y Crimea sydd â hinsawdd isdrofannol. Mae'r hinsawdd yn cael ei dylanwadu gan aer gweddol gynnes a llaith sy'n dod o Gefnfor yr Iwerydd. Gall y tymeredd blynyddol cyfartalog amrywio o 5.5–7 °C (41.9–44.6 °F) yn y gogledd, i 11–13 °C (51.8–55.4 °F) yn y de. Dosberthir y dyodiad yn anghymesur: mae ar ei uchaf yn y gorllewin a'r gogledd ac ar ei isaf yn y dwyrain a'r de-ddwyrain. Mae Gorllewin Wcráin, yn enwedig ym Mynyddoedd Carpathia, yn derbyn tua 1,200 mm o law yn flynyddol, tra bod Crimea ac ardaloedd arfordirol y Môr Du yn derbyn tua 400 mm. Mewn cymhariaeth, ceir cyfartaledd o 4,473 mm o law ar y Grib Goch, yr Wyddfa, yn flynyddol.

Bioamrywiaeth

Mae Wcráin yn cynnwys chwe ecoregions daearol: coedwigoedd cymysg Canol Ewrop, cyfadeilad coedwigoedd Isdrofannol y Crimea , paith coedwig Dwyrain Ewrop, coedwigoedd cymysg Pannonaidd, coedwigoedd conwydd mynyddig Carpathia, a'r paith Pontig. Mae Wcráin yn gartref i gasgliad amrywiol o anifeiliaid, ffyngau, micro-organebau a phlanhigion. 

Hanes

Hanes cynnar

Wcráin: Geirdarddiad, Daearyddiaeth, Hanes 
Pectoral Sgythian Aur, neu ddarn gwddf, o kurgan (safle brenhinol) yn Pokrov, wedi'i ddyddio i'r 4g CC

Gwelir anheddiad Neanderthalaidd yn Wcráin yn safleoedd archeolegol Molodova (43,000-45,000 CC) sy'n cynnwys esgyrn mamoth. Gellir cymharu hyn gyda'r darganfyddiad o ddant Neanderthal yn Ogof Bontnewyd, sy'n dyddio nôl i tua 225,000 o flynyddoedd CP. Ystyrir mai yma hefyd yw'r lleoliad mwyaf tebygol lle dofwyd ceffylau am y tro cyntaf.

Caiff anheddiadau dynol modern yn Wcráin a'i gyffiniaueu dyddio'n ôl i 32,000 CC, gyda thystiolaeth o'r diwylliant Grafetaidd ym Mynyddoedd y Crimea. Erbyn 4,500 CC, roedd diwylliant Oes Newydd y Cerrig (neu'r Neolithig) Cucuteni-Trypillia yn ffynnu mewn ardaloedd eang o Wcráin gan gynnwys Trypillia a'r cyfan o Dnieper-Dniester. Yn ystod yr Oes Haearn roedd Cimeriaid, Sgythiaid a Sarmatiaid yn byw ar y tir hwn. Rhwng 700 CC a 200 CC roedd yn rhan o'r Deyrnas Sgythian, neu Sgythia.

Gan ddechrau yn y 6g CC, sefydlwyd cytrefi o Groeg yr Henfyd, Rhufain hynafol, a'r Ymerodraeth Fysantaidd, megis Tyras, Olbia, a Chersonesus, ar lan ogledd-ddwyreiniol y Môr Du. Ffynnodd y cytrefi hyn ymhell i'r 6g OC. Arhosodd y Gothiaid yn yr ardal, ond daethant o dan ddylanwad yr Hyniaid o'r 370au OC ymlaen. Yn y 7g, y diriogaeth sydd bellach yn nwyrain Wcrain oedd canolbwynt Bwlgaria Fawr. Ar ddiwedd y ganrif, ymfudodd mwyafrif llwythau'r Bwlgar i gyfeiriadau gwahanol, a chymerodd y Khazariaid drosodd lawer o'r tir.

Yn y bumed a'r 6g, roedd yr Antes wedi'u lleoli yn nhiriogaeth yr hyn sydd bellach yn Wcráin. Roedd yr Antes yn hynafiaid i'r Wcreiniaid: Croatiaid Gwyn, Severiaid, Polans, Drevlyans, Dulebes, Ulichianiaid, a Tiverianiaid. Sefydlodd ymfudiadau o Wcráin ledled y Balcanau lawer o genhedloedd De Slafaidd. Arweiniodd ymfudiadau gogleddol, a gyrhaeddodd bron i Llyn Ilmen, at ymddangosiad y Slafiaid Ilmen, Krivichs, a Radimichiaid, llinach y Rwsiaid. Ar ôl cyrch Avar yn 602 a chwymp Undeb Antes, goroesodd y mwyafrif o'r bobloedd hyn fel llwythau ar wahân tan ddechrau'r ail mileniwm.

Oes Aur Kyiv

Wcráin: Geirdarddiad, Daearyddiaeth, Hanes 
Arweiniodd bedydd yr Uwch Dywysog Vladimir yn 988 at fabwysiadu Cristnogaeth yn Kievan Rus'.

Sefydlwyd ‘Kievan Rus’ yn nhiriogaeth y Polans Dwyreiniol, a oedd yn byw ymhlith afonydd Ros, Rosava, a Dnieper. Daeth yr hanesydd Rwsiaidd Boris Rybakov arbenigwr mewn ieithyddiaeth a chroniclau Rwsia i'r casgliad bod undeb Polans o lwythi'r rhanbarth canol Dnieper yn galw ei hun wrth enw un o'i lwythi, "Ros", a ymunodd â'r undeb ac a oedd yn hysbys o leiaf ers y 6g ymhell y tu hwnt i'r byd Slafaidd. Mae tarddiad tywysogaeth Kyiv yn ddadl fawr ac mae o leiaf dair fersiwn yn bodoli, yn dibynnu ar y dehongliadau o'r croniclau. Yn gyffredinol credir bod Kievan Rus' yn cynnwys rhan ganolog, orllewinol a gogleddol Wcráin fodern, Belarus, llain ddwyreiniol bellaf Gwlad Pwyl a rhan orllewinol Rwsia heddiw. Yn ôl y Prif Gronicle roedd elit y Rus yn cynnwys Varangiaid o Sgandinafiaid i ddechrau.

Ail Ryfel Byd

Wcráin: Geirdarddiad, Daearyddiaeth, Hanes 
Datblygiad tiriogaethol SSR Wcráin, 1922–1954

Yn dilyn Goresgyniad Gwlad Pwyl ym Medi 1939, rhannodd milwyr yr Almaen a Rwsia diriogaeth Gwlad Pwyl. Felly, daeth Dwyrain Galicia a Volhynia gyda'u poblogaeth Wcrain yn rhan o Wcráin. Am y tro cyntaf mewn hanes, unwyd y genedl.

Ymosododd byddinoedd yr Almaen ar yr Undeb Sofietaidd (gw. Cyrch Barbarossa) ar 22 Mehefin 1941, gan gychwyn bron i bedair blynedd o ryfela. I ddechrau, datblygodd yr Echel yn erbyn ymdrechion enbyd ond aflwyddiannus y Fyddin Goch. Ym mrwydr amgylchynu Kiev, cafodd y ddinas ei chanmol fel " Dinas-Arwr ", oherwydd ei gwrthwynebiad ffyrnig. Lladdwyd neu cymerwyd mwy na 600,000 o filwyr Sofietaidd yno, gyda llawer yn dioddef camdriniaeth ddifrifol.

Er bod mwyafrif yr Iwcraniaid wedi ymladd yn y Fyddin Goch, yng Ngorllewin Wcrain cododd mudiad Byddin Gwrthryfel Wcrain annibynnol (UPA, 1942). Fe'i sefydlwyd fel llu arfog tanddaear (Mudiad Cenedlaetholwyr Wcreineg, OUN) ac fe ddatblygodd yng Ngwlad Pwyl rhwng y ddau ryfel fel sefydliad cenedlaetholgar. Yn ystod y cyfnod rhwng y ddau ryfel, roedd polisïau llywodraeth Gwlad Pwyl tuag at y lleiafrif Wcreineg yn gynnes iawn i ddechrau, ond erbyn diwedd y 1930au daethant yn fwyfwy llym oherwydd aflonyddwch sifil. Cefnogodd y ddau sefydliad, OUN ac UPA y nod o wladwriaeth Wcreineg annibynnol.

Gan ddechrau yng nghanol 1943 ac yn para tan ddiwedd y rhyfel, cynhaliodd UPA cyrchoedd dileu Pwyliaid ethnig yn rhanbarthau Volhynia a Dwyrain Galicia, gan ladd tua 100,000 o sifiliaid Pwylaidd. Roedd y cyflafanau trefnus yn ymgais gan OUN i greu gwladwriaeth Wcreineg homogenaidd heb leiafrif Pwylaidd yn byw o fewn ei ffiniau, ac i atal y wladwriaeth Bwylaidd ar ôl y rhyfel rhag honni ei sofraniaeth dros ardaloedd a oedd wedi bod yn rhan o Wlad Pwyl cyn y rhyfel. Ar ôl y rhyfel, parhaodd yr UPA i ymladd yr Undeb Sofietaidd tan y 1950au. Ar yr un pryd, ymladdodd Byddin Annibyniaeth Wcrain, mudiad cenedlaetholgar arall, ochr yn ochr â'r Natsïaid. 

Wcráin: Geirdarddiad, Daearyddiaeth, Hanes 
Dioddefodd Kiev yn aruthrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac fe'i meddiannwyd gan yr Almaenwyr rhwng 19 Medi 1941 hyd at 6 Tachwedd 1943.

Amcangyfrifir bod cyfanswm yr Iwcraniaid ethnig a ymladdodd yn rhengoedd y Fyddin Sofietaidd rhwng 4.5 miliwn"World wars". Encyclopedia of Ukraine. Cyrchwyd 20 December 2007. a 7 miliwn. Amcangyfrifir bod y niferoedd a ymladdodd fel milwyr gerila, pleidiol i'r Sofietiaid yn Wcrain yn 47,800 ar y dechrau, i tua 500,000 yn ei anterth ym 1944, gyda thua 50% yn Wcraniaid ethnig. Yn gyffredinol, mae ffigurau Byddin Gwrthryfel Wcrain yn annibynadwy, gyda ffigurau'n amrywio o 15,000 i gymaint â 100,000 o ymladdwyr.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd

Difrodwyd y weriniaeth yn drwm gan y rhyfel, ac roedd angen ymdrechion sylweddol i'w hadfer. Dinistriwyd dros 700 o ddinasoedd a threfi a 28,000 o bentrefi. Gwaethygwyd y sefyllfa gan newyn ym 1946-47, a achoswyd gan ddinistr y rhyfel. Mae'r nifer a fu farw yn y newyn hwn yn amrywio, gyda hyd yn oed yr amcangyfrif isaf yn y degau o filoedd. Ym 1945, daeth SSR Wcráin yn un o aelodau-sefydlu cyntaf y Cenhedloedd Unedig, rhan o gytundeb arbennig yng Nghynhadledd Yalta.

Erbyn 1950, roedd y weriniaeth wedi rhagori ar lefelau cynhyrchu diwydiannol cyn y rhyfel. Yn ystod cynllun pum mlynedd 1946-1950, buddsoddwyd bron i 20% o'r gyllideb Sofietaidd yn Wcrain, cynnydd o 5% o gynlluniau cyn y rhyfel. O ganlyniad, cododd gweithlu Wcrain 33.2% rhwng 1940 a 1955 tra tyfodd allbwn diwydiannol 2.2 gwaith yn yr un cyfnod. 

Yn fuan daeth Wcráin Sofiet yn arweinydd Ewropeaidd ym maes cynhyrchu diwydiannol, ac yn ganolfan bwysig yn y diwydiant arfau Sofietaidd ac ymchwil uwch-dechnoleg. Arweiniodd rôl mor bwysig at ddylanwad mawr yr elît lleol. Daeth llawer o aelodau arweinyddiaeth yr Sofietiaid o Wcráin, yn fwyaf arbennig Leonid Brezhnev. Yn ddiweddarach, fe gymerodd le Khrushchev a daeth yn arweinydd Sofietaidd rhwng 1964 a 1982. Daeth llawer o chwaraewyr, gwyddonwyr ac artistiaid amlwg o Wcráin. 

Ar 26 Ebrill 1986, ffrwydrodd adweithydd yn Atomfa Niwclear Chernobyl, gan arwain at drychineb Chernobyl, damwain yr adweithydd niwclear gwaethaf mewn hanes. Hwn oedd yr unig ddamwain i dderbyn y sgôr uchaf bosibl o 7 gan y Raddfa Digwyddiad Niwclear Rhyngwladol, tan drychineb niwclear Fukushima Daiichi ym mis Mawrth 2011. Ar adeg y ddamwain, roedd 7 miliwn o bobl yn byw yn yr ardal, gan gynnwys 2.2 miliwn yn Wcráin.

Annibyniaeth

Wcráin: Geirdarddiad, Daearyddiaeth, Hanes 
Llofnododd Arlywydd Wcráin Leonid Kravchuk ac Arlywydd Ffederasiwn Rwsia Boris Yeltsin Cydsyniadau Belavezha, gan ddiddymu'r Undeb Sofietaidd, ar 8 Rhagfyr 1991

Ar 21 Ionawr 1990, trefnwyd cadwyn ddynol fel rhan o'r ymgyrch dros annibyniaeth Wcráin rhwng Kiev a Lviv, er cof am uniad 1919 (Deddf Uno) Gweriniaeth Pobl Wcráin a Gweriniaeth Genedlaethol Gorllewin Wcráin. Daeth dinasyddion allan i'r strydoedd a'r priffyrdd, gan ffurfio cadwyni o bobl yn dal dwylo i gefnogi annibyniaeth eu gwlad.

Ar 16 Gorffennaf 1990, mabwysiadodd y senedd newydd y Datganiad o Sofraniaeth Gwladwriaethol Wcráin. Sefydlodd hyn egwyddorion hunanbenderfyniad, democratiaeth, annibyniaeth, a blaenoriaeth cyfraith Wcráin dros gyfraith Sofietaidd. Fis yn gynharach, mabwysiadwyd datganiad tebyg gan senedd SFSR Rwsia. Dechreuodd hyn gyfnod o wrthdaro â'r awdurdodau Sofietaidd canolog. Ar Hydref 2–17, 1990, cynhaliwyd "y Chwyldro ar Wenithfaen" yn Wcráin, prif bwrpas y weithred oedd atal llofnodi cytundeb undeb newydd yr Undeb Sofietaidd. Bodlonwyd gofynion y myfyrwyr trwy lofnodi penderfyniad o'r Verkhovna Rada, a oedd yn gwarantu eu gweithredu.

Ym mis Awst 1991, ceisiodd carfan ymhlith arweinwyr Comiwnyddol yr Undeb Sofietaidd coup i gael gwared ar Mikhail Gorbachev ac adfer pŵer y blaid Gomiwnyddol. Ond wedi iddi fethu, ar 24 Awst 1991, mabwysiadodd senedd Wcrain y Ddeddf Annibyniaeth.

Y Chwyldro Oren

Wcráin: Geirdarddiad, Daearyddiaeth, Hanes 
Protestwyr yn Sgwâr Annibyniaeth ar ddiwrnod cyntaf y Chwyldro Oren

Yn 2004, cyhoeddwyd mai Viktor Yanukovich, y Prif Weinidog ar y pryd, oedd enillydd yr etholiadau arlywyddol, a oedd wedi eu rigio, fel y dyfarnodd y Goruchaf Lys yn ddiweddarach. Achosodd hyn gryn ymateb gan y bobl, fel cefnogaeth i ymgeisydd yr wrthblaid, Viktor Yushchenko, a heriodd y canlyniad. Yn ystod misoedd cythryblus y chwyldro, yn sydyn aeth yr ymgeisydd Yushchenko yn ddifrifol wael, a buan y canfuwyd gan grwpiau meddygon annibynnol lluosog iddo gael ei wenwyno gan ddeuocsin TCDD. Roedd Yushchenko yn amau'n gryf mai Rwsia wnaeth ei wenwyno. Yn y pen draw, arweiniodd hyn oll at y Chwyldro Oren heddychlon, gan ddod â Viktor Yushchenko a Yulia Tymoshenko i rym, wrth fwrw Viktor Yanukovych yn wrthblaid.

Goresgyniad gan Rwsia

Gwleidyddiaeth

Mae Wcráin yn weriniaeth o dan system lled-arlywyddol lled-seneddol gymysg gyda changhennau deddfwriaethol, gweithrediaeth (ecseciwtif) a barnwrol ar wahân. Enw'r senedd yw'r Verkhovna Rada.

Cyfansoddiad Wcráin

Wcráin: Geirdarddiad, Daearyddiaeth, Hanes 
Yn yr oes fodern, mae Wcráin wedi dod yn wlad fwy democrataidd. Mae'r llun hwn yn dangos etholwyr yn pleidleisio mewn etholiad seneddol yn 2007. Sylwer ar y blychau pleidleisio tryloyw.

Gyda chyhoeddi annibyniaeth ar 24 Awst 1991, a mabwysiadu cyfansoddiad ar 28 Mehefin 1996, daeth Wcráin yn weriniaeth lled-arlywyddol. Fodd bynnag, yn 2004, cyflwynodd y dirprwyon newidiadau i'r Cyfansoddiad, a oedd yn troi'r cydbwysedd pŵer o blaid system seneddol. Rhwng 2004 a 2010, cafodd cyfreithlondeb gwelliannau Cyfansoddiadol 2004 sancsiwn swyddogol, gyda Llys Cyfansoddiadol Wcráin, a'r mwyafrif o'r prif bleidiau gwleidyddol. Er gwaethaf hyn, ar 30 Medi 2010 dyfarnodd y Llys Cyfansoddiadol fod y gwelliannau yn ddi-rym, gan orfodi dychwelyd i delerau Cyfansoddiad 1996 gan wneud system wleidyddol Wcráin yn fwy arlywyddol ei chymeriad.

Daeth y dyfarniad ar welliannau Cyfansoddiadol 2004 yn bwnc o bwys yn y byd gwleidyddol. Roedd llawer o'r pryder yn seiliedig ar y ffaith nad oedd Cyfansoddiad 1996 na Chyfansoddiad 2004 yn darparu'r gallu i "ddadwneud y Cyfansoddiad", fel y byddai gan benderfyniad y Llys Cyfansoddiadol, er y gellir dadlau bod gan gyfansoddiad 2004 restr o weithdrefnau posibl ar gyfer diwygiadau cyfansoddiadol (erthyglau 154–159). Beth bynnag, gellid addasu'r Cyfansoddiad presennol trwy bleidlais yn y Senedd. 

Ar 21 Chwefror 2014 cafwyd cytundeb rhwng yr Arlywydd i ddychwelyd i Gyfansoddiad 2004. Dilynodd y cytundeb hanesyddol, a froceriwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, y protestiadau Euromaidan a ddechreuodd ddiwedd mis Tachwedd 2013 ac a ddaeth i ben gydag wythnos o wrthdaro treisgar lle lladdwyd ugeiniau o wrthdystwyr. Yn ogystal â dychwelyd i Gyfansoddiad 2004, roedd y fargen yn darparu ar gyfer ffurfio llywodraeth glymblaid, galw etholiadau cynnar, a rhyddhau’r cyn Brif Weinidog Yulia Tymoshenko o’r carchar. Diwrnod ar ôl dod i'r cytundeb diswyddodd senedd Wcráin, Viktor Yanukovich, a gosod ei siaradwr Oleksandr Turchynov yn arlywydd dros dro ac Arseniy Yatsenyuk fel Prif Weinidog Wcráin.

Lluoedd arfog

Wcráin: Geirdarddiad, Daearyddiaeth, Hanes 
Mae Henadii Lachkov, rheolwr mintai Wcrain yn yr Heddlu Aml-Genedlaethol - Irac, yn cusanu baner ei wlad

Ar ôl diddymu'r Undeb Sofietaidd, etifeddodd Wcráin lu milwrol 780,000 o ddynion gydag arsenal o arfau niwclear - y trydydd-fwyaf yn y byd. Ym Mai 1992, llofnododd Wcráin Brotocol Lisbon lle cytunodd y wlad i ildio’r holl arfau niwclear i Rwsia i’w gwaredu ac ymuno â’r Cytundeb Ymlediad Niwclear Niwclear fel gwladwriaeth arfau nad yw’n niwclear. Cadarnhaodd Wcráin y cytundeb ym 1994, ac erbyn 1996 daeth y wlad yn gwbwl rydd o arfau niwclear.

Cymerodd Wcráin gamau cyson tuag at leihau arfau confensiynol hefyd. Llofnododd y Cytundeb Lluoedd Arfog Confensiynol Ewrop, a oedd yn galw am leihau tanciau, magnelau a cherbydau arfog a gostyngwyd lluoedd y fyddin i 300,000. Mae'r wlad yn bwriadu trosi'r fyddin gyfredol sy'n seiliedig ar gonsgript yn llu filwrol gwirfoddol proffesiynol.

Is-adrannau gweinyddol

Mae'r system o israniadau Wcráin yn adlewyrchu statws y wlad fel gwladwriaeth unedol (fel y nodwyd yng nghyfansoddiad y wlad) gyda chyfundrefnau cyfreithiol a gweinyddol unedig ar gyfer pob uned.

Gan gynnwys Sevastopol a Gweriniaeth Ymreolaethol y Crimea a atodwyd gan Ffederasiwn Rwsia yn 2014, mae Wcráin yn cynnwys 27 rhanbarth: pedwar oblast ar hugain (taleithiau), un weriniaeth ymreolaethol (Gweriniaeth Ymreolaethol y Crimea), a dwy ddinas o statws arbennig - Kiev, y brifddinas, a Sevastopol. Mae'r 24 oblast a Crimea wedi'u hisrannu'n 136 raions (ardaloedd) a bwrdeistrefi dinesig o arwyddocâd rhanbarthol, neu unedau gweinyddol ail lefel.

Gwahaniaethau rhanbarthol

Wcreineg yw'r brif iaith yng Ngorllewin Wcráin ac yng Nghanol Wcráin, tra mai Rwseg yw'r brif iaith yn ninasoedd Dwyrain Wcráin a De Wcráin. Yn ysgolion SSR Wcrain, roedd dysgu Rwsieg yn orfodol; ar hyn o bryd yn Wcráin fodern, mae ysgolion sydd â Wcreineg fel iaith addysgu yn cynnig dosbarthiadau mewn Rwseg ac yn yr ieithoedd lleiafrifol eraill.

Yn ystod etholiadau mae pleidleiswyr oblasts (taleithiau) Gorllewin a Chanolbarth Wcráin yn pleidleisio'n bennaf dros bleidiau ac ymgeiswyr arlywyddol gyda llwyfan diwygio pro-Orllewinol a gwladwriaethol, tra bod pleidleiswyr yn oblasts De a Dwyrain yn pleidleisio dros bleidiau ac ymgeiswyr arlywyddol gyda llwyfan pro-Rwsiaidd a thros gadw'r status quo. Fodd bynnag, mae'r gwahaniaeth daearyddol hwn yn lleihau'n flynyddol.

Trefoli

Fel trosolwg, mae gan Wcráin 457 o ddinasoedd, mae 176 ohonynt wedi'u labelu'n "oblast", 279 dinas "raion, a dwy ddinas statws cyfreithiol arbennig. Yna ceir 886 o drefi a 28,552 o bentrefi.

Demograffeg

Yn ôl Cyfrifiad Wcráin 2001, mae'r Wcreiniaid ethnig yn ffurfio 77.8% o'r boblogaeth. Grwpiau mawr eraill ydy'r Rwsiaid (17.3%), Belarwsiaid (0.6%), Moldofiaid (0.5%), Tatariaid Crimea (0.5%), Bwlgariaid (0.4%), Hwngariaid (0.3%), Rwmaniaid (0.3%), Pwyliaid (0.3%), Iddewon (0.2%), Armeniaid (0.2%), Groegwyr (0.2%) a'r Tatariad eraill (0.2%). Poblogaeth wrban sy gan Wcráin gyda 67.2% yn byw mewn trefi.

Ers degawd a mwy mae argyfwng demograffaidd yn y wlad gyda mwy yn marw na'r genedigaethau. Genedigaethau 9.55 /1,000 poblogaeth, Marwolaethau 15.93 /1,000 poblogaeth. Mae lefel iechyd isel yn y wlad yn cyfrannu at hyn ac yn 2007 roedd y boblogaeth yn gostwng ar y pedwerydd gyflymdra yn y byd.

Telir 12,250 hryvnia (tua £120) am y plentyn cyntaf, 25,000 hryvnia (tua £250) am yr ail a 50,000 hryvnia (tua £500) am y trydydd a phedwerydd. Dim ond mewn chwarter o'r ardaloedd mae cynnydd poblogaeth - i gyd yng ngorllewin y wlad. Rhwng 1991 a 2004, symudodd tua 3.3 miliwn i mewn i Wcráin (o'r Undeb Sofietaidd) ac aeth 2.5 miliwn allan - y rhan fwyaf i'r Undeb Sofietaidd. Yn 2006, roedd tua 1.2 million Canadiaid o dras Wcreiniaid yn arbennig yng ngorllewin Canada.

Addysg

Wcráin: Geirdarddiad, Daearyddiaeth, Hanes 
Y diwrnod olaf yn ysgol 47 yn Donetsk.

Yn ôl cyfansoddiad Wcráin, rhoddir mynediad i addysg am ddim i bob dinesydd. Mae addysg uwchradd gyffredinol gyflawn yn orfodol yn ysgolion y wladwriaeth sy'n ffurfio'r mwyafrif llethol. Darperir addysg uwch am ddim mewn sefydliadau addysgol gwladol a chymunedol ar sail gystadleuol. Mae yna hefyd nifer fach o sefydliadau addysg uwchradd ac uwch preifat achrededig.

Oherwydd pwyslais yr Undeb Sofietaidd ar fynediad rhydd ac am ddim o fewn y system addysg - i bob dinesydd, amcangyfrifir bod y gyfradd llythrennedd yn 99.4%."Ukraine". CIA World Factbook. 13 December 2007. Cyrchwyd 24 December 2007. Ers 2005, disodlwyd rhaglen ysgol 11-mlynedd gydag un 12-mlynedd: mae addysg gynradd yn cymryd pedair blynedd i'w chwblhau, gan ddechrau yn chwech oed, ac mae addysg ganol (uwchradd) yn cymryd pum mlynedd i'w chwblhau; yna mae'r uwchradd uchaf yn cymryd tair blynedd. Yn y 12fed blwyddyn o addysg, mae'r myfyrwyr yn sefyll profion canolog, y cyfeirir atynt hefyd fel arholiadau gadael ysgol. Defnyddir y profion hyn yn ddiweddarach ar gyfer derbyniadau i brifysgol.

Economi

Wcráin: Geirdarddiad, Daearyddiaeth, Hanes 
Kiev, canolfan ariannol y wlad

Mae gan Wcráin economi incwm canolig-is, sef y 55fed economi fwyaf yn y byd yn ôl cynnyrch mewnwladol crynswth / CMC enwol, a'r 40fed-fwyaf gan PPP. Mae'n un o allforwyr grawn mwyaf y byd, ac weithiau fe'i gelwir yn "Fasged Bara Ewrop". Fodd bynnag, y wlad yw' un o'r gwledydd tlotaf yn Ewrop ac mae hefyd ymhlith y rhai mwyaf llygredig yn y cyfandir.

Yn 2019, cyrhaeddodd y cyflog enwol ar gyfartaledd yn Wcrain € 300 y mis, tra yn 2018, cyfoeth canolrifol Wcráin fesul oedolyn oedd $40, un o'r isaf yn y byd. Roedd tua 1.1% o Iwcraniaid yn byw o dan y llinell dlodi genedlaethol yn 2019, ac roedd diweithdra yn y wlad yn 4.5% yn 2019, tra bod tua 5-15% o boblogaeth Wcrain yn cael eu categoreiddio fel dosbarth canol. Mae dyled llywodraeth Wcráin oddeutu 52% o'i CMC enwol.

Cynhyrcha Wcráin bron pob math o gerbydau cludo a llongau gofod. Allforir awyrennau Antonov a thryciau KrAZ i lawer o wledydd. Mae'r mwyafrif o allforion Wcrain yn cael eu marchnata i'r Undeb Ewropeaidd a'r Gymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol (CIS). Ers annibyniaeth, mae Wcráin wedi cynnal ei asiantaeth ofod ei hun, Asiantaeth Ofod y Wladwriaeth Wcráin (SSAU). Daeth yn gyfranogwr gweithredol mewn archwilio gofod a synhwyro o bell. Rhwng 1991 a 2007, mae Wcráin wedi lansio chwe lloeren a wnaed ganddynt a 101 o gerbydau lansio.

Mae Wcráin yn cynhyrchu ac yn prosesu ei nwy naturiol a'i betroliwm ei hun. Fodd bynnag, mae'r wlad yn mewnforio'r rhan fwyaf o'i chyflenwadau ynni, ac mae 80% o gyflenwadau nwy naturiol yn cael eu mewnforio'nn bennaf o Rwsia.

Cynhyrchu pŵer

Wcráin: Geirdarddiad, Daearyddiaeth, Hanes 
Gorsaf niwclear Zaporizhzhia, yr atomfa niwclear fwyaf yn Ewrop

Mae Wcráin wedi bod yn wlad allforio ynni net, er enghraifft yn 2011, allforiwyd 3.3% o'r trydan a gynhyrchwyd, ond hefyd yn un o ddefnyddwyr ynni mwyaf Ewrop. Yn 2011 roedd 47.6% o gyfanswm y trydan a gynhyrchwyd yn dod o ynni niwclear Mae'r gwaith pŵer niwclear mwyaf yn Ewrop, Gwaith Pŵer Niwclear Zaporizhzhia, wedi'i leoli yn Wcrain. Hyd at y 2010au, roedd holl danwydd niwclear (Wraniwm ayb) Wcráin yn dod o Rwsia. Yn 2008 enillodd Westinghouse Electric Company gontract pum mlynedd yn gwerthu tanwydd niwclear i dri adweithydd Wcráinaidd, gan ddechrau yn 2011.

Gorsafoedd pŵer thermol glo a nwy a trydan dŵr yw'r ail a'r trydydd math mwyaf o gynhyrchu pŵer yn y wlad. 

Twristiaeth

Yn 2007 Wcráin oedd yr 8fed safle yn Ewrop yn ôl nifer y twristiaid a ymwelodd, yn ôl safleoedd Sefydliad Twristiaeth y Byd. Ceir nifer o atyniadau i dwristiaid: mynyddoedd sy'n addas ar gyfer sgïo, heicio a physgota: arfordir y Môr Du fel cyrchfan boblogaidd yn yr haf; gwarchodfeydd natur gwahanol ecosystemau; eglwysi, adfeilion cestyll a thirnodau pensaernïol a pharciau eraill. Kiev, Lviv, Odessa a Kamyanets-Podilskyi yw prif ganolfannau twristiaeth Wcráin. Arferai twristiaeth fod yn brif gynheiliad economi'r Crimea ond bu cwymp mawr yn nifer yr ymwelwyr wedi 2014.

Saith Rhyfeddod Wcráin a Saith Rhyfeddod Naturiol Wcráin yw'r mannau mwyaf poblogaidd yn Wcráin.

Diwylliant

Wcráin: Geirdarddiad, Daearyddiaeth, Hanes 
Casgliad o wyau Pasg Wcreineg traddodiadol - pysanky. Mae'r motiffau dylunio ar pysanky yn dyddio'n ôl i ddiwylliannau Slafaidd cynnar.
Wcráin: Geirdarddiad, Daearyddiaeth, Hanes 
Rushnyk, brodwaith Wcrain

Mae Cristnogaeth Uniongred, y brif grefydd yn y wlad, yn dylanwadu'n drwm ar arferion Wcráin. Mae rolau rhyw hefyd yn tueddu i fod yn fwy traddodiadol, ac mae neiniau a theidiau'n chwarae mwy o ran wrth fagu plant, nag yn y Gorllewin.  Mae diwylliant Wcráin hefyd wedi cael ei ddylanwadu gan ei gymdogion dwyreiniol a gorllewinol, a adlewyrchir yn ei phensaernïaeth, ei cherddoriaeth a'i chelf. 

Cafodd yr oes Gomiwnyddol ddylanwad eithaf cryf ar gelf a llenyddiaeth Wcráin. Ym 1932, gwnaeth Stalin bolisi gwladwriaethol "realaeth sosialaidd" o fewn yr Undeb Sofietaidd. Roedd hyn yn mygu creadigrwydd a gwahniaeth barn yn fawr. Yn ystod yr 1980au cyflwynwyd glasnost (didwylledd) a daeth artistiaid ac ysgrifenwyr Sofietaidd yn rhydd unwaith eto i fynegi eu barn eu hunain.

Cyfeiriadau

Dolennau allanol

    Llywodraeth

Tags:

Wcráin GeirdarddiadWcráin DaearyddiaethWcráin HanesWcráin GwleidyddiaethWcráin DemograffegWcráin AddysgWcráin EconomiWcráin DiwylliantWcráin CyfeiriadauWcráin Dolennau allanolWcráinBelarwsEwropFfederasiwn RwsiaGweriniaethGwladGwlad PwylHwngariMoldofaMôr AzovRwmaniaSlofaciaY Môr Du

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Y Llynges FrenhinolCyfathrach rywiolPervez MusharrafPidyn26 MawrthAberjaberOblast ChelyabinskCeffylDonald Tusk20gAbaty Dinas BasingColomen1954Catrin ferch Owain Glyn DŵrGweriniaethSpotifyFaytonçuCyrch BarbarossaWolves of The NightDerbynnydd ar y topBad Golf My WayOsteoarthritisGwyddoniadurHenry Watkins Williams-WynnRadioheadBrexitWicipediaO Princezně, Která RáčkovalaAshland, OregonSgerbwd dynolTeyrnas GwyneddEingl-SacsoniaidLibiaBoris JohnsonPandemig COVID-19WordPressFranklin, OhioVirginiaPlaid wleidyddolDydd Iau CablydGoresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022Iago VI yr Alban a I LloegrCodiadPwylegCysawd yr HaulHugo ChávezEginegAngela 2Kieffer MooreCasachstanSochiRhestr adar CymruCyflwr cyfarcholY we fyd-eangGogledd AmericaNodiant cerddorolGalileo GalileiBoduanKinorejissor Arif BabayevLloegrDic Jones🡆 More