Sefydliad cyfryngol dielw yw WikiLeaks sy'n cynnal gwefan sy'n rhyddhau gwybodaeth gyfrinachol ar yr egwyddor fod gan y cyhoedd yr hawl i wybod.
Fe'i sefydlwyd ar ddiwedd Rhagfyr 2006 gan grŵp o newyddiadurwyr o sawl gwlad a ddaeth at ei gilydd yn wreiddiol dan yr enw Sunshine Press yn 1997. Ers ei sefydlu mae WikiLeaks wedi tyfu'n gyflym ac wedi ennill sylw dros y byd. Ei phrif olygydd yw Julian Assange, newyddiadurwr o Awstralia.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad rhyngwladol, whistleblower platform |
---|---|
Crëwr | Julian Assange |
Awdur | Julian Assange |
Iaith | Saesneg |
Dechrau/Sefydlu | 4 Hydref 2006 |
Sylfaenydd | Julian Assange |
Enw brodorol | WikiLeaks |
Gwefan | https://wikileaks.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gweler hefyd yr adran 'Symudiadau yn erbyn WikiLeaks ers Cablegate' isod.
Cafodd cartref Theodor Reppe, cofrestrydd enw parth y WikiLeaks Almaenig, sef wikileaks.de, ei chwilio gan yr heddlu ar 24 Mawrth 2009 ar ôl i WikiLeaks ryddhau rhestr ddu sensoriaeth yr Australian Communications and Media Authority (ACMA). Nid effeithwyd ar wefan WikiLeaks ei hun.
Mae llywodraeth Gweriniaeth Pobl Tsieina yn defnyddio ei Phrosiect y Darian Euraidd (Golden Shield Project) i geisio sensrio pob gwefan gyda "wikileaks" yn ei URL, yn cynnwys y brif wefan .org a'r amrywiadau rhanbarthol .cn ac .uk. Ond mae mynediad i'r wefan ar gael er hynny trwy un o'r sawl enw amgen, fel "secure.sunshinepress.org". Mae'r gwefannau amgen hyn yn newid yn aml, ac mae WikiLeaks yn cynghori pobl i chwilio'r "wikileaks cover names" cyfredol y tu allan i Tsieina. Mae peiriannau chwilio ar dir mawr Tsieina, yn cynnwys rhai Baidu a Yahoo!, yn sensorio pob cyfeiriad at "wikileaks".
Ar 16 Mawrth 2009, ychwanegodd yr Australian Communications and Media Authority wefan WikiLeaks i'r rhestr ddu o wefannau a fydd yn cael ei blocio i bawb yn Awstralia os caiff y cynllun sensoriaeth ffiltro rhyngrwyd gorfodol ei weithredu fel y bwriedir.
Ar 25 Tachwedd 2010, anfonodd yr 'UK Defence, Press and Broadcasting Advisory Committee' "Defence Advisory Notices" ("DA-Notices") i bapurau newydd yn y DU cyn cyhoeddi 250,000 o geblau a dogfennau diplomyddol cudd Americanaidd gan WikiLeaks (gweler isod). Mae'r "DA-Notices" hyn yn galw ar olygyddion i beidio a chyhoeddi neu ddarlledu eitemau penodol er mwyn "amddiffyn diogelwch cenedlaethol".
Yn ôl The Times, mae WikiLeaks a'i aelodau wedi cwyno am "ymyrraeth barhaol" ac am gael eu gwylio gan asiantiaethau'r gyfraith a sefydliadau gwybodaeth gudd. Mae hyn yn cynnwys cael eu dal am gyfnodau estynedig, meddiannu cyfrifiaduron, bygythiadau, a “covert following and hidden photography".
Yn y gorffennol, mae WikiLeaks wedi honni fod Facebook wedi dileu ei thudalen gefnogwyr o'r wefan rwydeithio cymdeithasol honno. Erbyn hyn (Rhagfyr 2010) ceir tudalen arall yn ei le.
Ym 2010, cyhoeddodd gwefan WikiLeaks ddau set o ddogfennau cyfrinachol sy'n datgelu gwybodaeth am weithgareddau Byddin yr Unol Daleithiau yn y rhyfeloedd yn Affganistan ac Irac. Mae'r dogfennau cyntaf yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol am y Rhyfel yn Affganistan. Mae'r ail, a gyhoeddwyd ar 22 Hydref 2010, yn cynnwys 391,832 adroddiad ("The Iraq War Logs") gan filwyr Americanaidd am Ryfel Irac am y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2004 hyd 31 Rhagfyr 2009. Cafodd y wybodaeth ei rhyddhau i WikiLeaks gan ffynhonnell anhysbys yn y Pentagon. Ceir manylion am 109,032 o farwolaethau yn Irac, sy'n cynnwys marw 66,081 o 'sifilwyr'; 23,984 o'r 'gelyn' ('gwrthryfelwyr'); 15,196 o bobl yn lluoedd llywodraeth Irac a 3,771 o farwolaethau milwyr 'cyfeillgar' (lluoedd y Cynghreiriaid, Americanwyr yn bennaf).
Ar 22 Tachwedd 2010, cyhoeddwyd ar drydar Wikileaks y byddai'r datguddiad nesaf yn "7 gwaith maint yr Iraq War Logs." Ar 28 Tachwedd, cyhoeddodd Wikileaks fod ei gwefan yn dioddef "Distributed Denial-of-service attack" anferth, ond gaddodd y byddai'n dal i ryddhau gasgliad mawr o geblau a dogfennau diplomatig o eiddo llywodraeth yr Unol Daleithiau trwy gytundeb rhagllaw gyda'r papurau newydd El País (Sbaen), Le Monde (Ffrainc), Der Spiegel (Yr Almaen), The Guardian (DU), a'r New York Times (UDA). Yn fuan wedyn, cyhoeddodd y Guardian rhai o'r dogfennau hynny, yn cynnwys un lle mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau Hillary Clinton yn gorchymyn i ddiplomyddion Americanaidd gael manylion cardiau credyd, cyfrineiriau ebost a gwybodaeth bersonol arall am gynrychiolwyr Ffrainc, y DU, Rwsia a Tsieina yng Nghyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, yn ogystal â gwybodaeth gyffelyb am staff blaenllaw y CU ei hun, yn cynnwys yr Ysgrifennydd Cyffredinol. Datgelwyd hefyd fod cynghreiriaid Arabaidd yr Unol Daleithiau yn Arabia, yn cynnwys brenin Sawdi Arabia, wedi galw ar America i ymosod ar Iran, bod llywodraeth Gweriniaeth Pobl Tsieina yn cymryd rhan mewn hacio cyfrifiadurau, a bod taflegrau Americanaidd yn taro targedau "terfysgol" yn Iemen er bod llywodraeth y wlad honno, mewn cytundeb gyda'r Americanwyr, yn dweud yn gyhoeddus mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau hynny.
Mewn ymateb i'r datgeliadau, galwodd un cyngreswr Americanaidd, Peter T. King am enwi WikiLeaks yn "sefydliad terfysgol". Dywedodd Hilary Clinton fod y datgeliadau yn "ymosodiad ar y gymuned ryngwladol". Cafwyd bygythiadau niferus i lofruddio Julian Assange, aelodau o'i deulu, cyfreithwyr a staff WikiLeaks. Rhoddodd y seneddwr Americanaidd John Ensign symudiad o flaen y senedd yn ceisio cyhoeddi WikiLeaks yn "fygythiad trawswladol" ("transnational threat") a chafwyd galwadau i asasineiddio Assange gan Marc Thiessen yn y Washington Post, Bill O'Reilly (sy'n gweithio i Fox News) ac eraill.
Ers iddo ddechrau cyhoeddi'r dogfennau "Cablegate" ar 28 Tachwedd 2010 mae Wikileaks wedi wynebu sawl cais i dynnu'r wefan i lawr ac atal ei weithgareddau.
Cafwyd y cyntaf o sawl ymosodiad DDoS anferth yn erbyn gwefan swyddogol WikiLeaks.
Ataliodd cmwni Tableau Software y defnydd o'i feddalwedd delweddu gan wefan WikiLeaks. Cyfaddefodd llefarydd ar ran y cwmni i hyn ddigwydd ar gais gan y Seneddwr Joe Lieberman, seneddwr annibynnol gyda chysylltiadau clos â'r Blaid Ddemocrataidd. Galwodd Liebermann ar bob cwmni a busnes i dorri ei gysylltiad â WikiLeaks.
Ataliodd Amazon ddefnydd WikiLekas o'i wasanaeth EC2 cloud.
Tynnod EveryDNS.com (UDA) brif wefan WikiLeaks (Wikileaks.org) o'i wasanaeth gyda'r canlyniad nad oedd yn bosibl ei chyrraedd. Dywedodd EveryDNS iddynt wneud hynny am fod ymosodiadau DDoS yn effeithio ar ei system. Symudodd WikiLeaks i'w parth wrth gefn yn y Swistir, sef wikileaks.ch.
Ar yr un pryd yn Ffrainc, ysgrifennodd Eric Bresson at gwmniau rhyngrwyd Ffrengig yn eu rhybuddio i beidio hostio WikiLeaks a rhybuddiodd y byddai "ganlyniadau" yn wynebu unrhyw gwmni a anwybyddai'r rhybudd.
Terfynnodd PayPal, a berchnogir gan eBay, ei gytundeb gyda WikiLeaks. Mewn canlyniad atalwyd cefnogwyr rhag gyfrannu arian. Fel cyfiawnhad, dywedodd "[it] cannot be used for any activities that encourage, promote, facilitate or instruct others to engage in illegal activity."
Daeth y cwmni Swisaidd Switch dan bwysau aruthrol gan lywodraethau Ffrainc ac UDA i atal cynnal gwefannau WikiLeaks, ond gwrthododd.
Terfynnodd y cwmni Ffrengig OVH ei wasanaeth rhyngrwyd i WikiLeaks. Newidiodd WikiLeaks i'r cwmni Swedaidd y Pirate Party.
Terfynnodd MasterCard ei wasanaeth. Dywedodd llefarydd "MasterCard is taking action to ensure that WikiLeaks can no longer accept MasterCard-branded products."
Daeth gwasanaethyddion rhyngrwyd WikiLeaks yn Sweden dan ymosodiad DDoS anferth.
Rhewodd PostFinance, gwasanaeth post y Swistir, gyfrif personol Julian Assange ar "technicality".
Ataliodd cwmni cardiau credyd VISA ei wasanaethau i WikiLeaks. Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni "Visa Europe has taken action to suspend Visa payment acceptance on WikiLeaks' website pending further investigation into the nature of its business and whether it contravenes Visa operating rules."
Cyhoeddodd y Bank of America ei fod yn atal pobl rhag cyfrannu arian i WikiLeaks "am resymau polisi mewnol."
Sylwer: efallai na fydd rhai o'r dolenni WikiLeaks hyn yn gweithio gan fod y wefan wedi gorfod symud ei gwasanaethyddion sawl gwaith oherwydd Cablegate.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article WikiLeaks, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.