Roedd Unol Daleithiau Awstria Fawr neu Vereinigten Staaten von Groß-Österreich (hefyd, Vereinigte Staaten von Großösterreich) yn syniad gan garfan wleidyddol oedd yn agos i'r Archddug Franz Ferdinand ar sut gellid ad-drefnu Ymerodraeth Awstria-Hwngari ar ffurf ffederal gan ateb pryderon a galwadau y gwahanol genhedloedd oddi fewn i'r ymerodraeth aml-ethnig.
Ni wireddwyd mor prosiect. Prif ladmerydd ac arbenigwr y prosiect oedd y cyfreithiwr a'r gwleidydd Rwmanaidd, Aurel Popovici, a gyhoeddodd y cynllun yn 1906.
Erbyn dechrau'r 20g roedd cwestiwn hawliau cenedlaethol ac ieithyddol y dwsin neu ragor o genhedloedd a chymunedau oddi fewn i Ymerodraeth Awstria-Hwngari yn chwarae rhan ganolog yng ngwleidyddiaeth y frenhiniaeth.
Sefydlodd Cyfaddawd Awstria-Hwngari yn 1867 frenhiniaeth ddeuol. Llwyddodd y Cyfaddawd i ail-sefydlu, i bob pwrpas, annibyniaeth Hwngari gan ei wneud yn annibynnol o reolaeth ganolog Awstria. Ond achosodd y ffafriaeth a ddangoswyd i'r Hwngariaid, ail gymuned genedlaethol ac ieithyddol fwyaf yr Ymerodraeth ar ôl yr Almaenwyr, i genhedloedd eraill oedd o dan eu rheolaeth, fel y Slofaciaid a'r Rwmaniaid i deimlo'n anniddig
Problem fwyaf yr Ymerodraeth oedd bod y ddwy brif genedl yr Almaenwyr a'r Hwngariaid (oedd ond ill dau ond yn 44% o holl boblogaeth yr Ymerodraeth) yn tra-arglwyddiaethu ar y cenhedloedd eraill - sef dros hanner y boblogaeth. O fewn tiriogaeth Hwngari o'r Ymerodraeth roedd pwysau Magyareiddio trwm a llym i geisio troi iaith ac hunaniaeth y Croatiaid, Slofaciaid a Rwmaniaid i mewn i un Hwngareg. Roedd polisiau tebyg i'r Welsh Not yng Nghymru yn cael eu gweithredu yno a diffyg cydnabyddiaeth o genedligrwydd y Slofaciaid, er enghraifft..
Bwriad yr Archddug Franz Ferdinand pan ddeuai yn Ymeradwr oedd ail-lunio'r Ymerodraeth gan roi hawliau i daleithiau newydd oddi fewn i system Cyd-ffederal. Golygai hyn docio ar rym a maint Hwngari - polisi na fyddai'n boblogaidd gan y Magyariaid. Gyda saethu'r Archddug yn Sarajevo yn 1914 ac yna ymrannu'r Ymerodraeth wedi'r Rhyfel Mawr, ni wireddwyd y cynllun, er i Ymeradwr olaf Awstria-Hwngari, Karl I wneud addewidion sylweddol i ddatganoli'r Ymerodraeth a rhoi hawliau cenedlaethol i'r Slafiaid a'r cenhedloedd eraill yn nyddiau olaf y Rhyfel.
Gyda cholli'r Rhyfel Byd Cyntaf bu i'r Ymerodraeth ymrafael wrth i'r gwahanol genhedloedd ddatgan annibyniaeth o'r rym y canol. Gyda Cytundeb Saint-Germain ar 10 Medi 1919 lluniwyd ffiniau yr hyn oedd yn weddill o ochr Awstria o'r Ymerodraeth. Gyda llofnodi Cytundeb Trianon ar 4 Mehefin 1920 lluniwyd ffiniau newydd gwladwriaeth lai Hwngari. Roedd sawl ffin a gynigiwyd ym map UDAF yn debyg i ffiniau'r gwladwriaethau newydd.
Yn ôl cynlluniau Popovici, byddai'r tiriogaethau canlynol yn dod yn daleithiau o'r ffederasiwn ar ôl y diwygiad. Roedd hefyd elfen gref o statws a datganoli diwylliannol ac ieithyddol i fod oddi fewn i rai o'r dinasoedd mawrion a rhanbarthau yn y taleithiau hefyd. Roedd y rhain fel rheol (ond nid yn unig) yn pauoedd lle roedd yr iaith Almaeneg yn brif iaith neu'n iaith â chanran sylweddol o siaradwyr. Mae'r grwpiau ethnig canlynol ym mhob tiriogaeth wedi'u rhestru felly.
Yn ogystal, byddai elfen gref o ymrealaeth oddi fewn i'r taleithiau lle ceid 'ynysoedd' Almaeneg ei hiaith yn y Dwyrain; Transylvania, y Banat a rhannau eraill o Hwngari, deheudir Slofenia, dinasoedd mawr (megis Prâg, Budapest, Lviv, ac eraill).
Byddai gwireddu'r cynllun yma wedi bod yn her enfawr. Ymysg y prif feini tramgwydd byddai:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Unol Daleithiau Awstria Fawr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.