Rhanbarth yr Eidal yng ngogledd yr Eidal yw Trentino-Alto Adige (Eidaleg: Trentino-Alto Adige, Almaeneg: Trentino–Südtirol).
Dinas Trento yw'r brifddinas.
Math | rhanbarth ymreolaethol gan statud arbennig |
---|---|
Prifddinas | Trento |
Poblogaeth | 1,072,276 |
Pennaeth llywodraeth | Maurizio Fugatti |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Eidaleg, Almaeneg, Ladineg |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 13,606.87 ±0.01 km² |
Uwch y môr | 749 metr |
Yn ffinio gyda | Canton y Grisons, Tirol, Salzburg, Veneto, Lombardia |
Cyfesurynnau | 46.38°N 11.42°E |
IT-32 | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Trentino-Alto Adige |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Rhanbarthol Trentino-Alto Adige |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | arlywydd Trentino-Alto Adige |
Pennaeth y Llywodraeth | Maurizio Fugatti |
Mae'r rhanbarth yn cynnwys dwy dalaith, Trento (a elwir fel arfer yn "Trentino") a Bolzano. Rodd yn rhan o Awstria-Hwngari hyd nes i'r Eidal ei feddiannu yn 1919. Dros y rhanbarth i gyd, mae tua 60% o'r boblogaeth yn siarad Eidaleg fel iaith gyntaf, 35% yn siarad Almaeneg a 5% Ladin. Ceir bron y cyfan o'r siaradwyr Almaeneg yn nhalaith Bolzano, lle mae 69% yn siarad Almaeneg fel iaith gyntaf. Y prif ddinasoedd yw Trento a Bolzano.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 1,029,475.
Rhennir y rhanbarth yn ddwy dalaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Trentino-Alto Adige, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.