Dinas yn Siberia, Rwsia, yw Tyumen (Rwseg: Тюмень; IPA: ) sy'n ddinas fwyaf a chanolfan weinyddol Oblast Tyumen, Dosbarth Ffederal Ural, ac a leolir ar lan Afon Tura 2,500 cilometer (1,600 milltir) i'r dwyrain o Foscfa.
Yn ôl cyfrifiad Rwsia 2010 mae 581,907 o bobl yn byw yn y ddinas.
Math | tref/dinas, endid tiriogaethol gwleidyddol, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 861,100 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Ruslan Kukharuk |
Cylchfa amser | UTC+05:00 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tyumen Urban Okrug |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 698.48 km² |
Uwch y môr | 102 metr |
Cyfesurynnau | 57.15°N 65.53°E |
Cod post | 625000 |
Pennaeth y Llywodraeth | Ruslan Kukharuk |
Tyumen oedd yr aneddiad Rwsiaidd cyntaf yn Siberia. Fe'i sefydlwyd yn 1586 fel canolfan i hyrwyddo ymlediad Rwsia i'r dwyrain ac mae'n aros yn un o'r canolfannau diwydiannol ac economaidd pwysicaf i'r dwyrain o Fynyddoedd yr Wral. Saif ar groesffordd sawl llwybr masnach mawr gyda mynediad i afonydd gall llongau eu defnyddio, ffaith a arweiniodd at dwf cyflym Tyumen o aneddiad milwrol bychan i fod yn ddinas fasnachol fawr. Yng nghanol Hen Tyumen ceir sawl adeilad hanesyddol sy'n adlewyrchu hanes hir y ddinas.
Heddiw mae Tyumen yn ganolfan busnes o bwys. Tyumen yw canolfan cludiant a diwydiant Oblast Tyumen, ardal gyfoethog mewn adnoddau naturiol ac sy'n ymestyn o'r ffin rhwng Rwsia a Casacstan i Gefnfor yr Arctig.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tyumen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.