Tom Cruise: Cyfarwyddwr ffilm a chynhyrchydd a aned yn Syracuse yn 1962

Mae Tom Cruise (ganed Thomas Cruise Mapother IV; 3 Gorffennaf 1962) yn actor a gwneuthurwr ffilmiau Americanaidd.

Yn ôl y cylchgrawn Forbes, ef yw'r seren enwocaf a mwyaf dylanwadol yn y byd.

Tom Cruise
Tom Cruise: Bywyd cynnar, Gyrfa, Bywyd personol
GanwydThomas Cruise Mapother IV Edit this on Wikidata
3 Gorffennaf 1962 Edit this on Wikidata
Syracuse, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Man preswylBeacon Hill, Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Henry Munro Middle School
  • Glen Ridge High School
  • St. Xavier High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, actor, hedfanwr, cyfarwyddwr, perfformiwr stỳnt Edit this on Wikidata
Taldra170 centimetr Edit this on Wikidata
TadThomas Cruise Mapother III Harry Potter Edit this on Wikidata
MamMary Lee Pfeifferlol Edit this on Wikidata
PriodMimi Rogers, Nicole Kidman, Katie Holmes Edit this on Wikidata
PartnerRebecca De Mornay, Penélope Cruz Edit this on Wikidata
PlantSuri Cruise, Isabella Jane Cruise, Connor Cruise Edit this on Wikidata
PerthnasauWilliam Mapother Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd, Gwobr Golden Globe am Actor Gorau - Ffilm Sioe-gerdd neu Gomedi, Gwobr y Glob Aur am yr Actor Cefnogol Gorau - ar ffim, IAS Freedom Medal, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Saturn am Actor Gorau, Q1321674, Satellite Award for Best Actor in a Musical or Comedy, Golden Globes, Palme d'Or, Gwobr Saturn, Critics' Choice Movie Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.tomcruise.com Edit this on Wikidata
llofnod
Tom Cruise: Bywyd cynnar, Gyrfa, Bywyd personol

Dechreuodd ei yrfa actio'n 19 mlwydd oed gyda'r ffilm Endless Love yn 1981. Ar ôl rolau cefnogol yn Taps (1981) a The Outsiders (1983), cafodd ei brif rôl gyntaf yn y comedi rhamantaidd Risky Business a ryddhawyd ym mis Awst 1983.

Daeth i amlygrwydd ar ôl serennu fel Pete "Maverick" Mitchell yn y ffilm ddrama acsiwn Top Gun (1986). Ers 1996, fe'i adnabyddir ar gyfer ei rôl fel Ethan Hunt yn y ffilmiau Mission: Impossible, a'r ffilm fwyaf diweddar yn y gyfres yw Mission: Impossible - Fallout a ryddhawyd yn 2018.

Ers 1990, mae Cruise wedi bod yn gysylltiedig â'r corff o gredoau ac ymarferion crefyddol Seientoleg.

Bywyd cynnar

Ganwyd Cruise yn Syracuse, Efrog Newydd yn fab i Mary Lee (yn gynt Pfeiffer), athrawes addysg arbennig, a Thomas Cruise Mapother III (1934-84), peiriannydd trydanol. Mae'n frawd i dair chwaer Mary Lee, Marian a Cass. Mae ganddo linach Gwyddelig,Almaenaidd a Seisnig.

Magwyd Cruise yn dlawd o fewn magwraeth Gatholig. Cam-driniwyd ef a'i deulu gan y tad ac y mae wedi'i ddisgrifio fel "a merchant of chaos." Yn ôl Cruise, roedd ei dad yn fwli ac yn gachadur, a chafodd ei guro ganddo.

He was the kind of person where, if something goes wrong, they kick you. It was a great lesson in my life—how he'd lull you in, make you feel safe and then, bang! For me, it was like, 'There's something wrong with this guy. Don't trust him. Be careful around him.'

Symudodd y teulu i Ottawa, Canada yn 1971 er mwyn i'r tad gymryd swydd yn gweithio fel ymgynghorydd amddiffyn gyda'r Lluoedd Arfog yn y wlad. Ar ôl cyfnod yng Nghanada, gadawodd y fam y tad gan fynd â'r plant gyda hi'n ôl i'r Unol Daleithiau. Yn nes ymlaen, bu farw ei dad o ganser.

Am gyfnod byr, mynychodd coleg offeiriadol Ffransisgaidd yn Cincinnati ar ôl derbyn ysgoloriaeth gan yr eglwys gyda'r uchelgais o hyfforddi fel offeiriad. Yn ei flwyddyn olaf chwaraeodd pêl-droed i dîm y coleg cyn cael ei ddiarddel o'r sgwad ar ôl iddo gael ei ddal yn yfed cwrw cyn gêm.

Trwy ei fywyd, mynychodd Cruise 15 ysgol dros 14 o flynyddoedd.

Gyrfa

Tom Cruise: Bywyd cynnar, Gyrfa, Bywyd personol 
Cruise yn y 61ain Gwobrau'r Academi, 1989

Un o'r sêr ffilmiau mwyaf yn Hollywood, dechreuodd yrfa actio Cruise yn 19 mlwydd oed gyda'r ffilm Endless Love yn 1981. Serennodd mewn nifer o ffilmiau llwyddiannus yn yr 1980au, gan gynnwys y ffilmiau drama The Color of Money (1986), Cocktail (1988), Rain Man (1988), a Born on the Fourth of July (1989).

Tom Cruise: Bywyd cynnar, Gyrfa, Bywyd personol 
Cruise yn Sunnyvale, Califfornia, 2006

Yn yr 1990au, serennodd mewn llawer o ffilmiau llwyddiannus eto, gan gynnwys y ffilm rhamantaidd Far and Away (1992), y ffilm ddrama A Few Good Men (1992), y ffilm gyffrous The Firm (1993) y ffilm rhamantaidd arswydus Interview with the Vampire: The Vampire Chronicles (1994), y comedi-ddrama rhamantaidd Jerry Maguire (1996), y ffilm gyffrous erotig Eyes Wide Shut, a'r ffilm ddrama Magnolia (y ddwy yn 1999).

Yn y 2000au, serennodd Cruise mewn nifer o ffilmiau llwyddiannus eraill, gan gynnwys y ffilmiau gyffrous ffuglen wyddonol Vanilla Sky (2001) a Minority Report (2002), y ffilm ryfel The Last Samurai (2003), y ffilm drosedd Collateral (2004), y ffilm drychineb ffuglen wyddonol War of the Worlds (2005), y ffilm ddrama ryfel Lions for Lambs (2007), y ffilm gyffrous hanesyddol Valkyrie (2008), a'r comedi acsiwn Knight and Day (2010). Yn 2012, serennodd yn y ffilm gyffrous Jack Reacher, y ffilm ffuglen wyddonol ôl-apocalyptaidd Oblivion (2013), a'r ffilm ffuglen wyddonol filwrol Edge of Tomorrow (2014). Yn 2016 ailgydiodd yn ei rôl fel Jack Reacher yn y ffilm Jack Reacher: Never Go Back.

Yn 2017, serennodd Cruise mewn adfywiad o'r gyfres ffilmiau The Mummy a seiliwyd ar ffilm arswyd 1932 Boris Karloff. Yn 2018, ailgydiodd yn ei rôl fel Ethan Hunt eto yn Mission: Impossible - Fallout, y chweched ffilm yn y gyfres.

Tom Cruise: Bywyd cynnar, Gyrfa, Bywyd personol 
Cruise yn premiere Edge of Tomorrow ym Mharis, 2014.

Yn 2012, Cruise oedd yr actor gyda'r tâl uchaf yn Hollywood. Enillodd 16 o'i ffilmiau dros $100 miliwn yn yr Unol Daleithiau, ac enillodd 22 dros $200 miliwn yn fyd-eang.

Gwobrau ac enwebiadau

Mae Cruise wedi ennill Gwobrau Glôb Aur ar gyfer y Perfformiad Gorau gan Actor mewn Ffilm Ddrama yn 1990 ar gyfer Born on the Fourth of July; Perfformiad Gorau gan Actor mewn Ffilm Gomedi/Gerdd yn 1997 ar gyfer Jerry Maguire; a'r Perfformiad Gorau gan Actor mewn Rôl Gefnogol mewn Ffilm yn 2000 ar gyfer Magnolia. Yn 2002, enillodd Cruise Wobr Saturn ar gyfer yr Actor Gorau ar gyfer Vanilla Sky, ac yn 2003 enillodd Wobr AFI ar gyfer Ffilm y Flwyddyn ar gyfer The Last Samurai a Gwobr Empire ar gyfer yr Actor Gorau ar gyfer Minority Report.

Mae Cruise hefyd wedi derbyn tri enwebiad Gwobr yr Academi, ar gyfer Born on the Fourth of July, Jerry Maguire a Magnolia.

Bywyd personol

Tom Cruise: Bywyd cynnar, Gyrfa, Bywyd personol 
Cruise gyda Katie Holmes, 2009

Cafodd Cruise berthynas gyda'i gyd-seren Risky Business Rebecca De Mornay (1983-1985), yn ogystal â chanlyn y gantores ac actores Cher, hefyd yn 1985.

Mae Cruise wedi bod yn briod ac wedi ysgaru tair gwaith. Priododd yr actoresau Mimi Rogers (yn briod 1987-1990), Nicole Kidman(yn briod 1990-2001) a Katie Holmes (yn briod 2006 - 2012). Yn ogystal â'r priodasau hyn, cafodd berthynas gyda'r actores Penélope Cruz (2001-2004) ar ôl y briodas i Kidman, ond cyn y briodas i Holmes.

Mae gan Cruise dri o blant, dau fabwysiedig ac un biolegol. Mabwysadiodd ferch gyda Kidman o'r enw Isabella yn 1992 a mab o'r enw Connor yn 1995. Gyda Holmes, cafodd un ferch o'r enw Suri, a fe'i ganwyd yn 2006.

Seientoleg

Yn ystod ei berthynas gyda Mimi Rogers, daeth Cruise yn rhan, ac yn hwyrach, yn ddadleuwr brwd dros yr Eglwys Seientoleg a'i rhaglenni cymdeithasol cysylltiedig. Wedi brwydr gyda dyslecsia o oedran ifanc, mae Cruise wedi dweud bod Seientoleg, yn enwedig cymorth Study Tech L. Ron Hubbard, wedi'i helpu goresgyn y cyflwr.

Yn fwy diweddar, taniwyd sawl dadl oherwydd barn Cruise tuag at Seientoleg, gan gynnwys siarad yn erbyn seiciatreg a chyffuriau gwrthiselder a siaradodd yn benodol yn erbyn yr actores Brooke Shields a'i defnydd o'r cyffur paroxetine. Ymatebodd yr actores, gan ddweud "[Cruise] should stick to saving the world from aliens and let women who are experiencing postpartum depression decide what treatment options are best for them."

Tom Cruise: Bywyd cynnar, Gyrfa, Bywyd personol 
Cruise gyda Mimi Rogers yng Ngwobrau'r Academi, 1989

Cododd Cruise arian i Downtown Medical er mwyn iddynt gynnig therapi dadwenwyno i weithwyr achub 9/11 ar sail gwaith L. Ron Hubbard. Derbyniodd hyn feirniadaeth gan feddygon a diffoddwyr tân. Sbardunodd ddadlau ar ôl ei ymddangosiad mewn fideo YouTube sy'n hybu Seientoleg.

Yn ogystal â hyn, y mae wedi ymdrechu hybu'r crefydd ac i sicrhau ei fod yn derbyn cydnabyddiaeth yn Ewrop. Yn 2005, datgelodd Cyngor Dinas Paris bod Cruise wedi lobio swyddogion Nicolas Sarkozy a Jean-Claude Gaudin, sydd wedi mynd yn eu blaenau i'w ddisgrifio fel llefarydd milwriaethus dros Seientoleg, ac wedi gwrthod delio ag ef yn dyfodol.

Crëwyd a chyflwynwyd y Fedal Ryddid Seientoleg ar gyfer Dewrder i Cruise gan arweinydd y mudiad David Miscavige yn 2004.

Ffilmyddiaeth

Ffilmiau

Teitl Blwyddyn Rôl Cyfarwyddwr Nodiadau Cyfeiriad(au)
Endless Love 1981 Billy Franco Zeffirelli
Taps 1981 David Shawn Harold Becker
The Outsiders 1983 Francis Ford Coppola
Losin' It 1983 Woody Curtis Hanson
Risky Business 1983 Joel Goodson Paul Brickman
All the Right Moves 1983 Stefen Djordjevic Michael Chapman
Legend 1985 Jack Ridley Scott
Top Gun 1986 Lt. Pete "Maverick" Mitchell Tony Scott
The Color of Money 1986 Vincent Lauria Martin Scorsese
Cocktail 1988 Brian Flanagan Roger Donaldson
Rain Man 1988 Charlie Babbitt

Barry Levinson

Born on the Fourth of July 1989 Ron Kovic Oliver Stone
Days of Thunder 1990 Cole Trickle Tony Scott Hefyd yn ysgrifennwr (stori)
Far and Away 1992 Joseph Donelly Ron Howard
A Few Good Men 1992 Lt. Daniel Kaffee Rob Reiner
The Firm 1993 Mitch McDeere Sydney Pollack
Interview with the Vampire 1994 Lestat de Lioncourt Neil Jordan
Mission: Impossible 1996 Ethan Hunt Brian De Palma Hefyd yn gynhyrchydd
Jerry Maguire 1996 Jerry Maguire Cameron Crowe
Without Limits 1998 Robert Towne Cynhyrchydd
Eyes Wide Shut 1999 William Harford Stanley Kubrick
Magnolia 1999 Frank T. J. Mackey Paul Thomas Anderson
Mission: Impossible II 2000 Ethan Hunt John Woo Hefyd yn gynhyrchydd
Stanley Kubrick: A Life in Pictures 2001 Adroddwr Jan Harlan
The Others 2001 Alejandro Amenábar Uwch-gynhyrchydd
Vanilla Sky 2001 David Aames Cameron Crowe Hefyd yn gynhyrchydd
Space Station 3D 2002 Toni Myers Adroddwr
Minority Report 2002 John Anderton Steven Spielberg
Austin Powers in Goldmember 2002 Ei hun fel Austin Powers Jay Roach Cameo
Narc 2002 Joe Carnahan Uwch-gynhyrchydd
Shattered Glass 2003 Billy Ray Uwch-gynhyrchydd
The Last Samurai 2003 Nathan Algren Edward Zwick Hefyd yn gynhyrchydd
Collateral 2004 Vincent Michael Mann
War of the Worlds 2005 Ray Ferrier Steven Spielberg
Elizabethtown 2005 Cameron Crowe Cynhyrchydd
Ask the Dust 2006 Robert Towne Cynhyrchydd
Mission: Impossible III 2006 Ethan Hunt J. J. Abrams Hefyd yn gynhyrchydd
Lions for Lambs 2007 Y Seneddwr Jasper Irving Robert Redford
Tropic Thunder 2008 Les Grossman Ben Stiller
Valkyrie 2008 Claus von Stauffenberg Bryan Singer
Knight and Day 2010 Roy Miller James Mangold
Mission: Impossible – Ghost Protocol 2011 Ethan Hunt Brad Bird Hefyd yn gynhyrchydd
Rock of Ages 2012 Stacee Jaxx Adam Shankman Fe'i gredydwyd ar drac sain y ffilm:
"Paradise City"
"Wanted Dead or Alive"
"I Want To Know What Love Is"
"Pour Some Sugar On Me"
"Here I Go Again"
"Every Rose Has Its Thorn"
"Rock You Like A Hurricane"
"Don't Stop Believin"
Jack Reacher 2012 Jack Reacher Christopher McQuarrie Hefyd yn gynhyrchydd
Oblivion 2013 Jack Harper Joseph Kosinski
Edge of Tomorrow 2014 Maj. William Cage Doug Liman
Mission: Impossible – Rogue Nation 2015 Ethan Hunt Christopher McQuarrie Hefyd yn gynhyrchydd
Jack Reacher: Never Go Back 2016 Jack Reacher Edward Zwick Hefyd yn gynhyrchydd
The Mummy 2017 Nick Morton Alex Kurtzman
American Made 2017 Barry Seal Doug Liman
Mission Impossible - Fallout 2018 Ethan Hunt Christopher McQuarrie Hefyd yn gynhyrchydd
Top Gun: Maverick 2019 Pete "Maverick" Mitchell Joseph Kosinski Ffilmio; hefyd yn gynhyrchydd

Teledu

Teitl Blwyddyn Rôl Sianel Nodiadau
Fallen Angels 1993 Showtime Pennod: "The Frightening Frammis" (director)
Preacher 2016 Gohebydd AMC Peilot

Cyfeiriadau

Tags:

Tom Cruise Bywyd cynnarTom Cruise GyrfaTom Cruise Bywyd personolTom Cruise FfilmyddiaethTom Cruise CyfeiriadauTom Cruise19623 GorffennafForbes

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Sant ap CeredigFfenolegRhyfel y CrimeaEfnysienGhana Must GomarchnataPsilocybinEssexS4CHwferIago II & VII, brenin Lloegr a'r AlbanCyfrifegCarcharor rhyfelCeri Wyn JonesSwydd AmwythigCynaeafuFideo ar alwJess DaviesSt PetersburgOlwen ReesCaintHeartRiley ReidColmán mac LénéniDrudwen fraith AsiaYsgol Rhyd y LlanNorwyaidSimon BowerDisgyrchiant2020Cyfarwyddwr ffilmEtholiad nesaf Senedd CymruCastell y BereRhifEconomi CaerdyddBatri lithiwm-ionOriel Gelf GenedlaetholSex TapeRhestr o ddirwasgiadau yng Ngwledydd PrydainMaría Cristina Vilanova de ÁrbenzMarcel ProustWelsh TeldiscLerpwlCeredigion194269 (safle rhyw)Y Gwin a Cherddi EraillGweinlyfuCymdeithas yr IaithKumbh MelaIndiaid Cochion1792Ynni adnewyddadwy yng NghymruHen wraigDafydd HywelCaerdyddCynanBeti GeorgeFaust (Goethe)Twristiaeth yng NghymruRhywiaethGeorge Brydges Rodney, Barwn 1af RodneyCaethwasiaethYsgol Cylch y Garn, LlanrhuddladRaja Nanna RajaY Chwyldro DiwydiannolBBC Radio CymruLlan-non, CeredigionBlaengroen🡆 More