Mae Mission: Impossible - Fallout yn ffilm ysbïo acsiwn Americanaidd 2018 a'r chweched yng nghyfres y ffilmiau Mission: Impossible.
Fe'i hysgrifennwyd, cyfarwyddwyd a chynhyrchwyd gan Christopher McQuarrie. Serenna Tom Cruise, Rebecca Ferguson, Ving Rhames, Simon Pegg, Michelle Monaghan, Alec Baldwin a Sean Harris sydd i gyd yn ailgydio yn eu rolau o'r ffilmiau blaenorol. Ymuna Henry Cavill, Vaness Kirby, Sian Brooke ac Angela Bassett â'r fasnachfraint.
Mission: Impossible – Fallout | |
---|---|
Cyfarwyddwyd gan | Christopher McQuarrie |
Cynhyrchwyd gan |
|
Awdur (on) | Christopher McQuarrie |
Seiliwyd ar | Mission: Impossible gan Bruce Geller |
Yn serennu |
|
Cerddoriaeth gan | Lorne Balfe |
Sinematograffi | Rob Hardy |
Golygwyd gan | Eddie Hamilton |
Stiwdio |
|
Dosbarthwyd gan | Paramount Pictures |
Rhyddhawyd gan |
|
Hyd y ffilm (amser) | 147 munud |
Gwlad | Yr Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Cyfalaf | $178 miliwn |
Gwerthiant tocynnau | $329.8 miliwn |
Rhyddhawyd y ffilm ar 27 Gorffennaf 2018.
Yn ogystal â'r chweched ffilm hon, cynhwysa'r gyfres y ffilmiau canlynol: Mission: Impossible (1996), Mission: Impossible II (2000), Mission: Impossible III (2006), Mission: Impossible - Ghost Protocol (2011) a Mission: Impossible - Rogue Nation (2015).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mission: Impossible - Fallout, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.