Dinas yng ngogledd Moroco yw Tétouan (enw Berber sy'n golygu llygaid, Arabeg: تطوان, Sbaeneg: Tetuán; weithiau hefyd Tettawen neu Tettawin yn lleol).
Dyma unig borthladd Moroco ar lan y Môr Canoldir, sy'n gorwedd rhai milltiroedd i'r de o Gulfor Gibraltar a thua 40 milltir (60 km) i'r de-ddwyrain o Tanger ac i'r de o alldir Sbaenaidd Ceuta. Mae'n ganolfan weinyddol yr ardal o'r un enw, sy'n rhan o ranbarth Tanger-Tétouan. Poblogaeth: 320,539 (cyfrifiad 2004). Fe'i gwasanaethir gan Faes Awyr Sania Ramel.
Math | urban commune of Morocco |
---|---|
Poblogaeth | 380,787 |
Cylchfa amser | CET |
Gefeilldref/i | Santa Fe |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Tétouan |
Gwlad | Moroco |
Uwch y môr | 90 metr |
Cyfesurynnau | 35.57°N 5.37°W |
Cod post | 93000 |
Mae'n un o'r ychydig leoedd ym Moroco a'r Maghreb gyda chymuned bur sylweddol o Gristnogion. Tan y 1950au bu cymuned sylweddol o Iddewon yma hefyd, a ffôdd gyda'r Morisgiaid Arabaidd o Al-Andalus yn Sbaen yn y 15g. Arabeg yw'r iaith gyffredin ond mae lleiafrif yn siarad un o'r ieithoedd Berber ac mae Ffrangeg a Sbaeneg yn ail ieithoedd i nifer o bobl dosbarth canol hefyd.
Yn gorwedd ym mhen gogleddol eithaf mynyddoedd y Rif, mae'r ddinas yn gorwedd rhwng y mynyddoedd hynny a'r môr. Mae'r wlad oddi amgylch yn dir amaethyddol da lle tyfir ffrwythau a llysiau.
Mae medina (hen ddinas) Tétouan wedi ei dynodi gan UNESCO fel Safle Treftadaeth y Byd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tétouan, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.