Mae Ceuta yn diriogaeth Sbaenaidd 19 km², sy'n rhan o ranbarth Andalucía yn Sbaen, ar arfordir Gogledd Affrica.
Mae'n wynebu'r Môr Canoldir i'r gogledd ac yn ffinio â Moroco (rhanbarth Tanger-Tétouan) yn y de. Mae gan Ceuta, ynghyd â'r dref o'r un enw sy'n brifddinas iddi (Arabeg Sebta o'r Lladin Septem), boblogaeth o 70,000.
Math | dinas ymreolaethol Sbaen |
---|---|
Poblogaeth | 83,039 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2, Africa/Ceuta |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Daniele Fasanella |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Extrapeninsular Spain |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 18.5 km² |
Uwch y môr | 10 ±1 metr |
Gerllaw | Y Môr Canoldir |
Yn ffinio gyda | Belyounech, Tangier-Tetouan-Al Hoceima |
Cyfesurynnau | 35.88667°N 5.3°W |
Cod post | 51000–51999 |
ES-CE | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Assembly of Ceuta |
Sefydlwydwyd gan | Punic people |
Yn ôl traddodiad, ymwelodd Ercwlff (Heracles) ac Odysseus (Ulusses) yma. Roedd yn borthfa filwrol dan y Rhufeiniaid. Fe'i rheolwyd gan yr Ymerodraeth Fysantaidd ar ôl hynny ac yna yn 931 fe'i meddianwyd gan reolwyr Umayyad newydd Andalucía. Roedd y bardd Ibn Sahl o Sevilla yn Ceuta rhwng 1248 a 1250 yng ngwasanaeth y llywodraethwr lleol. Cipiodd Siâms I o Aragon y ddinas yn 1309 ac yn 1415 fe'i cipwyd gan Portiwgal. Rhwng 1580 a 1640 roedd dan reolaeth Sbaen a Phortiwgal gyda'i gilydd (roedd y ddwy wlad hynny wedi'u huno yn y cyfnod hwnnw). Pan dorrodd Portiwgal allan o'r undeb meddiannodd y Sbaenwyr y diriogaeth.
Treuliodd y marchog Almaenig Jörg von Ehingen tua saith mis yn Ceuta yn 1455-1456 pan fu'r dref gaerog dan warchae gan y Morociaid.
Andalucía · Aragón · Asturias · Cantabria · Castilla-La Mancha · Castilla y León · Catalwnia · Extremadura · Galisia · Gwlad y Basg · Madrid · Murcia · Navarra · La Rioja · Valenciana · Ynysoedd Balearig · Yr Ynysoedd Dedwydd ·
Dinasoedd ymreolaethol
Ceuta · Melilla
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ceuta, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.