Mynyddog Richard Davies: Bardd, datgeiniad, ac arweinydd eisteddfodau

Bardd poblogaidd o Gymro (10 Ionawr 1833 – 14 Gorffennaf 1877), a anwyd yn Llanbrynmair, Sir Drefaldwyn oedd Richard Davies (enw barddol: Mynyddog).

Ef yw awdur y geiriau yr opera boblogaidd 'Blodwen' a chaneuon megis 'Gwnewch Bopeth yn Gymraeg', 'Pistyll y Llan' a 'Myfanwy'.

Richard Davies
Mynyddog Richard Davies: Magwraeth, Bardd, Llyfryddiaeth
Mynyddog tua'r flwyddyn 1875; llun gan John Thomas (LlGC).
FfugenwMynyddog Edit this on Wikidata
Ganwyd10 Ionawr 1833 Edit this on Wikidata
Llanbryn-mair Edit this on Wikidata
Bu farw14 Gorffennaf 1877 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Mynyddog Richard Davies: Magwraeth, Bardd, Llyfryddiaeth
Portread o Richard Davies (Mynyddog)

Magwraeth

Ganwyd Mynyddog yng nghartref ei rieni yn fferm "y Fron", Llanbrynmair, yn 1833. Treuliodd ei ieuenctid yn amaethu ar y fferm teuluol ac yn bugeilio ar fryniau Llanbrynmair. Mae'r bywyd hwnnw yn yr awyr agored yng nghanol gogoniant natur a'r gymdeithas Gymraeg glos yr oedd yn ei chynnal ym mhentrefi bach cefn gwlad Maldwyn a Meirionnydd yn elfen ganolog yn ei waith. Nid ystyrir ef yn fardd mawr.

Bardd

Roedd Mynyddog yn fardd hynod boblogaidd yn ei ddydd ymhlith y werin bobl, fel ei gyfoeswr Ceiriog. Dechreuodd Mynyddog farddoni yn y dull eisteddfodol oedd yn ffasiynol ar y pryd, gyda'r bryddest a'r awdl gorlwythedig â delweddau aruchel, ond yn fuan yn ei yrfa trodd i gyfansoddi cerddi byrrach ar y mesurau rhyddion ac ar geinciau poblogaidd Seisnig. Roedd y cerddi hyn yn gerddi i'w datgan a'u canu, ac yn ymwneud â phethau roedd pawb yn eu deall, megis bywyd natur a chylch y tymhorau, caru, difyrrwch diniwed, hiraeth a throeon bywyd beunyddiol, weithiau'n drist, weithiau'n ddoniol.

Cafodd yrfa hir ar lwyfannau'r eisteddfodau, bach a mawr, yn cyflwyno, yn adrodd ac yn datgan ei gerddi. Teithiodd bob rhan o Gymru a bu ar daith i America hefyd, gan ymweld â RhaeNiagara ac Efrog Newydd. Roedd yn gyfaill i'r baledwr Owain Meirion.

Cyhoeddodd dair cyfrol o gerddi yn ystod ei oes, yn 1866, 1870 a 1877. Ysgrifennodd lawer o ryddiaith i'r cylchgronau llenyddol Cymraeg yn ogystal. Cofir amdano hefyd am iddo weithio gyda Joseph Parry ar yr opera Blodwen. Mae ambell gerdd ganddo yn dal yn boblogaidd heddiw: megis y gerdd wladgarol ysgafn "Gwnewch Bopeth yn Gymraeg", "Pistyll y Llan" a "Myfanwy"; ef hefyd a sgwennodd pennill wreiddiol "Sosban Fach":

    Pan fyddo yr aelwyd yn oeri
    A'r anwyd yn dyfod o'r gwaed;
    Pan fyddo y trwyn bron â rhewi
    A'r winrew ar fysedd y traed;
    Pan fo Mari Anne wedi brifo
    A Dafydd y gwas ddim yn iach,
    A'r babi yn nadu a crio
    A'r gath wedi crafu John Bach:
    Rhowch broc i'r tân
    A chanwch gân
    I gadw'r hen aelwyd yn aelwyd lân.

Bu farw'r bardd ar 14 Gorffennaf, 1877, a chafodd ei gladdu yn ei hoff lecyn, sef Llanbrynmair.

Llyfryddiaeth

  • Caneuon Mynyddog (Wrecsam, 1866)
  • Yr Ail Gynnig (Wrecsam, 1870)
  • Y Trydydd Cynnig (Wrecsam, 1877)
  • Pedwerydd Llyfr Mynyddog (Wrecsam, 1882)
  • O. M. Edwards (gol.), Gwaith Mynyddog (Llanuwchllyn, 1914)

Cofiant

  • T.R. Roberts, Mynyddog (1909)

Tags:

Mynyddog Richard Davies MagwraethMynyddog Richard Davies BarddMynyddog Richard Davies LlyfryddiaethMynyddog Richard Davies CofiantMynyddog Richard Davies10 Ionawr14 Gorffennaf18331877LlanbrynmairMyfanwySir Drefaldwyn

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Rhestr o bobl a anwyd yng Ngogledd IwerddonDavid R. EdwardsBeach PartyCyrch Llif al-AqsaCannesAfon TyneAnuAbaty Dinas BasingMET-ArtIndiaUsenetTomos DafyddGoogle ChromeBettie Page Reveals AllNatalie WoodW. Rhys NicholasLZ 129 Hindenburg2022Eva StrautmannRené DescartesDant y llewA.C. MilanKilimanjaroJonathan Edwards (gwleidydd)NanotechnolegWikipediaCascading Style SheetsSali Mali783Carly FiorinaAnna MarekLlygoden (cyfrifiaduro)FfraincDenmarcWingsRasel OckhamRwsiaRhestr cymeriadau Pobol y CwmMarilyn MonroeCymruYr Ymerodraeth AchaemenaiddDisturbiaAwyrennegGoodreadsIncwm sylfaenol cyffredinolIbn Saud, brenin Sawdi ArabiaDelweddIeithoedd Indo-EwropeaiddParth cyhoeddusPornograffiTair Talaith CymruCynnwys rhyddGogledd MacedoniaContactMathrafalNoson o FarrugBuddug (Boudica)SvalbardCaerwrangonHunan leddfuLlundainCastell TintagelCreampieAgricolaTrefHTMLOregon City, OregonDyfrbont PontcysyllteMenyw drawsryweddolBe.Angeled🡆 More