Cyfres Y Fil Gwaith Mynyddog

Mae Gwaith Mynyddog Cyfrol 1 a Gwaith Mynyddog Cyfrol 2 yn ddwy gyfrol o gerddi gan Richard Davies (Mynyddog) a olygwyd gan D Emlyn Evans ac a gyhoeddwyd gan Owen Morgan Edwards fel rhan o'i Gyfres y Fil ym 1914 a 1915.

Bu farw Emlyn Evans cyn gorffen golygu Cyfrol 2, felly Edwards ei hun a orffennodd y gwaith.

Gwaith Mynyddog
Cyfres Y Fil Gwaith Mynyddog
Hen Fynwent Llanbrynmair

Cefndir

Richard Davies (Mynyddog) (10 Ionawr 1833 – 14 Gorffennaf 1877) oedd yn un o feirdd mwyaf poblogaidd Cymru yn ystod diwedd y Cyfnod Fictoraidd. Cyhoeddodd 3 llyfr o gerddi yn ystod ei oes:

  • Caneuon Mynyddog (Wrecsam, 1866)
  • Yr Ail Gynnig (Wrecsam, 1870)
  • Y Trydydd Cynnig (Wrecsam, 1877)

Roedd pedwerydd llyfr wedi ei baratoi i'r wasg ar adeg ei farwolaeth a gyhoeddwyd ym 1882

  • Pedwerydd Llyfr Mynyddog (Wrecsam, 1882)

Mae'r rhagymadrodd i'r gyfrol gyntaf o Waith Mynyddog yng Nghyfres y Fil yn dweud bod O M Edwards wedi bod yn siarad â chwaer Fynyddog. Rhoddodd hi wybod iddo fod "lliaws mawr o'i ganeuon gorau, y caneuon olaf ganodd, heb eu cyhoeddi, yn eu mysg ganeuon glywswn i ef yn ganu. Ar fy nghais, paratôdd y diweddar D. Emlyn Evans y gyfrol hon i'r wasg." Wedi cael gafael ar swp o "ganeuon coll" gan y chwaer, aeth O M i holi Mrs A E Davies, gweddw Fynyddog i holi os oedd ychwaneg yn ei meddiant hi a chael gwybod bod. Caneuon yng ngofal y chwaer sydd yng Nghyfrol 1 a rhai yng ngofal y weddw sydd yn gyfrol 2. Doedd Mrs Davies ddim mor awyddus a'i chwaer yng nghyfraith i gyhoeddi'r cerddi oedd ganddi hi gan ei bod yn gwybod eu bod yn ganeuon yn rhai penderfynodd y bardd i beidio â chynnwys yn ei lyfrau.

Y cerddi

Mae'r casgliadau yn cynnwys 154 o gerddi (77 yr un yn y ddwy gyfrol) mewn amrywiol arddulliau – englynion, cerddi doniol, emynau, cerddi dwys, cerddi i'w hadrodd, cerddi i'w canu. Caneuon gwladgarol Cymreig a chaneuon o glod i Brydain, Yr Ymerodraeth a'r Frenhines Victoria.

Mae sganiau a thrawsgrifiadau o'r ddwy gyfrol ar Wicidestun.

Ysgrifennwyd y llyfrau cyn cyhoeddi ''Orgraff Yr Iaith Gymraeg'' ym 1929, mae sillafiad teitlau'r cerddi fel y maent yn orgraff y cyhoeddwr

Cyfrol 1

Bydd rhoi clec ar y ddolen yn mynd at drawsgrifiad o'r gerdd ar Wicidestun

Cyfrol 2

Bydd rhoi clec ar y ddolen yn mynd at drawsgrifiad o'r gerdd ar Wicidestun

Y Darluniau

Yn ogystal â'r cerddi mae'r gyfrolau yn cynnwys 11 llun, rhai yn ymwneud a bywyd Mynyddog, lluniau ohono ef a'i gartrefi, ac eraill i ddarlunio rhai o'r cerddi ee llun o ofaint i ddarlunio cerdd Y gof. Mae'r cyfan o'r lluniau yn rai o ardal Llanbrynmair lle fu'r bardd yn fyw. John Thomas, Galeri Cambrian, Lerpwl, tynnodd y rhan fwyaf o'r lluniau.

Cyfeiriadau

Tags:

Cyfres Y Fil Gwaith Mynyddog CefndirCyfres Y Fil Gwaith Mynyddog Y cerddiCyfres Y Fil Gwaith Mynyddog Y DarluniauCyfres Y Fil Gwaith Mynyddog CyfeiriadauCyfres Y Fil Gwaith MynyddogCyfres y FilOwen Morgan EdwardsRichard Davies (Mynyddog)

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

The Disappointments Room69 (soixant-neuf)WikipediaLlyfr Glas NeboOblast ChelyabinskHenry Watkins Williams-WynnFfotograffiaeth erotigDemolition ManOfrenda a La TormentaSgerbwd dynolO Princezně, Která RáčkovalaConsol gemauWaltham, MassachusettsDeallusrwydd artiffisialCymraegPidynComisiwn EwropeaiddGwainDadfeilio ymbelydrolHedfanLea County, Mecsico Newydd1959PlwmpComin CreuSendaiTîm Pêl-droed Cenedlaethol yr IseldiroeddMamograffegTabernacl tunAmy CharlesTwo For The MoneyGareth MilesRhestr mudiadau CymruSian PhillipsAlfred HitchcockEdward VII, brenin y Deyrnas UnedigBarbara BushLyn EbenezerUnthinkableTulia, TexasSystem atgenhedluChristopher ColumbusGwobr Lenyddol NobelTîm Pêl-droed Cenedlaethol Croatia9 IonawrStyx (lloeren)RwsiaCasachstanCedorCynnwys rhyddOboDylan EbenezerSeland NewyddAdams County, WashingtonTeyrnas GwyneddGwenllian DaviesIago VI yr Alban a I LloegrRhyw llaw28 Mehefin🡆 More