Mynydd Fuji neu Fujiyama yw mynydd uchaf Japan.
Saif ar ynys Honshū, ar y ffin rhwng taleithiau Shizuoka a Yamanashi, ychydig i'r gorllewin o Tokyo. Gellir ei weld o Tokyo ar ddiwrnod clir. Y dinasoedd agosaf ato yw Gotemba yn y dwyrain, Fuji-Yoshida yn y gogledd a Fujinomiya yn y de-orllewin.
Math | llosgfynydd byw, pwynt uchaf, isolated peak, stratolosgfynydd, atyniad twristaidd, shintaisan, mynydd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Fuji district |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Fuji-Hakone-Izu National Park |
Rhan o'r canlynol | Fujisan, sacred place and source of artistic inspiration, Three Holy Mountains, 100 Famous Japanese Mountains, Top 100 Geological Sites in Japan, New 100 Famous Japanese Mountains, 100 Famous Yamanashi mountains |
Sir | Shizuoka, Yamanashi |
Gwlad | Japan |
Arwynebedd | 19,311.9 ha |
Uwch y môr | 3,777.24 ±0.99 metr |
Cyfesurynnau | 35.3606°N 138.7275°E |
Perchnogaeth | Fujisan Hongū Sengen Taisha |
Statws treftadaeth | rhan o Safle Treftadaeth y Byd, Special Place of Scenic Beauty, Historic Site of Japan |
Manylion | |
Deunydd | basalt |
Ysytrir Mynydd Fuji yn fynydd sanctaidd, ac mae'n symbol o Japan trwy'r byd. Mae'n llosgfynydd, er nad yw wedi dangos unrhyw arwydd o fywyd ers ffrwydrad bach yn 1707. Dywedir iddo gael ei ddringo am y tro cyntaf gan fynach dienw yn 663. Hyd ddiwedd y cyfnod Meiji yn y 19g, gwaharddwyd merched rhag ei ddringo. Erbyn hyn mae tua 200,000 yn ei ddringo bob blwyddyn. Mae wedi bod yn destun poblogaidd i arlunwyr Japan ers canrifoedd; y mwyaf enwog o'r gweithiau hyn yw 36 Golygfa ar Fynydd Fuji gan Hokusai.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mynydd Fuji, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.