Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu ( ynganiad ) neu llysiau'r iau (lluosog ac unigol; weithiau llys yr afu neu llys yr iau yn yr unigol).
Llysiau'r afu | |
---|---|
Llysiau'r afu palmwyddog (Marchantia polymorpha) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta Stotler & Crand.-Stotl. |
Dosbarthiadau ac urddau | |
|
Mae tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu darganfod hyd yn hyn. Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Maent yn blanhigion syml heb feinwe fasgwlaidd neu wreiddiau go iawn. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg. Mae rhywogaethau eraill yn tyfu fel thalws gwastad heb goesyn a dail.
Fe'u rhennir i dri Dosbarth, o ran tacson, sef: Haplomitriopsida, Marchantiopsida a Jungermanniopsida.
Yn draddodiadol, grwpiwyd Llysiau'r afu gyda bryoffidiau eraill (sef mwsoglau a chyrnddail) yn y Rhaniad (neu "Ffylwm") a elwir yn "Bryophyta". Oddi fewn i'r rhaniad hwn galwyd y Dosbarth o lysiau'r afu yn "Hepaticae" (a hefyd yn "Marchantiopsida"). Fodd bynnag, gan fod hyn yn gwneud y grwp Bryophyta yn baraffiletig (paraphyletic), rhoir Rhaniad cyfan i'r grŵp, bellach. Wrth gwrs, mae'r hen enw Bryophyta yn parhau rhwng cloriau llyfrau, ond erbyn heddiw, mae'r gair Bryophyta yn cynnwys mwsoglau'n unig.
Y rheswm arall dros roi Rhaniad cyfan i lysiau'r afu yw ei bod yn ymddangos iddynt rannu oddi wrth yr embryoffytau ymhell yn ôl, yn y cyfnod pan roedd esblygiad planhigion ar gychwyn. Nhw yw'r unig grwp o blanhigion tir nad oes ganddynt stomata yn y cyfnod Sporophyte. Cafwyd hyd i ffosiliau o lysiau'r afu (y math Pallaviciniites) yn Efrog Newydd, sy'n hynod o debyg i'r Metzgeriales modern. Cafwyd hyd, hefyd, i ffosil arall, sef y Protosalvinia, o'r un cyfnod, sef y cyfnod Defonaidd Uchaf. Yn 2017 cafwyd hyd i ffosil o'r math Metzgeriothallus sharonae, eto yn Efrog Newydd, ac a ddyddiwyd i ganol y cyfnod Defonaidd. Ond y ffosiliau hynaf, hyd yma (2019) yw'r 5 math gwahanol o sborau llysiau'r afu, a ganfuwyd yn yr Ariannin yn 2010, ac sy'n perthyn i'r cyfnod Ordofigaidd, ac a ddyddiwyd i tua 470 miliwn o flynyddoedd CP.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llysiau'r afu, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.