Pumed sefydliad yr Undeb Ewropeaidd yw Llys Archwilwyr Ewrop.
Er gwaethaf ei enw, nid oes ganddo rym barnwrol fel y Llys Cyfiawnder. Yn lle hynny, mae'n sicrhau bod arian cyhoeddus o gyllideb yr Undeb Ewropeaidd wedi cael ei wario yn gywir. Yn enwedig, mae'r llys yn darparu adroddiad archwilio ar gyfer pob blwyddyn ariannol i'r Cyngor a Senedd Ewrop. Mae'r Senedd yn defnyddio'r adroddiad hwn i benderfynu a ddylai gymeradwyo trin y gyllideb gan y Comisiwn. Mae'r llys hefyd yn rhoi barnau a chynigion ynghylch deddfwriaeth ariannol a gweithredoedd gwrth-dwyll.
Llys Archwilwyr Ewrop yw'r unig sefydliad na soniwyd amdano yn y cytundebau gwreiddiol, gan ei fod yn cael ei sefydlu ym 1975. Fe'i crëwyd fel sefydliad annibynnol oherwydd sensitifrwydd y mater o dwyll o fewn yr Undeb. Mae'n cynnwys un aelod o bob Gwladwriaeth, wedi'i benodi gan y Cyngor bob chwe blynedd. Bob tair blynedd, etholir un ohonynt yn llywydd y llys; Hubert Weber sy'n dal y swydd hon ar hyn o bryd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llys Archwilwyr Ewrop, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.