Kinshasa: Prifddinas Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo

Prifddinas a dinas fwyaf Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yw Kinshasa (Léopoldville tan 1966).

Fe'i lleolir yng ngorllewin y wlad ar lan ddeheuol Afon Congo. Saif Brazzaville, prifddinas Gweriniaeth y Congo, ar y lan gyferbyn. Kinshasa yw dinas fwyaf holl gyfandir Affrica gyda phoblogaeth o tua 11,855,000 (2016).

Kinshasa
Kinshasa: Hanes, Daearyddiaeth, Demograffeg
Kinshasa: Hanes, Daearyddiaeth, Demograffeg
Mathis-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, tref ar y ffin, mega-ddinas Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlLeopold II, brenin Gwlad Belg Edit this on Wikidata
Poblogaeth11,855,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1881 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffrangeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirKinshasa Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo
Arwynebedd9,965 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr240 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Congo Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaRhanbarth Bas-Congo, Brazzaville, Talaith Mai-Ndombe, Kwilu, Talaith Kwango Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau4.3219°S 15.3119°E Edit this on Wikidata
CD-KN Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganHenry Morton Stanley Edit this on Wikidata

Fe'i sefydlwyd fel canolfan fasnachol yn 1881 gan y Cymro Henry Morton Stanley o Lanelwy a enwodd y ddinas ar ôl Léopold II, brenin Gwlad Belg. Daeth Léopoldville yn brifddinas trefedigaeth Congo Felgaidd yn ystod y 1920au. Yn 1966 newidiwyd ei henw i Kinshasa, pentref bychan a oedd yma cyn y brifdinas, gan yr Arlywydd Mobutu Sese Soko.

Ar un adeg roedd Kinshasa'n bentrefi pysgota a masnachu; mae Kinshasa bellach yn un o'r mega-ddinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y byd. Mae'n wynebu Brazzaville, prifddinas Gweriniaeth y Congo; y ddwy ddinas yma (Kinshasa' a Brazzaville) yw'r ddwy brifddinas agosaf at ei gilydd yn y byd. Mae dinas Kinshasa hefyd yn un o 26 talaith y wlad. Oherwydd bod ffiniau gweinyddol y ddinas-dalaith yn gorchuddio ardal helaeth, mae dros 90 y cant o dir y ddinas-dalaith yn wledig ei natur, ac mae'r ardal drefol yn meddiannu rhan fach, ond sy'n ehangu ar yr ochr orllewinol.

Kinshasa yw trydydd ardal fetropolitan fwyaf Affrica, ar ôl Cairo a Lagos. Hi hefyd yw ardal drefol Ffrangeg ei hiaith fwyaf y byd, gyda'r Ffrangeg yn iaith llywodraeth, addysg, y cyfryngau, gwasanaethau cyhoeddus a masnach, tra bod Lingala yn cael ei defnyddio fel iaith pob dydd ar y stryd. Cynhaliodd Kinshasa 14eg Uwchgynhadledd Francophonie ym mis Hydref 2012.

Gelwir dinasyddion Kinshasa yn "Kinois" (yn Ffrangeg ac weithiau yn Saesneg) neu Kinshasans (Saesneg). Mae pobl frodorol yr ardal yn cynnwys yr Humbu [fr] a Teke.

Hanes

Kinshasa: Hanes, Daearyddiaeth, Demograffeg 
Golygfa o orsaf a phorthladd Léopoldville (1884)

Sefydlwyd y ddinas fel man masnachu gan y Cymro (a'r perchennog caethwaesion Henry Morton Stanley ym 1881. Cafodd ei henwi’n "Léopoldville" er anrhydedd i’r Brenin Leopold II o’r Belgiaid, a oedd yn rheoli Gwladwriaeth Rydd y Congo, y diriogaeth helaeth sydd bellach yn Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo, nid fel trefedigaeth ond fel eiddo preifat. Ffynnodd y pentre masnachu hwn fel y porthladd cyntaf ar Afon Congo uwchben RhaeLivingstone, cyfres o ddyfroedd gwyllt dros 300 cilomedr (190 milltir) islaw Leopoldville. Ar y dechrau, roedd yn rhaid i borthorion rhwng Léopoldville a Matadi gario'r holl nwyddau sy'n cyrraedd ar y môr neu'n cael eu hanfon ar y môr, gan fod y porthladd 150 km (93 milltir) o'r arfordir. Roedd cwblhau rheilffordd porthladd Matadi-Kinshasa, ym 1898, yn darparu llwybr amgen o amgylch y dyfroedd gwyllt ac yn sbardun i ddatblygiad cyflym Léopoldville. Ym 1914, gosodwyd pibell cludo olew crai o Matadi i'r cychod stemars i fyny'r afon yn Leopoldville.

Erbyn 1923, roedd y ddinas wedi'i dyrchafu'n brifddinas 'Congo Gwlad Belg', gan ddisodli tref Boma yn aber y Congo. Daeth y dref, a alwyd ar lafar am gryn amser yn "Léo" neu "Leopold", yn ganolfan fasnachol a thyfodd yn gyflym yn ystod y cyfnod trefedigaethol.

Kinshasa: Hanes, Daearyddiaeth, Demograffeg 
Cofeb i Lumumba a Thŵr Limete

Ar ôl ennill ei hannibyniaeth ar 30 Mehefin 1960, yn dilyn terfysgoedd ym 1959, etholodd Gweriniaeth y Congo ei phrif weinidog cyntaf, Patrice Lumumba. Roedd gogwydd Sofietaidd Lumumba yn cael ei ystyried yn fygythiad gan fuddiannau'r Gorllewin. Dyma anterth y Rhyfel Oer, ac nid oedd yr Unol Daleithiau na Gwlad Belg eisiau colli rheolaeth ar gyfoeth strategol y Congo, oherwydd ei wraniwm. Lai na blwyddyn ar ôl etholiad Lumumba, prynodd y Belgiaid a’r Unol Daleithiau gefnogaeth ei gystadleuwyr Congolese a llofruddiwyd Lumumba.

Ym 1965, gyda chymorth yr Unol Daleithiau a Gwlad Belg, cipiodd Joseph-Désiré Mobutu rym yn y Congo. Cychwynnodd bolisi o "Ddilysu" enwau pobl a lleoedd drwy'r wlad. Ym 1966, ailenwyd Léopoldville yn Kinshasa, ar ôl pentref o'r enw Kinshasa a arferai sefyll ger y safle, heddiw Kinshasa (cymuned). Tyfodd y ddinas yn gyflym o dan Mobutu, gan ddenu pobl o bob cwr o'r wlad a ddaeth i chwilio am eu gyfoeth, neu i ddianc rhag problemau ethnig mewn man arall, gan ychwanegu felly at y nifer fawr o wahanol ethnigrwydd ac ieithoedd oedd yno'n barod.

Yn y 1990au, cychwynnodd gwrthryfel a oedd erbyn 1997 wedi dymchwel cyfundrefn Mobutu. Dioddefodd Kinshasa yn fawr oherwydd Mobutu: llygredd a rhoi swyddi i'w deulu ei hun, yn bennaf, a'r rhyfel cartref a arweiniodd i'w gwymp. Serch hynny, mae'n dal i fod yn ganolfan ddiwylliannol a deallusol o bwys ar gyfer Canolbarth Affrica, gyda chymuned lewyrchus o gerddorion ac artistiaid. Dyma hefyd brif ganolfan ddiwydiannol y wlad, gan brosesu llawer o'r cynhyrchion naturiol y wlad. Yn y 2010au bu’n rhaid i’r ddinas orfod atal milwyr y wlad, a oedd yn protestio oherwydd methiant y llywodraeth i dalu eu cyflog.

Nid oedd Joseph Kabila, llywydd Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo rhwng 2001-2019, yn boblogaidd iawn yn Kinshasa. Dechreuodd trais yn dilyn y cyhoeddiad am fuddugoliaeth Kabila yn etholiad 2006; bu'n rhaid i'r Undeb Ewropeaidd danfon milwyr (EUFOR RD Congo) i ymuno â llu'r Cenhedloedd Unedig yn y ddinas. Arweiniodd y cyhoeddiad yn 2016 y byddai etholiad newydd yn cael ei ohirio at ddwy flynedd o brotestiadau mawr ym mis Medi ac ym mis Rhagfyr; roedd y protestiadau'n cynnwys barricadau ar y strydoedd bu dwsinau o bobl farw. Caewyd ysgolion a busnesau am gryn amser.

Daearyddiaeth

Dinas o wrthgyferbyniadau yw Knshasa, gydag ardaloedd preswyl a masnachol cyfoethog a thair prifysgol ochr yn ochr â slymiau gwasgarog. Fe'i lleolir ar hyd glan ddeheuol Afon Congo, ac yn union gyferbyn â dinas Brazzaville, prifddinas Gweriniaeth y Congo. Afon Congo yw'r ail afon hiraf yn Affrica ar ôl Afon Nîl, ac mae mwy o gyfaint o ddwr yn llifo drwyddi nac unrhyw afon arall ar Gyfandir Affrica. Fel dyfrffordd, mae'n darparu dull cludo ar gyfer llawer o fasn y Congo; gellir ei fordwyo ar gychod rhwng Kinshasa a Kisangani; mae llawer o'i llednentydd hefyd yn fordwyol. Dyma ffynhonnell bwysig o Egni hydro, ac i lawr yr afon o Kinshasa mae ganddi botensial i gynhyrchu digon o bŵer i hanner poblogaeth Affrica.

Demograffeg

Kinshasa: Hanes, Daearyddiaeth, Demograffeg 
Kinshasa fin nos yn 2015

Yn ôl Cyfrifiad 1984 roedd 2.6 miliwn o ddinasyddion. Yr amcangyfrif ar gyfer 2005 oedd rhwng 5.3 miliwn a 7.3 miliwn. Yn 2017, roedd gan y ddinas boblogaeth o 11,855,000.

Yn ôl UN-Habitat, mae 390,000 o bobl yn symud i fewn i Kinshasa yn flynyddol, gan ddianc o ryfeloedd neu'n chwilio am fywyd gwell. Mae llawer yn arnofio ar gychod neu rafftiau i lawr Afon Congo.

Yn ôl amcanestyniad (2016) bydd poblogaeth Kinshasa metropolitan yn cynyddu’n sylweddol, i 35 miliwn erbyn 2050, 58 miliwn erbyn 2075 ac 83 miliwn erbyn 2100, gan ei wneud yn un o'r ardaloedd metropolitan mwya'r byd.

Iaith

Er mai Ffrangeg yw iaith swyddogol y Congo, ceir 4 iaith genedlaethol; Kongo, Lingala, Swahili, Tshiluba. Lingala yw prif iaith Kinshasa a gogledd orllewin Congo ac i fewn i Weriniaeth y Congo.

Cyfeiriadau

Tags:

Kinshasa HanesKinshasa DaearyddiaethKinshasa DemograffegKinshasa CyfeiriadauKinshasaAffricaAfon CongoBrazzavilleGweriniaeth Ddemocrataidd y CongoGweriniaeth y Congo

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Olwen ReesLliwJapanDrwmWicipedia CymraegDerbynnydd ar y topErrenteriaRiley ReidMici PlwmMulherEternal Sunshine of The Spotless MindHunan leddfuGuys and DollsCaethwasiaethEisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1885TrawstrefaMalavita – The FamilyIechyd meddwlGwladY Cenhedloedd UnedigAnableddNasebyLlydawSylvia Mabel PhillipsPatxi Xabier Lezama PerierMarco Polo - La Storia Mai RaccontataArchdderwyddHomo erectusAlexandria RileyPuteindraAngladd Edward VIICebiche De TiburónR.E.M.Angel HeartHeno2009FfilmGwlad PwylWiliam III & II, brenin Lloegr a'r Alban4g1977Geraint JarmanJac a Wil (deuawd)Ffilm gomediMaleisiaYsgol RhostryfanDiddymu'r mynachlogyddBridget BevanCordogNicole LeidenfrostLliniaru meintiolSupport Your Local Sheriff!Anna VlasovaLa Femme De L'hôtelgrkgjRhufainThe Merry CircusDarlledwr cyhoeddusConwy (etholaeth seneddol)Moeseg ryngwladolSystem weithreduP. D. JamesIn Search of The CastawaysTverYnni adnewyddadwy yng Nghymru🡆 More