Fforiwr arloesol o Lydaw a fu'n archwilio rhannau o Ganada yn yr 16g oedd Jacques Cartier (Llydaweg: Jakez Karter) (31 Rhagfyr 1491 – 1 Medi 1557).
Jacques Cartier | |
---|---|
Ganwyd | 31 Rhagfyr 1491 Sant-Maloù |
Bu farw | 1 Medi 1557 o teiffws Sant-Maloù |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc |
Galwedigaeth | morlywiwr, fforiwr, morwr, dyfeisiwr, morwr, gwleidydd |
Swydd | Governor of New France |
Priod | Mary Catherine des Granches |
llofnod | |
Fe'i dewiswyd gan Frenin Ffrainc, Ffransis I, i archwilio "ynysoedd a thiroedd lle y dywedir bod llawer o aur a thrysorau eraill". Gadawodd Sant-Maloù ar 20 Ebrill 1534 i chwilio am lwybr gorllewinol i farchnadoedd cyfoethog Asia. Methodd â chyrraedd Asia, ond archwiliodd yn hytrach rannau o Newfoundland a dwyrain Canada. Pan ddysgodd am Afon St Lawrence, dechreuodd feddwl mai dyna oedd y ffordd chwedlonol i Asia. Yn ystod y daith, glaniodd ar safle tref bresennol Gaspé (Québec), lle herwgipiodd ddau o feibion Pennaeth Donnacona, pennaeth un o'r llwythi Iroquoiaidd brodorol, a'u cludo nhw yn ôl i Ffrainc.
Y flwyddyn ganlynol, gyrrwyd Cartier yn ôl ar ei ail daith i ogledd America gyda thair llong, 110 o ddynion a'r meibion a herwgipiwyd i ddangos y ffordd iddo. Dychwelodd y bechgyn i'w llwyth. Hwyliodd i fyny afon St Lawrence hyd at bentrefi Stadacona (lleoliad dinas Québec heddiw) a Hochelaga (Montréal). Ar ôl herwgipio rhai o'r penaethiaid Irowuoiadd, clywodd am wlad o'r enw Saguenay i'r gogledd, y tebygid iddi fod yn llawn aur a thrysorau eraill. Ar ôl gaeaf anodd ar ei safle ger Stadacona, cyrhaeddodd Sant-Maloù unwaith eto ar 15 Gorffennaf 1536.
Ar 23 Mai 1541, aeth Cartier yn ôl i ogledd America ar ei drydedd daith, gan gyrraedd Stadacona ar 23 Awst. Ei nod oedd ceisio chwilio am Saguenay a sefydlu treflan barhaol yng Nghanada er mwyn cadarnháu hawl Ffrainc i'r diriogaeth yn erbyn hawliau Sbaen. Daeth Jean-François de la Rocque de Roberval ar ei ôl ef er mwyn sefydlu'r dreflan. Methodd â theithio'n bellach na Hochelaga, ond sefydlwyd treflan Charlesbourg-Royal (ar safle tref Cap-Rouge heddiw) ar lannau'r St Lawrence. Daeth y berthynas rhwng y Ffrancod a'r Iroquoiaid yn elyniaethus. Ar ôl gaeaf caled yng Nghanada, pryd bu farw llawer o'r gwladychwyr Ffrengig mewn ymosodiadau gan yr Iroquoiaid, dychwelodd i Ffrainc, gan adael Roberval yno i ddatblygu'r dreflan. Goroesodd Charlesbourg-Royal am flwyddyn arall tan i Roberval gefnu arni flwyddyn yn ddiweddarach. Doedd dim ceisiadau eraill i sefydlu treflannau Ewropeaidd parhaol yng ngogledd America am fwy na hanner can mlynedd. Ni ddaeth Cartier yn ôl i Ganada drachefn, ond bu'n treulio gweddill ei oes yn nhref ei febyd, Sant Maloù.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Jacques Cartier, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.