Gwilym Tudur: Gŵr busnes, ymgyrchydd ac awdur o Gymro

Gŵr busnes, ymgyrchydd ac awdur oedd Gwilym Tudur (13 Chwefror 1941 – 18 Chwefror 2024).

Sefydlodd y siop Gymraeg modern cyntaf: Siop y Pethe, Aberystwyth ym 1968 gyda'i wraig Megan. Penderfynodd y cwpl werthu'r siop yn 2013 ac ymddeol.

Gwilym Tudur
Ganwyd13 Chwefror 1941 Edit this on Wikidata
Bu farw18 Chwefror 2024 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, person busnes, ymgyrchydd Edit this on Wikidata
Gwilym Tudur: Gŵr busnes, ymgyrchydd ac awdur o Gymro
Megan Tudur and Gwilym Tudur a'r wraig, Megan, yn 'Tywyswyr' Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth yn 2014

Fe'i magwyd ar fferm yn Chwilog ac aeth i astudio ym Prifysgol Aberystwyth. Mae'n frawd i'r gyfansoddwraig Cerdd Dant Nan Jones ac yn enedigol o Fryn Dewin, Chwilog, Eifionydd, Gwynedd. Roedd ei dad Robert William Jones yn fardd bro medrus ac awdur Cerddi Eifionydd (Gwasg Gomer 1972).

Yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol, sefydlodd Gwasg y Glêr - gan fynd ati i gyhoeddi dramâu Wil Sam a'r addasiadau cyntaf erioed o waith Tennesse Williams yn y Gymraeg.

Ysgrifennodd sawl llyfr ac roedd wedi sgriptio cyfresi teledu hefyd yn cynnwys gyfres deledu i bobl ifanc Marinogion. Bu'n addasu nifer o lyfrau plant yn yr 1980au gan gynnwys Sion Corn a Mae Llygoden Hŷ yn y Tŷ, yn ogystal â chyhoeddi cyfrol o ysgrifau, Byclings! yn 1981, a'r astudiaeth o iaith lafar bro Eifionydd - 'Amen, Dyn Pren' - yn 2004.

Ysgrifennodd y gyfrol Wyt ti'n cofio?, llyfr sy'n cyflwyno hanes Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros y 24 mlynedd gyntaf. Bu'n wleidydd ymarferol ers degawdau.

Bywyd personol

Roedd yn briod a Megan a roeddent y byw yn Lledrod, Ceredigion am flynyddoedd cyn symud i Gaernarfon yn 2019. Roedd ganddynt dau o blant, Gwern a Non.

Cafodd Gwilym a Megan Tudur eu derbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2014. Yn 2014 arweiniodd ef a Megan Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth fel 'Tywysydd'. Mae rôl y Tywysydd yn anrhydedd a roddir gan bwyllgor y Parêd i berson neu bersonau lleol i'r dref sydd wedi gwneud cyfraniad nodweddiadol i'r iaith Gymraeg a'r gymuned lleol.

Bu farw yn Ysbyty Gwynedd, Bangor yn 83 mlwydd oed. Cynhaliwyd angladd breifat yn yr amlosgfa yn Aberystwyth. Cafwyd cyfarfod cyhoeddus i ddathlu ei fywyd yng Nghapel Rhydlwyd, Lledrod am 2.30pm ddydd Gwener, 15 Mawrth 2024.

Llyfryddiaeth

Cyfeiriadau

Tags:

13 Chwefror18 Chwefror19412024AberystwythSiop y Pethe

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Cyfathrach Rywiol FronnolInternational Standard Name IdentifierIeithoedd BrythonaiddSafle Treftadaeth y BydHela'r drywAfon MoscfaLeonardo da VinciCawcaswsPwyll ap SiônGwyddoniadurWicipedia CymraegFfrangegAmerican Dad XxxIrunIwan Roberts (actor a cherddor)CyfalafiaethRichard Richards (AS Meirionnydd)Afon YstwythPuteindraMarco Polo - La Storia Mai RaccontataEconomi Gogledd IwerddonEirug WynCapreseDewi Myrddin HughesRichard ElfynNia ParryModelAlien (ffilm)BadmintonBIBSYSAnna Gabriel i SabatéCefnforTo Be The BestEroplenEva StrautmannOutlaw KingPidynEisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1885Diddymu'r mynachlogyddWicidestunY Ddraig GochMulherWiliam III & II, brenin Lloegr a'r AlbanPapy Fait De La RésistanceGoogleAlbaniaCharles BradlaughDmitry KoldunNorwyaidKurgan1942AgronomegLliwCynnyrch mewnwladol crynswthEsgobSussex1977CaerdyddTorfaenAvignonLaboratory ConditionsLibrary of Congress Control NumberYr HenfydRobin Llwyd ab OwainSaesneg🡆 More