Barddoniaeth sydd ddim yn defnyddio'r mesurau caeth a mesurau cyffelyb yw canu rhydd, sy'n cynnwys y math a ddeilliodd o Ffrainc ac a elwir yn vers libre.
Nid yw'n defnyddio patrymau na mesurau megis yr odl nac unrhyw batrwm cerddorol cyson. Mae felly'n tueddu i ddilyn rhythm lleferydd naturiol, ac yn gwbwl groes i'r mesur traddodiadol o rythm ac odl neu'r Pedwar Mesur ar Hugain.
Ysgrifennodd T. S. Eliot, "Nid oes unrhyw bennill yn gwbwl rhydd, i'r un sydd am wneud gwaith da." Dywedodd y bardd a'r beirniad Kenneth Allott fod mabwysiadu'r vers libre yn deillio o “ddim ond awydd am newydd-deb, dynwared Whitman, astudio pennill gwag dramatig Jacobeaidd, a'r ymwybyddiaeth o'r hyn yr oedd beirdd Ffrainc eisoes wedi'i wneud i'r 'alexandrin' yn Ffrainc." Sylwodd y beirniad Americanaidd John Livingston Lowes ym 1916" Gellir ysgrifennu pennill rhydd fel rhyddiaith hardd iawn; gellir ysgrifennu rhyddiaith fel pennill rhydd hardd iawn. Pa un yw?"
Yn y Gymraeg, defnyddir y term 'canu rhydd' hefyd am bob mesur nad yw'n cynnwys y canu caeth (neu'r gynghanedd; gall hyn gynnwys mesurau fel y soned.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Canu rhydd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.