Cytundeb rhyngwladol rhwng y Cynghreiriad a'r Almaen orchyfygiedig ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf oedd Cytundeb Versailles.
Cafodd ei arwyddo yn Versailles, Ffrainc, ar ddiwedd Cynhadledd Heddwch Paris, ar 28 Mehefin yn y flwyddyn 1919.
Enghraifft o'r canlynol | cytundeb heddwch, cytundeb amlochrog |
---|---|
Dyddiad | 28 Mehefin 1919 |
Rhan o | League of Nations Treaty Series, Cynhadledd Heddwch Paris 1919 |
Iaith | Ffrangeg, Saesneg |
Rhagflaenwyd gan | Cadoediad 11 Tachwedd 1918 |
Lleoliad | Hall of Mirrors, Palas Versailles |
Yn cynnwys | Treaty of Versailles/Part VIII, Treaty of Versailles/Part VII, Treaty of Versailles/Part IX, Treaty of Versailles/Part VI, Treaty of Versailles/Part V, Treaty of Versailles/Part IV, Treaty of Versailles/Part III, Treaty of Versailles/Part II, Treaty of Versailles/Part X, Treaty of Versailles/Part XI, Treaty of Versailles/Part XII, Treaty of Versailles/Part XIV, Treaty of Versailles/Part XV |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ôl termau'r cytundeb roedd yr Almaen yn euog o achosi'r rhyfel a gorchmynwyd iddi dalu iawndal a chyfyngu nerth ei lluoedd arfog. Yn ogystal bu rhaid iddi adfer tiriogaethau Alsace a Lorraine i Ffrainc, ildio rhannau o ddwyrain yr Almaen (Prwsia) i Wlad Pwyl a derbyn meddiant milwrol y Cynghreiriad ar y Rheinland. Ar ben hynny oll gwnaethpwyd y mwyafrif o drefedigaethau'r Almaen - yn Affrica yn bennaf - yn diriogaethau mandad yng ngofal Cynghrair y Cenhedloedd.
Gwrthododd yr Unol Daleithiau arwyddo'r cytundeb tan 1921.
Un o ganlyniadau termau Cytundeb Versailles oedd y dirwasgiad mawr yn yr Almaen yn y 1920au a dechrau'r 1930au. Yn ogystal porthai teimladau cenedlaetholgar ac imperialistaidd ymhlith yr Almaenwyr. Arweiniai hyn yn y pen draw at dwf Natsïaeth a llywodraeth ffasgaidd Adolf Hitler.
Llofnodwyd Cytundeb Trianon gyda Hwngari yn 1920.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cytundeb Versailles, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.