Yn ystod trefn ddeubegwn y Rhyfel Oer, roedd yr Unol Daleithiau a chynghrair milwrol NATO yn ffurfio un bloc o rym yn y Gorllewin, tra bo'r Undeb Sofietaidd a chyngrair Cytundeb Warsaw yn ffurfio'r Bloc Dwyreiniol.
Ers cwymp yr Undeb Sofietaidd ym 1991 mae cysylltiadau rhwng NATO a Ffederasiwn Rwsia, y brif wladwriaeth olynol Sofietaidd, wedi bod yn bwnc pwysig yng nghysylltiadau rhyngwladol.
Enghraifft o'r canlynol | bilateral relation |
---|---|
Math | diplomatic relations |
Gwladwriaeth | Rwsia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dechreuodd cysylltiadau ffurfiol rhwng NATO a Rwsia ym 1991 pan ymunodd Rwsia â Chyngor Cydweithrediad Gogledd yr Iwerydd, a elwir bellach yn Gyngor Partneriaeth yr Ewro-Iwerydd. Ymunodd Rwsia â'r Bartneriaeth dros Heddwch ym 1994.
Roedd ymyrraeth NATO yn Rhyfel Cosofo ym 1999 yn isafbwynt yng nghysylltiadau rhwng NATO a Rwsia. Yn ôl nifer o adroddiadau, cafodd Rwsia sicrhâd gan NATO wrth i'r Rhyfel Oer dod i ben na fydd y gynghrair yn ehangu i'r dwyrain, ond o safbwynt Rwsia bu NATO yn llechfeddiannu'n raddol ar dir oedd yn draddodiadol o fewn maes dylanwad Moscfa. Ym Mawrth 1998 pleidleisiodd Rwsia dros Benderfyniad 1160 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig i osod embargo arfau ar Iwgoslafia er mwyn ceisio leddfu gwrthdaro rhwng lluoedd Serbiaidd a Byddin Rhyddhau Cosofo. Gobeithiodd Rwsia bydd hyn yn gynnig terfynol i'r Arlywydd Milošević fel na fydd angen am ymyrraeth filwrol yn Iwgoslafia.
Ym Mawrth 1999, dechreuodd NATO ymgyrch fomio yn Iwgoslafia o'r enw Ymgyrch Grym Cynghreiriol. Gwrthwynebodd Rwsia ymyrraeth gan NATO, yn rhannol oherwydd ei chysylltiadau hanesyddol â'i chyd-genedl Slafaidd Serbia, ond hefyd oherwydd pryderon dros weithredoedd gan NATO y tu allan i'w gororau. O ganlyniad i Ymgyrch Grym Cynghreiriol, gohiriodd Rwsia ei gyfranogaeth yng Nghyd-Gyngor Parhaol NATO–Rwsia a'r Bartneriaeth dros Heddwch. Bwriad cychwynnol Rwsia oedd i danseilio ymyrraeth NATO, ond yn y bôn cynorthwyodd y gynghrair wrth geisio cael datrysiad diplomyddol i'r gwrthdaro. Wedi diwedd y rhyfel, bu anghydfod ym Maes Awyr Pristina, prifddinas Cosofo, rhwng lluoedd NATO a Rwsia, oedd yn isafbwynt arall yn eu cysylltiadau.
Sefydlwyd Cyngor NATO–Rwsia yn 2002.
Un o'r prif achosion dros densiynau rhwng NATO a Rwsia yw'r anghydfod dros ehangu NATO i gynnwys gwladwriaethau yn Nwyrain Ewrop a'r Cawcasws, yn enwedig yr Wcrain a Georgia. Mae Rwsia yn ystyried y gwledydd hyn yn rhan o'i maes dylanwad, "y tramor cyfagos".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cysylltiadau rhwng NATO a Ffederasiwn Rwsia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.