Celys

Deil-lysieuyn yw celys, cêl neu fresychen ddeiliog sydd yn cynnwys sawl cyltifar o fresych (Brassica oleracea) a nodweddir gan goesynnau hirion, dail mawrion, a diffyg pen caled.

Celys
Celys
Celys cwrlog.
Enghraifft o'r canlynolllysieuyn, tacson Edit this on Wikidata
Mathllysieuyn, llysieuyn dail Edit this on Wikidata
Safle tacsonamrywiad Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonBresychen wyllt Edit this on Wikidata
Dechreuwyd4 g CC Edit this on Wikidata
CynnyrchBrassica napus subsp. napus var. pabularia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r cyltifarau cyffredin o gelys yn cynnwys:

  • Celys cwrlog, gyda dail crychion o liw gwyrdd, a chanddo flas fymryn chwerw ac ansoddni cryf, a roddir mewn saladau, swpiau, a llysiau tro-ffrio;
  • Celys Eidalaidd, celys palmwydd neu gelys deinosor, gyda dail hirion, meinion o liw gwyrdd tywyll, a chanddo flas melys ac ansoddni meddal o'i gymharu â chelys cwrlog, a ddefnyddir yn fynych mewn coginiaeth Eidalaidd;
  • Celys Rwsiaidd, gyda dail crychion o liw coch-borffor, a dyfir am fwyd ac am addurno gerddi a thirlunio.

Planhigyn eilflwydd yw celys, ond fel arfer fe'i tyfir yn flynyddol. Wrth flodeuo yn yr ail flwyddyn, mae'n cynhyrchu blodau melyn a ffrwythau ar ffurf silicwa. Cnwd caled ydyw a gaiff ei fwyta yn ystod tymhorau'r hydref a'r gaeaf yn bennaf, am fod y tywydd oer yn gwella'i flas.

Gweler hefyd

  • Mathau eraill o Brassica oleracea:

Cyfeiriadau

Tags:

Brassica oleraceaCyltifarLlysiau

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

1572Gershom ScholemBoneddigeiddioThomas County, NebraskaMoving to MarsIeithoedd CeltaiddClay County, NebraskaAbdomenJean JaurèsAnna Brownell JamesonBrasilAlba CalderónLawrence County, MissouriCAMK2BYork County, NebraskaPaulding County, OhioRhoda Holmes NichollsCoedwig JeriwsalemEnrique Peña NietoGwlad GroegWar of the Worlds (ffilm 2005)Nad Tatrou sa blýskaTsieciaCanfyddiadSt. Louis, MissouriGwanwyn PrâgPriddY Cerddor CymreigXHamsterSomething in The WaterDelaware County, OhioJohn Alcock (RAF)Teaneck, New JerseyMedina County, OhioYr Ail Ryfel BydFideo ar alwArizonaPlanhigyn blodeuolGary Robert JenkinsBeyoncé KnowlesJwrasig HwyrArabiaidJuan Antonio VillacañasAmffibiaidSex TapePêl-droedFertibratFocus WalesLiberty HeightsJefferson County, Arkansas28 MawrthYr Oesoedd CanolCombat Wombat1927Keanu ReevesCymdeithasegGweinlyfuGeorge LathamWiciAfon PripyatSaesnegCynghrair y Cenhedloedd 2020–21 UEFAJohn BetjemanCaltrainMackinaw City, MichiganNatalie WoodJürgen HabermasMeicro-organebCyfarwyddwr ffilm🡆 More