Roedd Andy Warhol (6 Awst 1928 – 22 Chwefror 1987) yn arlunydd Americaniad, y cymeriad mwyaf amlwg yn y mudiad celfyddyd gweledol Pop.
Ar ôl cyfnod fel darlunydd masnachol, daeth Warhol yn arlunydd avant-garde, ei waith yn cynnwys amrywiaeth eang o feysydd a chyfryngau – arlunio â llaw, peintio, gwaith print, ffotograffiaeth, argraffu sgrin sidan, ffilm a cynhyrchydd cerddoriaeth. Roedd yn arloeswr mewn celfyddyd ddigidol gan ddefnyddio cyfrifiaduron Amiga ym 1984 y flwyddyn gyntaf iddynt ddod ar y farchnad, dwy flynedd cyn iddo farw.
Andy Warhol | |
---|---|
Ganwyd | Andrew Warhola Jr. 6 Awst 1928 Pittsburgh |
Bu farw | 22 Chwefror 1987 o arhythmia'r galon Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, arlunydd, ffotograffydd, cynhyrchydd ffilm, cerflunydd, artist, sinematograffydd, sgriptiwr, dyddiadurwr, cynllunydd, arlunydd graffig, gwneuthurwr ffilm, gwneuthurwr printiau, drafftsmon, darlunydd, artist sy'n perfformio, artist gosodwaith, awdur, masnachwr, cynhyrchydd |
Adnabyddus am | Campbell's Soup Cans II, Chelsea Girls, Exploding Plastic Inevitable, Marilyn Diptyque, Shot Marilyns |
Arddull | portread (paentiad), bywyd llonydd, portread |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Mudiad | celf bop |
Tad | Andrej Warhola |
Mam | Julia Warhola |
Partner | Billy Name, John Giorno, Jed Johnson |
Perthnasau | James Warhola |
Gwefan | http://www.warhol.org |
llofnod | |
Roedd ei waith yn canolbwyntio ar y perthynas rhwng celfyddyd, sêr diwylliant poblogaidd, a'r byd hysbysebu o'r 1960au ymlaen, yn bathu'r dywediad 15 munud o enwogrwydd.
Mae ei waith ymhlith y drytach ar y farchnad gelf, y swm uchaf a dalwyd erioed am un o weithiau Warhol yw US$100 miliwn am lun ar ganfas o 1963 o'r enw Eight Elvises.
Fe'i anwyd yn Andrej Varhola Jr. ym Pittsburgh, Pennsylvania, yn bedwerydd plentyn Andrej a Julia Varhola. Roedd ei rhieni'n ddosbarth gweithiol, yn wreiddiol o Mikó, Awstria-Hwngari (yn awr Miková yng ngogledd orllewin Slofacia]]). Symudodd ei dad i'r Unol Daleithiau ym 1914, ei fam yn ymuno ym 1921. Yn ifanc fe'i ddioddefodd salwch a oedd yn achosi iddo orfod aros yn ei wely am gyfnodau hir ac yn methu mwynhau cwmni'r plant o'i amgylch. Fel canlyniad fe ddatblygydd perthynas agos gyda'i fam ac fe ddaeth yn hypocondriac gyda chasineb o ysbytai. Wrth aros yn ei wely fe gasglodd luniau o sêr ffilm. Pan roedd Warhol yn 13 oed bu farw ei dad mewn damwain. Nes ymlaen yn ei fywyd fe ddisgrifiodd Warhol y cyfnod yma'n adeg bwysig yn ffurfio ei bersonoliaeth. Astudiodd gelf fasnachol ar ôl gadael yr ysgol, yn symud i fwy i Efrog Newydd i ddechrau gyrfa yn arlunio cylchgronau a hysbysebion.
Yn y 1950au, ddaeth Warhol yn enwog am ei ddarluniau inc ar gyfer hysbysebion esgidiau a chloriau recordiau, mewn steil rhydd yn aml yn blotio'r inc tra'n wlyb.
Roedd Warhol yn ddefnyddiwr cynnar o'r proses argraffu sgrin sidan fel techneg ar gyfer gwneud darluniau. Roedd ei brintiau sgrin gyntaf yn cynnwys delweddau wedi'u harlunio â llaw ond fe symudodd ymlaen i brosesau ffotograffig ar gyfer gwneud y sgriniau.
Yn ei lyfr POPism fe ysgrinennodd, "When you do something exactly wrong, you always turn up something."
Dechreuodd arddangos ei waith mewn orielau celf tra'n gweithio fel arlunydd masnachol yn y 1950au, ond ar ddechrau'r 1960au fe aeth ati i gynhyrchu printiau mawr o delweddau poblogaidd Americanaidd a ddaeth y enwog iawn wrth i Pop ddod y un o fudiadau celf pwysicaf y degawd. Roedd celfyddyd Pop yn ffurf newydd, arbrofol a ddatblygwyd gan artistiaid unigol fel Roy Lichtenstein, Jasper Johns, a James Rosenquist. Trwy ddefnyddio delweddau enwogion, hysbysebion, stribedi comig a phacedi siopa fe geision nhw ddogfenni gyda hiwmor, parodi ac eironi'r gymdeithas o'u hamgylch a natur arwynebol cyfalafiaeth ronc America y 60au. Roedd gwaith Warhol yn seiliedig ar ddelweddau iconau'r cyfnod - boteli Coca-Cola, caniau cawl Campell's, pacedi Brillo, sêr mawr fel Marilyn Monroe, Elvis Presley, Marlon Brando a Elizabeth Taylor a thoriadau papurau newydd neu ffotograffau'n dangos yr heddlu'n ymosod ar brotestwyr hawliau sifil.
Yn fras, lliwgar ac yn hawdd deall, fe ddaeth ei waith yn boblogaidd gyda'r cyhoedd ond hefyd yn creu sioc gyda'u newydder chwyldroadol ac yn ddadleuol am ddiffyg technegau celfyddyd gain draddodiadol.
Ym 1962 fe sefydlodd stiwdio The Factory mewn hen adeilad fawr yng nghanol Efrog Newydd. Fe ddaeth yn fan gyfarfod ar gyfer grŵp o pobl bohemaid – 'Sêr' ffilmiau Warhol - trawswisgwyr ac actorion a modelau gobeithiol. Mae cân Lou Reed, 'Walk on the Wild Side', 1972, yn sôn am gymeriadau'r Factory. Bu enwogion fel Salvador Dalí, Allen Ginsberg, Bob Dylan a Mick Jagger hefyd yn ymwelwr cyson.
Fe gydweithiodd gyda prosiect i sefydlu grŵp roc arbrofol The Velvet Underground, a oedd yn defnyddio'r Factory fel lle ymarfer. Enwir Andy Warhol yn gynhyrchydd record gyntaf y Velvet Underground, er iddo adael y gerddorion gael rhyddid llwyr.
Yn ôl John Cale o'r Velvet Underground, It wasn't called the Factory for nothing. It was where the assembly line for the silkscreens happened. While one person was making a silkscreen, somebody else would be filming a screen test. Every day something new.
Fel cyn arlunydd masnachol roedd Warhol yn gyffyrddus gyda'r syniad o ddefnyddio technegau masnachol i gyflymu'r proses o gynhyrchu'r darluniau. Argraffwyd cyfresi o brintiau, pob un yn gallu cael eu gwerthu yn hytrach na chymryd amser maith i beintio un gynfas unigol. Gadwodd llawr o'r gwaith llafur i’w gynorthwywyr fel Gerard Malanga.
Rhwng 1963 a1968 fe wnaeth dros 60 o ffilmiau a rhyw 500 o ffilmiau byrion du a gwyn 'prawf sgrin' o ymwelwyr i'r Factory.
Un o'i ffilmiau enwocaf yw Sleep sydd yn dangos y bardd John Giorno yn cysgu am 6 awr. Mae Empire yn dangos wyth awr o'r adeilad y Empire State. Mae'r ffilm Blow Job yn dangos 35 munud o wyneb DeVeren Bookwalter yn derbyn rhiw ceg, er bod y camera byth yn dangos os yw hyn yn wir. Un o ffilmiau mwyaf poblogaidd oedd yr arolesol Chelsea Girls (1966), a ddefnyddiodd ddwy ffilm 16mm wedi'u proseictio ochr ac ochr, yn dangos dwy stori ar yr un pryd. Yn dilyn yr ymgais i'w lofruddio ym 1968 fel rhoddodd Warhol y gorau i wneud ffilmiau gan adael i Paul Morrissey ofalu am ffilmiau'r Factory. Yn y 1970au fe dynwyd y rhan mwyaf o'i ffilmiau rhag cael eu dosbarthiad i sinemâu. Nid yw llawer o'u ffilmiau wedi bod ar gael ar fideo neu DVD.
Ar 3 Mehefin, 1968, fe geisiodd yr ysgrifenwraig radicalaidd ffeministaidd Valerie Solanas saethu Warhol a'r beirniad celf Mario Amaya yn y Factory. Roedd Solanas wedi bod yn un o griw y Factory a wedi cael ei ffilmio gan Warhol. Ysgrfenodd Solanas maniffesto ffeministaidd o dan y teitl SCUM Manifesto y llythrennau SCUM yn sefyll dros 'Society for Cutting up Men'. Fe ysgrifennodd hi sgript ffilm gan obeithio buasai Warhol yn ei gynhyrchu. Yn ddig gyda Warhol am ei ddiffyg diddordeb, fe ofynnwyd Solanas adael y Factory ond dychwelodd gyda gwn i'w lladd. .
Fe anafwyd Warhol yn ddifrifol, yn cael effaith sylweddol ar ei iechyd, bywyd a chelf am weddill ei fywyd. Fe garcharwyd Solanas. Mae'r ffilm I Shot Andy Warhol,, 1996, yn seiliedig ar hanes y digwyddiad.
I gymharu â'r degawd blaenorol, roedd y 1970 yn gyfnod llawer fwy sefydlog i Warhol wrth iddo droi yn ddyn busnes craf gan ganolbwyntio ar greu portreadau ar gomisiwn ar gyfer cleientiaid cyfoethog fel y Brenin Iran, Mick Jagger, Liza Minnelli, John Lennon, Diana Ross a Brigitte Bardot.
Gyda Gerard Malanga fe sefydlodd y cylchgrawn bywyd enwogion Interview ac fe gyhoeddodd The Philosophy of Andy Warhol (1975) yn datgan: "Making money is art, and working is art and good business is the best art."
Erbyn y cyfnod yma beirniadwyd Warhol am fod ond yn 'artist busnes', ei bortreadau o enwogion yn 'fasnachol' ac yn 'arwynebol'. Ym 1980 fe arddangosodd 10 portread o enwogion Iddewig yn Amgeuddfa Iddewig Efrog Newydd – er iddo beidio cael unrhyw ddiddordeb yn Iddewiaeth gan nodi yn ei ddyddiadur 'They're going to sell'
Erbyn hyn mae’r gwaith yma yn cael eu weld gan feirniad fel adlewyrchiad a hunan barodi o'r ffordd mae gweithiau celf wedi dod yn eitemau masnachol i gyfoethogion di-chwaeth yn chwilio am gyfleoedd buddsoddi a'r statws o fod yn berchen ag enw enwog.
Bu farw Warhol yn ei gwsg yn dilyn llawdrinaeth ar 22 Chwefror, 1987
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Andy Warhol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.