Celf sy'n darlunio pethau cyffredin a thestunau pob dydd, ac sydd weithiau'n cynnwys y fath wrthrychau yn ddefnydd y gwaith, yw celf bop.
Datblygodd y mudiad ym Mhrydain a'r Unol Daleithiau yn y 1950au, a chyrhaeddodd ei anterth yn y 1960au. Bathwyd yr enw pop art gan y beirniad celf Lawrence Alloway gan gyfeirio at yr arfer o bortreadu agweddau o ddiwylliant poblogaidd. Gwnaed eiconograffiaeth newydd o ddelweddau'r cyfryngau, hysbysebion, llyfrau comics, ac arwyddion.
Ymhlith yr arlunwyr pop enwocaf mae Andy Warhol, Roy Lichtenstein, David Hockney, a Jasper Johns.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Celf bop, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.