Rhanbarth neu 'ymreolaeth' sy'n perthyn i'r Ffindir, yn ne-orllewin y Ffindir yn nwyrain Môr Åland yn y Môr Baltig yw Åland neu Ynysoedd Åland (Swedeg: Åland Skärgård, Ffinneg: Ahvenanmaa).
Swedeg yw iaith swyddogol yr ynysoedd. Saif ger aber Gwlff Bothnia. Mae'r casgliad hwn o ysnysoedd yr archipelago, gyda'i gilydd, yn cael eu hystyried fel y rhanbarth lleiaf o Ffindir, ac yn gyfanswm o 0.49% o arwynebedd y Ffindir a 0.50% o'i phoblogaeth.
Math | rhan o'r Ffindir, endidau tiriogaethol rheolaethol |
---|---|
Prifddinas | Mariehamn |
Poblogaeth | 30,144 |
Anthem | Ålänningens sång |
Pennaeth llywodraeth | Katrin Sjögren |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Swedeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd Ewrop, Y Gwledydd Nordig |
Gwlad | y Ffindir |
Arwynebedd | 1,582.93 km² |
Uwch y môr | 129 metr |
Gerllaw | Y Môr Baltig |
Yn ffinio gyda | Southwest Finland, Sir Stockholm, Sir Uppsala, dyfroedd rhyngwladol |
Cyfesurynnau | 60.25°N 20°E |
FI-01 | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Åland |
Corff deddfwriaethol | Senedd Aland |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | lantråd |
Pennaeth y Llywodraeth | Katrin Sjögren |
CMC y pen | 1,194 million € |
Arian | Ewro |
Y brif ynys yw Fasta Åland ac arni y trig 90% o boblogaeth ymreolaeth Åland a cheir dros 6,500 o ynysoedd eraill i'r dwyrain o Fasta Åland. Rhyngddi â thir mawr Sweden, gorwedd 38 km (24 milltir) o fôr.
Gan mai rhanbarth sy'n ymreoli ei hunan ydyw, mae'r rhan fwyaf o rymoedd deddfwriaethol yn cael eu gweinyddu gan Lywodraeth Åland ei hun, yn hytrach na Llywodraeth y Ffindir.
Proto-Norweg yw tarddiad yr enw Åland, a'r gair gwreiddiol, mae'n debyg, oedd *Ahvaland sy'n golygu "Y tir a wnaed o ddŵr". Yn Swedeg datblygodd (neu newidiodd y gair yn nhreigl y blynyddoedd) i Åland, sy'n golygu'n llythrennol "Tir afon", er mai pethau digon prin yw afonydd yn naearyddiaeth Åland. Enw Ffinneg yr ynys ydy Ahvenanmaa.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Åland, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.