Ieithoedd Slafonaidd: Grwp o iethoedd Indo-Ewropeaidd

Grŵp o ieithoedd a siaredir yn nwyrain Ewrop a gogledd Asia yw'r ieithoedd Slafonaidd, hefyd ieithoedd Slafonig.

Maen nhw'n perthyn i deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd sy'n gorestyn o arfordir yr Iwerydd hyd at India yn y dwyrain. Fe'u dosbarthir yn dri is-grŵp: yr ieithoedd Slafonaidd Gorllewinol (Casiwbeg, Pwyleg, Slofaceg, Sorbeg a Tsieceg), yr ieithoedd Slafonaidd Dwyreiniol (Belarwsieg, Rwsieg ac Wcreineg, a'r ieithoedd Slafonaidd Deheuol (Bosneg, Bwlgareg, Croateg, Macedoneg, Serbeg a Slofeneg). Weithiau cyfeirir at y grwpiau gorllewinol a dwyreiniol fel ieithoedd Slafonaidd gogleddol ar sail nodweddion cyffredin. Mae ychydig o ieithoedd Slafonaidd eraill wedi marw: Hen Slafoneg Eglwysig (Slafeg deheuol) a Polabeg (iaith Slafig gogledd-orllewin yr Almaen).

Ieithoedd Slafonaidd: Grwp o iethoedd Indo-Ewropeaidd
     Gwledydd lle mae iaith Slafonaidd Orllewinol yn iaith genedlaethol      Gwledydd lle mae iaith Slafonaidd Ddwyreiniol yn iaith genedlaethol      Gwledydd lle mae iaith Slafonaidd Ddeheuol yn iaith genedlaethol
Ieithoedd Slafonaidd: Grwp o iethoedd Indo-Ewropeaidd
Ieithoedd Slafonaidd

Heddiw mae'r ieithoedd Slafonaidd yn defnyddio naill ai'r wyddor Gyrilig neu'r wyddor Ladin ar gyfer eu ffurf ysgrifenedig. Mae'r ieithoedd Slafonaidd Gorllewinol a Deheuol i gyd yn defnyddio'r wyddor Ladin, ac eithrio Bwlgareg, Macedoneg, ac, i radd helaeth, Serbeg, sy'n defnyddio'r wyddor Gyrilig. Mae'r ieithoedd Slafonaidd Dwyreiniol yn defnyddio'r wyddor Gyrilig. Fel rheol fras, mae'r gwledydd Slafaidd Catholig yn defnyddio'r wyddor Ladin, a'r rhai uniongred yn defnyddio'r wyddor Gyrilig. Defnyddiwyd gwyddor arall, y wyddor Glagolitig, a ddyfeisiwyd yn wreiddiol ar gyfer Hen Slafoneg Eglwysig gan SS. Cyril a Methodiws, o'r 9g ymlaen yn y gwledydd Slafig deheuol. Fe'i disodlwyd ym Mwlgaria a Macedonia gan y wyddor Gyrilig erbyn y 12g, ond cafodd ei defnyddio mewn rhai ardaloedd, Croatia yn arbennig, ar gyfer testunau eglwysig hyd at y 19g.

Ffynonellau

  • Comrie, Bernard, a Corbett, Greville G. gol. 1993. The Slavonic languages. Llundain: Routledge.
  • De Bray, Reginald G. A. 1970. Guide to the Slavonic languages. Llundain.
  • Horálek, K. 1992. Introduction to the study of the Slavonic languages. Nottingham: Astra Press.

Tags:

BelarwsiegBosnegBwlgaregCasiwbegCroategHen Slafoneg EglwysigMacedonegPwylegRwsiegSerbegSlofacegSlofenegSorbegTsiecegWcreineg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Zia MohyeddinISO 3166-1The Salton SeaMaricopa County, ArizonaWiciadurAlmaenArfon WynScusate Se Esisto!FfilmPrif Weinidog CymruMahanaAnna MarekGreta ThunbergIago II & VII, brenin Lloegr a'r AlbanGorllewin EwropTsukemonoYr AlmaenParth cyhoeddusIsraelGwenallt Llwyd IfanCarles PuigdemontS4CGwefanLlygreddEtholiadau lleol Cymru 2022Lleuwen SteffanGwyddoniasQuella Età MaliziosaShowdown in Little TokyoLlyfrgell y GyngresYsgrowDisturbiaComin WicimediaSgifflY Cwiltiaid14 ChwefrorFfilm llawn cyffroEagle EyeHunan leddfuCalsugnoLe Porte Del SilenzioSupport Your Local Sheriff!GundermannGwobr Goffa Daniel OwenGoogleBig BoobsAn Ros MórRhestr o safleoedd iogaAfon HafrenTwo For The MoneyRhestr adar CymruCernywiaidBwncathHentai KamenMark TaubertGwamJimmy WalesSteve EavesNew HampshireAtorfastatinTwrciHamletAwstralia🡆 More