Iaith Slafonaidd a siaredir gan y Sorbiaid mewn rhannau o ddwyrain yr Almaen yw Sorbeg.
Mae'r iaith yn perthyn i ddosbarth yr Ieithoedd Slafonig Gorllewinol, ac mae tua 50,000 o bobl yn ei siarad, yn bennaf yn nwyrain talaith Sacsoni a de-ddwyrain talaith Brandenburg. Arferid cyfeirio at yr iaith fel Wendeg hefyd.
Ers yr Ail Ryfel Byd, mae wedi dod yn arferiad gwahanu'r iaith yn Sorbeg Uchaf a Sorbeg Isaf. Sorbeg Uchaf sydd a'r nifer fwyaf o siaradwyr, yn bennaf o gwmpas dinas Bautzen (Budyšin). Siaredir Sorbeg Isaf o amgylch Cottbus (Chośebuz).
Dyddia'r testunau ysgrifenedig cyntaf o'r 16g. Sorbeg a Slofeg yw'r unig ieithoedd Ewropeaidd sydd a ffurf ddeuol (dualis) yn ychwanegol at yr unigol a'r lluosog. Ystyrir bod y ddwy ffurf o'r Sorbeg yn ieithoedd mewn perygl o ddiflannu, oherwydd pwysau'r Almaeneg.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sorbeg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.