Iaith Indo-Ewropeaidd sydd yn un o'r ieithoedd Slafonaidd gorllewinol yw Slofaceg.
Mae'n perthyn i'r ieithoedd Tsieceg, Pwyleg, Sileseg, Cashwbeg, a Sorbeg. Y Slofaceg yw iaith swyddogol Slofacia, ac yno fe'i siaredir gan 5.51 miliwn o bobl. Ceir hefyd nifer o siaradwyr yn Tsiecia.
Mae'r Slofaceg yn perthyn yn agos iawn i'r Tsieceg, a cheir cymaint o gyd-eglurder rhyngddynt bod modd rhoi'r holl dafodieithoedd Slofaceg a Tsieceg ar gontinwwm ieithyddol, ac eithrio'r tafodieithoedd yn nwyrain Slofacia a Tsieceg Bohemia.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Slofaceg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.