Iaith a siaredir yn Serbia a rhai gwledydd cyfagos yw Serbeg.
Mae'n iaith swyddogol yn Serbia, a cheir cryn nifer o siaradwyr mewn gwledydd fel Bosnia a Montenegro. Credir fod tua 12 miliwn yn siarad yr iath, 8 miliwn o'r rhain yn ei siarad fel mamiaith.
Enghraifft o'r canlynol | amrywiolyn iaith, standard variety |
---|---|
Math | Eastern Herzegovinian |
Enw brodorol | српски језик |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | sr |
cod ISO 639-2 | srp |
cod ISO 639-3 | srp |
Gwladwriaeth | Serbia, Montenegro, Bosnia a Hertsegofina, Croatia, Cosofo, Gogledd Macedonia |
System ysgrifennu | Serbian Cyrillic alphabet, Gaj's Latin alphabet |
Corff rheoleiddio | Board for Standardization of the Serbian Language |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Serbeg yn rhan o'r grŵp o ieithoedd De Slafonig a elwir wrth yr enw Serbo-Croateg, sydd hefyd yn cynnwys Croateg, Bosnieg a Montenegreg. Arferid meddwl am Serbo-Croateg fel un iaith, ac mae llawer o ieithyddwr yn y gorllewin yn dal i ystyried fod hyn yn wir. Fodd bynnag, gyda diflaniad Iwgoslafia, daethpwyd i feddwl am Serbeg, Bosnieg a Chroateg fel ieithoedd ar wahân, er eu bod cywair safonol pob un yn seiliedig ar yr un dafodiaith yn union. Gellid disgrifio Serbeg, Bosnieg a Montenegreg fel amrywiaethau ieithyddol, sydd ag enw gwahanol ac wedi eu safoni ar wahân.
Un wahaniaeth rhwng Serbeg a ieithoedd eraill y grŵp yw ei bod modd ei hysgrifennu gyda'r wyddor Gyrilig; mae'r mwyafrif o siaradwyr Serbeg yn deall ac yn defnyddio'r ddwy wyddor.
Mae trefn gwahanol i lythrennau'r wyddor, gan ddibynnu ar ba wyddor a ddefnyddir:
Yr wyddor Gyrilig Serbeg, ćirilica (ћирилица) neu azbuka (азбука):
Yr wyddor Ladin, latinica (латиница) neu abeceda (абецеда):
Enghraifft o ddefnydd cyfochrog y ddwy wyddor yw'r Wikipedia Serbeg - dechreuodd y prosiect gan ddefnyddio'r wyddor gyrilig yn unig, ond erbyn hyn, mae meddalwedd yn galluogi dewis pa wyddor i'w ddefnyddio wrth ddarllen.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Serbeg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.