Hanesydd Israeliaidd ac athro yn yr Adran Hanes ym Mhrifysgol Hebraeg Jerusalem yw Yuval Noah Harari (Hebraeg: יובל נח הררי}}; ganwyd 24 Chwefror 1976). Ef yw awdur y cyfrolau Sapiens: A Brief History of Humankind (2014), Homo Deus: A Brief History of Tomorrow (2016), a 21 Lessons for the 21st Century (2018).
Mae ei ysgrifau yn trafod ewyllys rydd, ymwybyddiaeth a deallusrwydd.
Yuval Noah Harari | |
---|---|
Ganwyd | יובל נח הררי 24 Chwefror 1976 Kiryat Ata |
Man preswyl | Mesilat Zion |
Dinasyddiaeth | Israel |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hanesydd, arbenigwr yn yr Oesoedd Canol, popular science author, hanesydd milwrol, athronydd, ysgrifennwr |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Sapiens: A Brief History of Humankind, Homo Deus: A Brief History of Tomorrow, 21 Lessons for the 21st Century |
Prif ddylanwad | Jared Diamond, S. N. Goenka |
Gwobr/au | Doethor Anrhydeddus Prifysgol Brwsel |
Gwefan | https://www.ynharari.com |
llofnod | |
Mae cyhoeddiadau cynnar Harari trafod yr hyn mae'n ei ddisgrifio fel "chwyldro dirnadol" a ddigwyddodd tua 50,000 o flynyddoedd yn ôl, pan gafodd Neanderthaliaid eu disodli gan Homo sapiens, gan ddatblygu sgiliau ieithyddol a chymdeithasau strwythuredig, ac esgyn fel ysglyfaethwyr apig , gyda chymorth y chwyldro amaethyddol a gyflymwyd yn ddiweddar gan fethodoleg a rhesymeg wyddonol sydd wedi galluogi'r ddynoliaeth i gyrraedd y nesaf peth ar feistrolaeth o'u hamgylchedd.
Mae ei lyfrau diweddar yn fwy rhybuddiol, ac yn gweithio trwy oblygiadau byd biodechnolegol ble mae creadigaethau yn rhagori ar yr organebau deallus sydd wedi'u creu yn y lle cyntaf. Mae'n proffwydo y bydd Homo sapiens, fel ag yr ydym ni'n eu hadnabod, yn diflannu mewn tua chanrif.
Ganwyd Harari yn Kiryat Ata, Israel, yn 1976 ac fe'i magwyd yn aelod o deulu Iddewig seciwlar gyda gwreiddiau Libanaidd a Dwyrain Ewropeaidd yn Haifa, Israel. Bu iddo gyfarfod ei wr Itzik Yahav yn 2002. Yahav yw rheolwr personol Harari hefyd. Priododd y ddau mewn seremoni sifil yn Toronto, Canada. Maent yn byw mewn moshav (math o gymuned amaethyddol gydweithredol o ffermydd unigol), Mesilat Zion, ger Jerusalem.
Mae Harari yn dweud bod myfyrdod Vipassana, y dechreuodd ei arfer pan oedd yn Rhydychen yn 2000, wedi gweddnewid ei fywyd. Mae'n myfyrio am ddwyawr bob dydd (awr ar ddechrau ac awr arall ar ddiwedd diwrnod o waith), yn mynd i encil myfyrio am o leiaf 30 o ddiwrnodau bob blwyddyn, mewn distawrwydd a heb unrhyw lyfrau na chyfryngau cymdeithasol, ac mae'n athro cynorthwyol sy'n hyfforddi eraill i fyfyrio. Cyflwynodd ei gyfrol Homo Deus i'w athro S. N. Goenka. Mae hefyd yn ystyried myfyrdod fel dull o ymchwilio.
Mae Harari yn fegan, ac yn dweud bod hyn o ganlyniad i'w ymchwil, a'i farn bod y diwydiant llaeth wedi'i seilio ar dorri'r berthynas rhwng mam a'i llo. Nid yw wedi perchen ffon clyfar ers Medi 2017.
Arbenigodd Harari mewn hanes y canol oesoedd a hanes milwrol yn y lle cyntaf, pan oedd yn astudio ym Mhrifysgol Hebraeg Jerusalem rhwng 1993 a 1998. Cwblhaodd ei DPhil (doethuriaeth) yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, yn 2002 dan oruchwyliaeth Steven J. Gunn. Rhwng 2003 a 2005 bu'n cynnal astudiaethau ol-ddoethurol fel Cymrawd Yad Hanadiv.
Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ac erthyglau, gan cynnwys Special Operations in the Age of Chivalry, 1100–1550; The Ultimate Experience: Battlefield Revelations and the Making of Modern War Culture, 1450–2000; The Concept of 'Decisive Battles' in World History; and Armchairs, Coffee and Authority: Eye-witnesses and Flesh-witnesses Speak about War, 1100–2000. Mae nawr yn arbenigo mewn hanes byd a phrosesau macro-hanesyddol.
Cyhoeddwyd ei lyfr Sapiens: A Brief History of Humankind mewn Hebraeg yn 2011 ac yna yn Saesneg yn 2014; mae bellach wedi'i gyfieithu i dros 30 o ieithoedd eraill. Mae'r llyfr yn bwrw golwg dros holl hanes y ddynoliaeth, o esblygiad Homo sapiens yn Oes y Cerrig i chwyldroadau gwleidyddol a thechnolegol y 21g. Daeth yr argraffiad Hebraeg yn un o'r gwerthwyr gorau yn Iseael, a chafodd lawr o ddiddordeb gan y gymuned academaidd yn ogystal a'r cyhoedd, gan ddod a chryn enwogrwydd i Harari. Mae fideos YouTube video o ddarlithoedd Hebraeg Harari wedi'u eu gwylio gan ddegau o filoedd o Israeliaid.
Mae Harari hefyd yn cynnal cwrs ar-lein yn Saesneg am ddim o'r enw English titled A Brief History of Humankind.
Mae barn Harari ar genedlaetholdeb sy'n sy'n debycach i ddealltwriaeth Gymreig o'r term. Daeth hyn i'r amlwg yn ystod Rhyfel Rwsia ar Wcráin yn 2022.
Dywedd mewn cyfweliad, "We somehow got this mistaken idea in the West that'nationalism' and 'liberalism' are opposite and you can be one or the other, and this is the deep root of the culture war in the West. And Ukraine [rhyfel Wcrain] showed us, this is not true. You don't need to think in this binary terms - nationalism and liberalism can be allies. If you understand nationalism not as hatred of foreigners or hatred of minorities but as loving your compatriots and taking care of them, then nationalism and liberalism go together. They unite around the values of freedom and of taking care of your fellow citizens, and this is why Left and Right (I've been watching it on Fox News) they are suddenly on the same page."
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Yuval Noah Harari, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.