Neanderthal

Homo mousteriensisHomo sapiens neanderthalensisPalaeoanthropus neanderthalensis

Neanderthal
Amrediad amseryddol: Pleistocene Canol–Pleistocene Hwyr 0.25–0.028 Miliwn o fl. CP
Pg
Neanderthal
Penglog Neanderthal yn La Chapelle-aux-Saints
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primates
Teulu: Hominidae
Genws: Homo
Rhywogaeth: H. neanderthalensis
Enw deuenwol
Homo neanderthalensis
William King, 1864
Neanderthal
Ardal lle gwelwyd Homo neanderthalensis.
Cyfystyron

Roedd y Neanderthal (neu'r Homo neanderthalensis neu Homo sapiens neanderthalensis) yn rhywogaeth o'r genws Homo neanderthalensis a oedd yn byw yn Ewrop a rhannau o orllewin Asia. Ymddangosodd yr olion proto-Neanderthalaidd cyntaf yn Ewrop mor gynnar â 430,000 o flynyddoedd yn ôl. Ceir tystiolaeth eu bont yn defnyddio tân 300,000 cyn y presennol (CP), fel ag yr oedd y rhywogaethau eraill a oedd yn byw yr adeg honno: homo erectus a chyndadau Homo sapiens. Erbyn 130,000 o flynyddoedd yn ôl roedd nodweddion Neanderthalaidd cyflawn wedi ymddangos. Daeth y rhywogaeth i ben rhwng 41,000 a 39,000 o flynyddoedd yn ôl.

Maent wedi gadael llawer ar eu hôl gan gynnwys esgyrn ac offer llaw a'u DNA.

Mae ymchwil genetig a wnaethpwyd yn 2010 yn awgrymu fod bodau dynol a'r Neanderthal yn rhyng-bridio rhwng 80,000 a 50,000 o flynyddoedd yn ôl yn y Dwyrain Canol. O ganlyniad mae gan fodau dynol Ewrasiaidd rhwng 1% a 4% mwy o DNA Neanderthalaidd nag Affricanwyr Is-Sahara. Roedd y Neanderthal yn perthyn yn agos i fodau dynol modern, gyda gwahaniaeth yn eu DNA o ddim ond 0.12%. Ond nid oeddent yn cydweithio gyda'i gilydd cymaint â Homo Erectus oherwydd eu diffyg datblygiad iaith, nid oeddent mor gymdeithasol, ac nid oeddent mor flaenllaw eu technoleg. Y ffactorau hyn, mae'n debyg, sy'n egluro pam y bu i'r Neanderthal ddifodi ac i Homo Erectus barhau.

Neanderthal
Siart 'Stringer' o esblygiad sawl rhywogaeth o'r genws Homo dros ddwy filiwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Mae'r cysyniad "Allan o Affrica" i'w weld ar frig y siart.

Yn y 2010au, mewn ogof ym Mynyddoedd Altai, cafwyd hyd i DNA o fewn asgwrn un o'i thrigolion, merch 13 oed, a drigai yno tua 50,000 o flynyddoedd cyn y presennol CyP. Hyd at 40,000 CP roedd y Neanderthal i'w weld drwy orllewin Ewrop a'r Denisovan drwy ddwyrain Ewrop, ond mewn rhai llefydd roeddent yn cyd-fyw. Profodd y DNA fod y tad yn Denisovan a'r fam yn Neanderthal. Oherwydd y dystiolaeth hon, mae'r hyn y gredwyd cyn 2010 - y Theori Amnewid (Replacement Theory) - bellach yn farw.

Neanderthal
Llun gan arlunydd cyfrifiadurol.

Yng Nghymru

Mae Ogof Bontnewydd yng nghymuned Cefnmeiriadog yn Sir Ddinbych yn adnabyddus fel y man lle darganfuwyd y gweddillion cynharaf o fodau dynol ar ddaear Cymru gyda un dant yn mynd nôl tua 225,000 o flynyddoedd. Dim ond un man arall drwy wledydd Prydain sydd ag olion dyn mor gynnar a hyn, sef Eartham (Sussex). Mae'r olion a ganfuwyd yn Ogof Bontnewydd yn perthyn i Hen Oes y Cerrig (neu Paleolithig). Cafwyd hyd i 19 dant yn perthyn i blant ieuanc ac oedolion: un bachgen wyth a hanner oed, un ferch 9 oed bachgen 11 oed, bachgen arall 11-16 oed ac oedolyn. Gellir dehongli'r gweddillion mewn modd wahanol ac fel uchafswm mae'n bosibl fod y niferoedd cymaint â naw plentyn a saith oedolyn. Dyma'r fan mwyaf gogleddol, drwy Ewrop, y cafwyd hyd i olion Neanderthaliaid.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Tags:

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Huw ChiswellMeirion MacIntyre HuwsMamalSafleoedd rhywB. T. HopkinsArwrThe Commitments (ffilm)Loganton, PennsylvaniaAlgeriaBattles of Chief PontiacSian Adey-JonesAristotelesAled a Reg (deuawd)RSSLeonor FiniTynal TywyllGwamHanes diwylliannolStorïau TramorWashington, D.C.CasnewyddHermitage, BerkshireGeraint JarmanBrimonidinLlyn TegidBrenhiniaethLlanharanRalphie MayLingua Franca NovaKathleen Mary FerrierThe FeudNic ParryHome AloneYumi WatanabeLucas CruikshankCascading Style SheetsSaesnegFfwythiantHywel DdaY Tŷ GwynGrandma's BoyCamlas SuezYsbyty Frenhinol HamadryadLlywodraethBrychan LlŷrThomas VaughanFflorensGwalchmai ap GwyarBarbie in 'A Christmas Carol'Mamma MiaLBeilïaeth JerseyThe RewardCaerfyrddinY CroesgadauDewi 'Pws' MorrisMahmood Hussein MattanHen BenillionHindŵaethGlöyn bywCalsugnoOcsigenMenter gydweithredol12 ChwefrorCwpan y Byd Pêl-droed 2014TafodLlanfihangel-ar-ArthDydd Gwener y GroglithIncwm sylfaenol cyffredinol🡆 More