Ynys Sgogwm: Ynys anghyfannedd oddi ar arfordir de-orllewin Sir Benfro

Ynys anghyfannedd oddi ar arfordir de-orllewin Sir Benfro yw Ynys Sgogwm (Hen Norseg: Skokholm, o skok (coed) a holm (ynys isel); Saesneg: Skokholm), sy'n gorwedd i'r de o Ynys Sgomer.

Ei arwynebedd yw tua 1 filltir sgwâr.

Ynys Sgogwm
Ynys Sgogwm: Disgrifiad, Hanes, Cyfeiriadau
Mathynys Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Arfordir Penfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1.06 km² Edit this on Wikidata
GerllawSianel San Siôr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.698452°N 5.276802°W Edit this on Wikidata
Hyd1.6 cilometr Edit this on Wikidata
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Disgrifiad

Mae'r ynys yn enwog am ei chlogwyni Hen Dywodfaen Coch sy'n gartref i nifer o adar môr. Gellir hwylio i'r ynys ar gychod o Martin's Haven ar y tir mawr, ond rhaid cael caniatâd ymlaen llaw gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru i lanio arni. Ynghyd ag Ynys Sgomer, mae'r cyfan yn warchodfa natur a'r môr oddi amgylch yn warchodfa môr.

Daeth yr ynys yn adnabyddus y tu allan i Gymru diolch i waith R. M. Lockley, ornitholegwr blaenllaw, a astudiodd adar yr ynys lle bu fyw am flynyddoedd lawer, gan gyhoeddi sawl llyfr ac erthygl amdani. Yn ogystal â'r nifer fawr o adar môr sy'n bridio yno mae hefyd yn safle da i adar mudol sydd weithiau'n denu adar prin iawn.

Hanes

Ystyr Sgogwm neu Skokholm yw "ynys goediog". Rhoddwyd ei henw iddi gan y Llychlynwyr a mordeithiau i foroedd de-orllewin Cymru ar ddechrau'r Oesoedd Canol gan adael enwau Norseg ar sawl ynys a llecyn arfordirol arall yn yr ardal. Mae'r enw'n gyffelyb ei ystyr i Stockholm, prifddinas Sweden.

Prynwyd yr ynys am £300 yn 1646 gan gyfreithiwr o'r enw William Philipps, ac arhosodd yn y teulu am 360 o flynyddoedd hyd farwolaeth ei ddisgynnydd olaf Mrs Osra Lloyd-Philipps (1920 - 24 Mawrth, 2005), perchennog Castell Dale. Gwerthwyd yr ynys i'r ymddiriedolaethau natur oedd yn gofalu amdani yn Ebrill 2006, diolch i roddion sylweddol gan aelodau o'r cyhoedd.

Ynys Sgogwm: Disgrifiad, Hanes, Cyfeiriadau 
Ynys Sgogwm o arfordir Penfro

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Ynys Sgogwm DisgrifiadYnys Sgogwm HanesYnys Sgogwm CyfeiriadauYnys Sgogwm Dolenni allanolYnys SgogwmHen NorsegSaesnegSir BenfroYnysYnys Sgomer

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Amaeth yng NghymruAdeiladuFfilmOrganau rhywCawcaswsGeorgiaRhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn LloegrWassily KandinskyUndeb llafurAmerican Dad XxxDenmarcSiôr I, brenin Prydain FawrGwyn ElfynGeometregCopenhagenWicilyfrauHenoMET-ArtfietnamCymraeg23 MehefinRhyw geneuolBugbrookeAligatorThe Next Three DaysLladinTsietsniaidArchaeolegSbermYr Ail Ryfel BydWiciadurDagestanJohn Bowen JonesDafydd HywelBrenhiniaeth gyfansoddiadolMoscfaFlorence Helen WoolwardD'wild Weng GwylltOcsitaniaParth cyhoeddusPeiriant WaybackSlumdog MillionaireRiley ReidCyngres yr Undebau LlafurPeniarthCyfalafiaethJeremiah O'Donovan RossaEconomi Cymru2006GwyddoniadurSafle Treftadaeth y BydMount Sterling, IllinoisAmwythigMao ZedongKurganDestins ViolésElectronDewi Myrddin HughesPwyll ap SiônGwibdaith Hen FrânCasachstanPornograffiBroughton, Swydd NorthamptonCarcharor rhyfelTwristiaeth yng NghymruSlefren fôrNational Library of the Czech RepublicThe End Is NearFaust (Goethe)Afon Teifi🡆 More