Llychlynwyr Yng Nghymru

Mae cyfnod y Llychlynwyr yng Nghymru yn ymestyn o'r 9g hyd y 11g.

Yn ystod y cyfnod yma, cafodd y Llychlynwyr ddylanwad mawr ar hanes Cymru, yn bennaf oherwydd eu hymosodiadau rheolaidd ar ardaloedd ger yr arfordir. Yn wahanol i lawer o wledydd gogledd-orllewin Ewrop, nid ymddengys iddynt ymsefydlu yng Nghymru ar raddfa fawr, er bod tystiolaeth o safleoedd megis Llanbedrgoch ar Ynys Môn yn awgrymu y gallai fod ymsefydlu ar raddfa fechan.

Llychlynwyr Yng Nghymru
Llong Gokstad, llong o'r cyfnod Llychlynnaidd yn Oslo.

Ymosodiadau

Cofnodwyd ymosodiadau Llychlynnaidd ar Brydain ac Iwerddon o ddiwedd yr 8g ymlaen. Yn 852 y ceir y cofnod cyntaf am ymosodiad ar Gymru. Bu mwy o ymosodiadau yn ystod teyrnasiad Rhodri Mawr, gyda'r Daniaid yn bennaf gyfrifol. Yn ôl y croniclau buont yn anrheithio Môn yn 854. Yn 856 enillodd Rhodri fuddugoliaeth nodedig dros y Daniaid ym Mrwydr Llandudno gan ladd eu harweinydd Gorm (a elwir weithiau yn Horm). Mae dwy gerdd gan Sedulius Scotus wedi ei hysgrifennu yn llys Siarl Foel, brenin y Ffranciaid Gorllewinol, yn dathlu buddugoliaeth "Roricus" dros y Llychlynwyr. Cafodd Rhodri fuddugoliaeth arall yn erbyn y Daniaid ym Mrwydr Parciau yn 872.

Cyrhaeddodd ymosodiadau'r Llychlynwyr ar Gymru uchafbwynt yn y cyfnod rhwng 950 a 1000.Dywedir i Godfrey Haroldson gymryd dwy fil o gaethion o Ynys Môn yn 987, a thalodd brenin Gwynedd, Maredudd ab Owain, swm mawr i'r Daniaid i brynu ei bobl yn ôl o gaethiwed. Dioddefodd Tyddewi ymosodiadau rheolaidd; cofnodir i'r Llychlynwyr ladd Morgeneu, Esgob Tyddewi, yn 999 a'r Esgob Abraham yn 1080.

Cydweithrediad

Roedd hefyd gryn dipyn o gydweithredu rhwng y Llychlynwyr a'r Cymry ar adegau. Roedd Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd o dras Lychlynnaidd ar ochr ei fam. Pan fu raid i'w dad, Cynan ap Iago, ffoi o Gymru, aeth i Iwerddon at Ddaniaid Dulyn, lle priododd Ragnell, merch Olaf Arnaid, o deulu brenhinol Daniaid Dulyn. Yn ystod ei ymdrechion i ennill rheolaeth dros Wynedd cafodd Gruffudd lawer o gymorth oddi wrth Ddaniaid Dulyn. Wedi i Hywel ab Edwin, brenin Deheubarth gael ei yrru o'i deyrnas gan Gruffudd ap Llywelyn yn 1042 neu 1043, ond dychwelodd yn 1044 gyda byddin yn cynnwys llawer o Ddaniaid, ond gorchfygodd Gruffudd hwy mewn brwydr ger aber Afon Tywi a lladdwyd Hywel.

Er i'r Llychlynwyr ymsefydlu ar raddfa sylweddol yn Iwerddon a Lloegr, credir na lwyddasant erioed i ymsefydlu ar raddfa fawr yng Nghymru. Yn 1994, gwnaed darganfyddiad diddorol yn Llanbedrgoch ger arfordir dwyreiniol Ynys Môn, sef olion sefydliad yn deillio o gyfnod y Llychlynwyr, efallai tua'r 10g. Mae cloddio archeolegol yma dros y blynyddoedd diwethaf wedi darganfod tystiolaeth yn awgrymu fod Llychlynwyr wedi ymsefydlu yma am gyfnod.

Enwau lleoedd

Ceir enwau o darddiad Llychlynnaidd ar nifer o ynysoedd a nodweddion eraill o amgylch arfordir Cymru, er enghraifft Ynys Sgogwm ac Ynys Sgomer. Yn aml, yr enwau yma yw'r rhai a ystyrir yn awr yn enwau "Saesneg", er enghraifft Anglesey am Ynys Môn, Swansea am Abertawe a nifer eraill.

Llyfryddiaeth

  • Redknap, Mark Y Llychlynwyr yng Nghymru: ymchwil archeolegol (Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, 2000) ISBN 072000487x

Tags:

Llychlynwyr Yng Nghymru YmosodiadauLlychlynwyr Yng Nghymru CydweithrediadLlychlynwyr Yng Nghymru Enwau lleoeddLlychlynwyr Yng Nghymru LlyfryddiaethLlychlynwyr Yng Nghymru11g9gLlanbedrgochLlychlynwyrYnys Môn

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

AriannegJulianLlanfaglanRhestr mynyddoedd CymruBlodeuglwmRhydamanMapSomalilandThe BirdcageSystem weithreduOlwen ReesRhestr o ganeuon a recordiwyd gan y Tebot PiwsAwdurdodFformiwla 17Faust (Goethe)Talcott ParsonsEgni hydroYr AlmaenSiôr III, brenin y Deyrnas UnedigDonald Watts DaviesMarcel ProustClewerArchdderwyddJava (iaith rhaglennu)Jim Parc NestMaries LiedDestins ViolésWsbecistan1942SaesnegJohnny DeppWicipediaCordogPalas HolyroodYokohama MaryDewi Myrddin HughesXHamsterCelyn JonesWicidestunDeddf yr Iaith Gymraeg 1993Steve JobsMae ar DdyletswyddStorio dataRaymond BurrMervyn KingAmserY Chwyldro DiwydiannolEtholiad nesaf Senedd CymruSussexISO 3166-1The Merry CircusSaltneyEfnysienByseddu (rhyw)Coron yr Eisteddfod GenedlaetholEmma TeschnerGetxoAnialwchTo Be The BestAnhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwyddWuthering HeightsLleuwen SteffanSafle Treftadaeth y BydGigafactory TecsasLouvreSupport Your Local Sheriff!Rhif Llyfr Safonol RhyngwladolMargaret Williams1809🡆 More