Llanilltud Fawr: Tref a chymuned ym Mro Morgannwg

Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru yw Llanilltud Fawr (Saesneg: Llantwit Major).

Llanilltud Fawr
Llanilltud Fawr: Adeiladau a chofadeiladau, Enwogion, Diywlliant
Mathcymuned, tref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4062°N 3.475°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000918 Edit this on Wikidata
Cod OSSS975685 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJane Hutt (Llafur)
AS/auAlun Cairns (Ceidwadwr)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur) ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).

Ceir olion hen fila Rhufeinig tua 1 filltir o'r dref.

Mae hen eglwys Sant Illtud yn enwog iawn. Mae'n sefyll ar safle'r hen fynachlog (clas) a sefydlwyd yno gan y sant yn y 6g. Daeth yn ganolfan dysg bwysig a dylanwadol yn yr Oesoedd Canol cynnar. Roedd yn mwynhau nawdd brenhinoedd fel Hywel ap Rhys, brenin Glywysing (m. 886), a gladdwyd yno. Cafodd mynachlog Llanilltud ei hanreithio gan y Llychlynwyr yn 988. Daeth yr eglwys yn eiddo Abaty Tewkesbury tua 1130 ar ôl i'r Normaniaid orsegyn teyrnas Morgannwg.

Mae'n bosibl fod y bardd Lewys Morgannwg (fl. 1520-1565) wedi byw yn Llanilltud Fawr, er ei fod yn frodor o Dir Iarll. Canodd gerdd i Illtud Sant sydd ar glawr heddiw.

Yn y flwyddyn 1100 yr ymddengys y gair yn gyntaf yn ysgrifenedig, "Llan Iltut", sy'n dangos yn amlwg mai "Illtud" yw tarddiad y gair, nid "twit" (Llantwit Major ydy'r gair yn Saesneg).

Adeiladau a chofadeiladau

Enwogion

Diywlliant

Mae gan y dref glwb pêl-droed sy'n chwarae yn uchel lefelau y gêm yng Nghymru. Bu C.P.D. Llanilltud Fawr chwarae yn nhymor agoriadol cynghrair Cymru South, sef ail lefel system byramid pêl-droed yng Nghymru.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanilltud Fawr (pob oed) (9,486)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanilltud Fawr) (882)
  
9.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanilltud Fawr) (5902)
  
62.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llanilltud Fawr) (1,401)
  
34.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

Tags:

Llanilltud Fawr Adeiladau a chofadeiladauLlanilltud Fawr EnwogionLlanilltud Fawr DiywlliantLlanilltud Fawr Cyfrifiad 2011Llanilltud Fawr CyfeiriadauLlanilltud FawrBro MorgannwgCymruCymuned (Cymru)

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Post BrenhinolSystem atgenhedluMemyn rhyngrwydRosetta (cerbyd gofod)BelcampoJuan Antonio VillacañasBlodeuglwmAlun Wyn JonesPeredur ap GwyneddRhestr o Lywodraethau Cymru1533Unol Daleithiau AmericaAligatorCernywegChristopher ColumbusCyfarwyddwr ffilmGweriniaeth Pobl TsieinaTîm Pêl-droed Cenedlaethol RwsiaBarbara BushEugène IonescoOboBaudouin, brenin Gwlad BelgRhyfel Annibyniaeth AmericaCynnyrch mewnwladol crynswthY Tebot PiwsPRS for Music29 IonawrBaner CymruEx gratiaFfilmArundo donaxTabernacl tunTwo For The MoneyAlfred HitchcockBaker City, OregonHentaiRhyw rhefrolMET-ArtDavid CameronO Princezně, Která RáčkovalaWicipediaAmy CharlesRadioheadCymdeithas Bêl-droed LloegrHugo Chávez1475MasarnenTîm Pêl-droed Cenedlaethol yr EidalFfilm llawn cyffroHelen o Waldeck a PyrmontIago VI yr Alban a I LloegrY rhyngrwydGwlad10 Giorni Senza MammaWashington County, OregonBatmanGalileo GalileiHentai KamenThe Salton SeaRwmanegFfibrosis yr ysgyfaintBéla Bartók🡆 More