Y gwastraff o system dreulio anifail yw ymgarthion, ysgarthion neu gachu (Saesneg: faeces).
Defnyddir y gair "carthu" a "charthion" ar lafar gwlad gan amaethwyr wrth sôn am lanhau'r beudy, a tharddiad y gair hwn yw cartharsis. Defnyddir y gair "dom" yn y Beibl yn ei le. Gelwir y weithred o gael gwared â'r gwastraff hwn o'r corff yn ysgarthu.
Wedi i anifail fwyta a thrulio bwyd, mae'r hyn sydd'n weddill ohono'n cael ei yrru allan o'r corff drwy'r anws. Mae'r ymgarthion yma'n cynnwys hyd at 50% o'r maeth oedd ynddo cyn ei dreulio. Mae llawer o organebau fel bacteria, ffwng neu'r chwilen dom, felly'n bwyta'r ymgarthion hyn a gallent ganfod y bwyd drwy ei ogla o hirbell. Mae rhai'n arbenigo ar ei fwyta tra bod eraill hefyd yn bwyta bwydydd eraill. Mae rhai rhywogaethau'n ei fwyta fel atodiad i'w prif ddeiet ee llo eliffant yn bwyta ymgarthion ei fam a gelwir hyn yn "coproffagia". Drwy hyn, mae'r llo'n derbyn bacteria da sydd yn eu tro'n helpu i dreulio bwyd. Anifeiliaid eraill sy'n gwneud hyn yw cŵn, cwningod a mwnciod.
Gall adar ysglyfaethus weld rhai ymgarthion neu biso anifail o bell, yn enwedig y rheiny sy'n adlewyrchu golau uwchfioled, ac mae hyn yn eu harwain at eu hysglyfaeth.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ymgarthion, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.