Paraffilia

Yn seicoleg a rhywoleg, mae'r term paraffilia (o'r Roeg: para παρά = gerllaw yn annormal a -ffilia φιλία = cariad) yn disgrifio teulu o ffantasïau, cymhellion gwyrol, neu ymddygiadau dwys, parhaus mae unigolyn yn teimlo sy'n ymwneud â chyffro rhywiol o wrthrychau annynol, poen neu gywilydd a brofiadir gan unigolyn neu ei bartner, neu blant neu unigolion eraill sy'n anaddas fel partneriaid neu ni all cydsynio i gael rhyw.

Gall baraffiliâu ymyrryd â'r gallu am weithgarwch rhywiol serchog dwyochrog. Defnyddir y term paraffilia yn ogystal i gyfeirio at ymarferion rhywiol tu allan i'r prif ffrwd heb yn angenrheidiol ymhlygu camweithrediad (gweler yr adran Barnau clinigol). Hefyd, gall ddisgrifio teimladau rhywiol tuag at wrthrychau sydd fel arall yn ddi-rywiol.

Cyfeiriadedd rhywiol
rhan o rywoleg
Gwahaniaethau

Anrhywioldeb · Cyfunrywioldeb · Deurywioldeb · Heterorywioldeb · Hollrywioldeb · Paraffilia · Unrhywioldeb

Labeli

Cwestiynu · Hoyw · Lesbiad · Queer

Dulliau

Graddfa Kinsey · Grid Klein

Astudiaeth

Bioleg · Demograffeg · Meddygaeth · Seicoleg

Anifeiliaid

Cyfunrywioldeb
mewn anifeiliaid
 ·

Gweler hefyd

Rhyngrywioldeb · Trawsrywedd · Trawsrywioldeb

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Barnau clinigol ar baraffiliâu

Mae llawer o drafod ynglŷn â beth yn union (os unrhywbeth) dylai diffinio paraffilydd, a sut dylai rhain cael eu dosbarthu'n glinigol.

Paraffiliâu clinigol cydnabyddedig

Trafodir wyth prif baraffilia yn unigol gan lenyddiaeth glinigol. Yn ôl Y Cyfarwyddiadur Diagnostig ac Ystadegol o Anhwylderau Meddyliol (DSM), mae'n rhaid i'r gweithgaredd fod yn yr unig fodd o foddhad rhywiol am gyfnod o chwe mis, ac naill ai achosi "trallod neu amhariad, mewn adrannau cymdeithasol, galwedigaethol, neu adrannau pwysig eraill o weithredu, sydd yn arwyddocaol yn glinigol" neu cynnwys trosedd yn erbyn cydsyniad er mwyn i ddiagnosis gael ei wneud ohono fel paraffilia.

  • Arddangosiaeth: y cymhelliad neu ymddygiad i ddangos organau cenhedlu i berson nad yw'n ddisgwyl.
  • Chwant neu ffetis rhywiol: y defnydd o wrthrychau di-rywiol neu anfyw neu ran o gorff rhywun i gael cynnwrf rhywiol.
  • Ffroteisiaeth: y cymhelliad neu ymddygiad i gyffwrdd neu rwbio yn erbyn person nad yw'n cydsynio.
  • Pedoffilia: yr atyniad rhywiol i blant rhag-lasoedol.
  • BDSM:
      Masochistiaeth: y cymhelliad neu ymddygiad o eisiau cael eich gwaradwyddo, baeddu, clymu, neu fel arall teimlo poen er mwyn pleser rhywiol.
      Sadistiaeth: y cymhelliad neu ymddygiad o weithredoedd lle mae poen neu gywilydd y dioddefwr yn rhoi cynnwrf rhywiol.
  • Ffetisiaeth trawswisgo: atyniad rhywiol tuag at ddillad y rhywedd arall.
  • Voyeuriaeth: y cymhelliad neu ymddygiad o wylio person nad yw'n cydsynio yn noeth, dadwisgo neu'n cael rhyw neu hunan-leddfu, neu gall fod yn ddi-rywiol ei natur.
  • Grwpir paraffiliâu eraill, mwy anghyffredin gyda'i gilydd o dan Paraffiliâu eraill sydd fel arall heb eu henwi sydd yn cynnwys necroffilia (celanedd), söoffilia (anifeiliaid), coproffilia (ymgarthion) a bondais (cael eich clymu).

Yn flaenorol, rhestrwyd gwrywgydiaeth fel paraffilia yn y DSM-I a DSM-II. Mewn cysondeb â'r newid mewn consensws rhwng seicriatryddion ni chynhwysir mewn argraffiadau diweddarach. Mae anhwylder trallod clinigol o ganlyniad i ataliad gwrywgydiaeth dal ar y rhestr.

Seicoleg paraffiliâu

Argraffiad ymddygiadol

Cawn gwybodaeth wyddonol werthfawr ar fecanweithiau atyniad ac awydd rhywiol, megis argraffiad ymddygiadol, o arsylwad ymddygiad paraffilig. Arweinir astudiaeth ofalus yn ogystal at gasgliadau amhenderfynol bod gall brosesau biolegol normal weithiau cael eu hamlygu mewn ffyrdd hynodweddol mewn o leiaf rhai o'r paraffiliâu, a chysylltir yr amlygiadau anarferol hyn yn aml gyda digwyddiadau anghyffredin (ac yn enwedig trawmatig) a gysylltir â phrofiad rhywiol cynnar. Tueddir iddynt cael eu hachosi gan gyflyru clasurol lle mae symbyliad rhywiol wedi'i baru â symbyliadau a sefyllfaoedd nad yw ymateb rhywiol yn nodweddiadol yn deillio o, ac wedyn wedi'i fytholi trwy gyflyru gweithredol oherwydd yr ymateb rhywiol yw gwobr ei hunan (neu atgyfnerthiad cardarnhaol).

Rhestr chwantau

Cyfeiriadau

Tags:

Paraffilia Barnau clinigol ar baraffiliâuParaffilia Rhestr chwantauParaffilia CyfeiriadauParaffiliaCariadCywilyddGroeg (iaith)PlantPoenRhywRhywolegSeicoleg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Arian cyfredFfisegEtholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015Dwitiyo PurushUned brosesu ganologThe Next Three DaysYsgol Dyffryn AmanCaerdyddYsgol Cylch y Garn, LlanrhuddladBwlgariaXHamsterYstadegaethIaithRheolaethEl NiñoSefydliad WicifryngauSainte-ChapelleHTMLThomas Gwynn JonesDe CoreaAneirin KaradogBanerGwefanWcráinFylfaVladimir PutinOld HenryTovilBara croyw2016La Flor - Episode 4Mechanicsville, VirginiaMaliTiranaGorllewin AffricaBwncath (band)Brithyn pruddL'acrobateMI6Curtisden GreenOsian GwyneddDrôle De FrimousseImagining ArgentinaAthroniaethCymruLumberton Township, New JerseyRhanbarthau'r EidalSupport Your Local Sheriff!Hot Chocolate SoldiersBhooka SherSioe gerddTîm pêl-droed cenedlaethol yr EidalGalileo GalileiCyfunrywioldebElisabeth II, brenhines y Deyrnas UnedigWicipediaAmerican Broadcasting CompanyWhere Was I?Brech wen29 TachweddYsgrifennwrJac a WilParamount PicturesMuscatCascading Style SheetsFfrangegReilly FeatherstoneMarwolaeth1937Boeing B-52 Stratofortress🡆 More