Hunan Leddfu

Halio (neu'n ar lafar: wancio; hefyd cilddyrnu neu mwdwlwasgu) yw'r weithred o gyffroi'r organau rhywiol, fel arfer i bwynt orgasm a hynny gan y person ei hun neu arall.

Mae'n rhan o set ehangach o weithredoedd a adnabyddir fel awtoserchyddiaeth, sydd hefyd yn cynnwys defnyddio tegannau rhyw a symbylu an-genhedlol. Mae yna hefyd beiriannau halio sy'n cael eu defnyddio i efelychu cyfathrach rywiol er mwyn pleser. Pan fo'r weithred hwn yn digwydd gan fwy nag un person fe ddywedir eu bod yn cyd-halio (Saesneg: Mutual masturbation).

Hunan Leddfu
Dyn yn hunan leddfu.

Hunan leddfu a chyfathrach rywiol yw'r arferion rhywiol mwyaf cyffredin, ond nid ydynt yn cyd-anghynhwysol (er enghraifft, mae nifer o bobl yn gweld golwg eu partner yn hunan leddfu yn hynod o nwydol). Gall rhai bobl gyrraedd orgasm dim ond drwy hunan leddfu. Yn nheyrnas yr anifeiliaid, mae hunan leddfu i'w weld mewn sawl rhywogaeth mamal, yn yr anial ac mewn caethiwed.

Benywaidd

Hunan Leddfu 
Cyd-leddfu.
Hunan Leddfu 
Modrwy gwrth wancio

Prif organ rhywiol benywaidd yw'r clitoris, ac mae rhan o hunan leddfu benywaidd ynymwneud â chosi neu rwbio'r clitoris fel arfer. Mae rhai merched yn rhoi cala goeg yn eu gweiniau, cryno ddic neu'n defnyddio eu bysedd i greu'r pleser hwn.

Ar yr un pryd mae rhai'n hoffi cael eu brestiau neu anws wedi'u rhwbio, yn aml efo olew. Mae erill yn medru croesi eu coesau a gwasgu cyhyrau eu cluniau at eu gilydd er mwyn cael cyffro. Weithiau maen nhw'n gwneud hyn yn gyhoeddus, heb i neb wybod.

Gwrywaidd

Mae bechgyn yn gafael yn eu codiad ac yn ei rwbio er mwyn cael yr un effaith.

Pechod Onan

Hunan Leddfu 
Onania; or the heinous sin of self-pollution, title page. Wellcome L0020235

Ceir hanes Onan yn Llyfr Genesis yn y Beibl:

Gen 38:8 Yna dywedodd Jwda wrth Onan, "Dos at wraig dy frawd, ac fel brawd ei gŵr cod deulu i'th frawd".

Gen 38:9 Ond gwyddai Onan nad ei eiddo ef fyddai'r teulu; ac felly, pan âi at wraig ei frawd, collai ei had ar lawr, rhag rhoi plant i'w frawd.

Gen 38:10 Yr oedd yr hyn a wnaeth yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, a pharodd iddo yntau farw.

Gan hynny ystyrid colli had ar lawr neu Onaniaeth (trwy hunan leddfu, er enghraifft) yn bechod gan yr Eglwys. Credwyd gan rai bod y bechod o hunan leddfu yn gallu arwain at afiechydon megis dallineb neu orffwylltra.

Gan fod hunan leddfu yn bechod cyffredinol ymysg gwyr ifanc dyfeisiwyd teclynnau i'w rhwystro rhag wancio, a'u hamddiffyn rhag ddallineb a / neu orffwlldra, megis y Jugum Penis Ring. Teclyn dur i'w osod ar y bidlan llipa cyn mynd i'r gwely, efo dannedd dur byddai'n brathu'r pidlan o gael codiad. Defnyddiwyd y fath modrwyau yn gyffredinol mewn ysbytai meddwl hyd y 1920au ac mewn rhai cartrefi crefyddol hyd y 1960au.

Mae nifer o eiriaduron Cymraeg o'r 19g yn defnyddio'r gair Llathryd ar gyfer treisio merch yn rhywiol (rape) a Llaw Lathryd, ar gyfer wancio; gan roi'r argraff bod hunan leddfu yn cael ei hystyried ganddynt fel hunan ymosodiad mor ddifrifol ag ymosodiad treisiol ar fenyw diniwed.

Deddf Gwlad

Yn y Ddeyrnas Unedig, mae hunan leddfu yn gyhoeddus yn anghyfreithlon o dan Adran 28 o Ddeddf Cymalau Dref yr Heddlu 1847. Gall y gosb fod hyd at 14 diwrnod yn y carchar. Yn gyffredinol  mae'r ddeddf yn cael ei ddefnyddio i erlyn y sawl sy'n hunan leddfu'n gyhoeddus, ond mewn theori y mae'n parhau'n anghyfreithiol i ŵr hunan leddfu yng ngŵydd ei briod / partner sifil.

Nodiadau

Hunan Leddfu 
Comin Wiki
Mae gan Gomin Wiki
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Tags:

Hunan Leddfu BenywaiddHunan Leddfu GwrywaiddHunan Leddfu Pechod OnanHunan Leddfu Deddf GwladHunan Leddfu NodiadauHunan LeddfuCyfathrach rywiolOrganau rhywOrgasmPeiriantTegan rhyw

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

2021TrydanSands of Iwo JimaFfilm arswydCosmetigauGorila27 HydrefEvil LaughFfraincWilliam Howard TaftAderynMy MistressPidynPeter FondaAndrea Chénier (opera)UsenetY DiliauLlygoden ffyrnigGroeg (iaith)Castlejordan, Sir Meath, Gweriniaeth IwerddonPedro I, ymerawdwr BrasilFfrwydrad Ysbyty al-AhliTwitterCwnstabliaeth Frenhinol UlsterCymdeithas sifil1724Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon2002HinsawddAmgueddfa Genedlaethol AwstraliaFelony – Ein Moment kann alles verändernSwolegAlaskaGenreMarie AntoinetteJSTOR1683The Bitter Tea of General YenShivaMacOSWoyzeck (drama)Lleuwen SteffanCascading Style SheetsCalifforniaMozilla FirefoxAmanita'r gwybedCanadaBootmenKundunRhestr o wledydd sydd â masnachfreintiau KFCSpring SilkwormsRosettaI Will, i Will... For NowYnniYr ArctigLlundainWoody GuthrieEd Sheeran14 GorffennafSex TapeVAMP7Wiliam Mountbatten-WindsorBugail Geifr Lorraine1950auDinasoedd CymruLouis PasteurMinskWiciadurGwasanaeth rhwydweithio cymdeithasolLlên RwsiaEisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023🡆 More