Heddiw, cytuna'r mwyafrif o wyddonwyr ei fod yn fwyaf tebygol taw canlyniad i ryngweithiad cymhleth o ffactorau amgylcheddol, gwybyddol a biolegol yw cyfeiriadedd rhywiol.
Er nad yw cyfunrywioldeb yn ymddangos yn ymaddasol o safbwynt esblygiadol, gan nad yw rhyw gyfunrywiol yn cynhyrchu epil, mae tystiolaeth i brofi ei fodolaeth ym mhob oes ac ym mhob diwylliant a gwareiddiad dynol.
Er ystyriant gwyddonwyr nifer o ffactorau biolegol, megis hormanau cyn-geni, cromosomau, effeithiau polyenynnol, strwythur yr ymennydd a dylanwadau firaol, ni fodolir consensws gwyddonol ar sut mae bioleg yn dylanwadu ar gyfeiriadedd rhywiol.
Cytuna'r mwyafrif o wyddonwyr ei fod yn annhebygol bod yna "genyn hoyw" unigol sy'n pennu rhywbeth mor gymhleth â chyfeiriadedd rhywiol, ac mae'n fwy tebygol taw rhyngweithiad o ffactorau genynnol, biolegol ac amgylcheddol/diwylliannol sy'n ei achosi. Er hynny, darganfuwyd alelau mwtanaidd o enyn "diffrwyth" o fewn pryfed ffrwythau oedd yn achosi pryfed gwrywol i garu a cheisio ymgydio â gwrywod eraill yn unig.
Er rhoddir llawer o'r canolbwynt poblogaidd ar fformiwlâu syml megis "y genyn hoyw", gwerth ymchwil gwyddonol yn y maes hwn yn y bôn yw datblygu gwir ddealltwriaeth o sylfaen fiolegol cyfeiriadedd rhywiol yn gyffredinol, sydd ar hyn o bryd heb ddealltwriaeth gadarn am unrhyw gyfeiriadedd unigol. Dylai astudiaeth o sut mae mecanweithiau datblygus yn cynhyrchu amrywiad yng nghyfeiriadedd rhywiol arwain at ragor o ddealltwriaeth o sut mae nifer o nodweddion ymddygiadol tebyg yn gweithio hefyd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Bioleg a chyfeiriadedd rhywiol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.