Bdsm

Math o chwarae erotig rhwng un, dau neu ragor o bobl ydy BDSM (talfyriad neu acronym o'r geiriau Saesneg: Bondage and Discipline, Dominance and Submission, Sadism and Masochism) sy'n creu tensiwn rhywiol drwy bŵer a phoen.

Fe ddefnyddir y term BDSM bron ym mhob iaith.

BDSM
Bdsm
Bdsm
Enghraifft o'r canlynolisddiwylliant Edit this on Wikidata
Mathffetisiaeth rywiol, sexual roleplay, ffordd o fyw, sadomasochism Edit this on Wikidata
Yn cynnwysdomination and submission, sadomasochism, Bondais Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bdsm
Goth mewn gwisg bale wedi'i rhwymo neu ei chlymu gan berson sy'n dymuno teimlo pŵer a gwefr rhywiol o wneud hynny.

Mae BDSM yn cynnwys llawer iawn o wahanol fathau o chwaraeon neu weithgareddau; ac edrychir arnynt gan rai pobl yn annormal.

Mae sawl rôl gan gynnwys y domineiddiwr a'r derbyniwr, y sadydd a'r masocydd, sy'n ddibynnol ar ei gilydd. Mae'r ddau yn derbyn pleser o'r chwarae rôl a hwnnw yn bleser rhywiol.

Bondais (rhywglymu) a Disgyblaeth

Dyma ddau isddosbarth o BDSM ac mae'r ddau yn wahanol iawn, ond eto maen nhw'n cael eu cysylltu'n gryf â'i gilydd. Mewn bondais (Saesneg: bbondage), mae'r syb yn cael ei glymu neu ei chlymu gan y dom.

Sadomasocistiaeth

Y "Dom" a'r "syb": y meistr a'r gwas

Y corff

Bdsm 
Cefn merch wedi ei orchuddio gan gŵyr cannwyll poeth.

Cysyllir BDSM yn aml gyda phoen corfforol, camdrin y corff, torri neu dyllu'r corff, sydd i'r derbynnydd yn boen derbyniol. Defnyddir y term "stres corfforol" yn aml a disgrifir y mwynhad a dderbynir yn dilyn rhyddhau endorphinau yn y cyfnod ar ôl yr orgasm neu'r Alldafliad. Dro arall, mae unigolyn yn gweithredu nid er mwyn derbyn pleser personol ond er mwyn sicrhau fod ei bartner y derbyn pleser.

Chwip-din go iawn

Mae rhai pobl yn cael gwefr o daro person arall gyda'r llaw, neu declyn pwrpasol. Dywed rhai seicolegwyr mai cof sydd yma o'r person ei hun yn cael ei daro gan riant neu athro pan oedd yn blentyn.

Hanes

Gellir olrhain BDSM yn ôl i'r 9fed ganrif CC - i Artemis Orthia, sef un o ardaloedd mwyaf crefyddol Sparta ble roedd chwipio'r corff yn rhan o ddefod y crefydd. Dyma efallai'r cofnod cyntaf ohono. Mae'r Kama Sutra'n manylu ar 4 math o roi poen ar gorff y syb - ac yn mynnu na ddylid gwneud hynny oni bai fod y syb yn cytuno.

Mae'r enwau Marquis de Sade a Leopold von Sacher-Masoch yn enwau pwysig ym myd y sadydd a'r masocydd. Yn wahanol i'r Kama Sutra (a rheolau BDSM modern), fodd bynnag, doedd Sade ddim yn cytuno gyda'r rheol y dylai'r syb roi ei ganiatâd.

Cyfeiriadau

Bdsm  Eginyn erthygl sydd uchod am rywioldeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Tags:

Bdsm Bondais (rhywglymu) a DisgyblaethBdsm SadomasocistiaethBdsm Y Dom ar syb: y meistr ar gwasBdsm Y corffBdsm Chwip-din go iawnBdsm HanesBdsm CyfeiriadauBdsm

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Meilir GwyneddDaearegStygianLa Historia InvisibleISO 4217Rhian MorganOld HenryCentral Coast, New South WalesL'acrobateLa Fiesta De TodosNaked SoulsLluosi1968Teledu clyfarBrân goesgochGareth BaleNitrogenIechydOrganau rhywSatyajit RayXHamsterDrwsGwlad y BasgCabinet y Deyrnas UnedigThomas Gwynn JonesDetlingFietnamNASAMons venerisCyfrifiad y Deyrnas Unedig 20112011Pen-caerChelmsfordMynediad am DdimSarah PalinGwefanCaerfaddonFfalabalamArgraffuJava (iaith rhaglennu)ArachnidSodiwm cloridWest Ham United F.C.LibanusGwïon Morris JonesCrundale, Caint25 EbrillEtholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015GwymonHelyntion BecaLa Flor - Partie 2Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 1999UsenetGeorge BakerMarian-glasWyn LodwickElisabeth II, brenhines y Deyrnas UnedigPanda MawrAstatinComin CreuTeleduNwy naturiolLe CorbusierAristotelesWelsh Teldisc21 EbrillSafle Treftadaeth y BydEl Niño1930🡆 More