Paraffilia a ddiffinnir gan atyniad rhywiol dynol tuag at anifeiliaid annynol yw söoffilia, o'r Roeg ζῷον (zṓion, anifail) a φιλία (ffilia, cyfeillgarwch neu gariad).
Defnyddir amryw o wahanol dermau gan glinigyddion ac gan söoffiliaid (unigolion gyda söoffilia) eu hunain. Mae söoffilia yn cyfeirio yn benodol at ddiddordeb rhywiol mewn anifeiliaid, nid ymddygiad rhywiol gydag anifeiliaid. Mae termau Cymraeg am gyfathrach rywiol rhwng bodau dynol ac anifeiliaid yn cynnwys bwbechni, milgydiad, milgydiaeth, bwystfilgydiaeth, a bwystfileiddiwch.
Er bod gweithredoedd rhywiol gydag anifeiliaid yn gyfreithlon mewn ambell wlad, ni chânt eu cydoddef yn benodol unrhywle heddiw ac mae rhyw gydag anifeiliaid yn parháu fel tabŵ ym mron pob cymdeithas ddynol. Yn y mwyafrif o wledydd, mae'r fath weithredoedd yn anghyfreithlon yn ôl deddfau sy'n gwahardd creulondeb tuag at anifeiliaid neu droseddau yn erbyn natur.
Yn seicoleg mae yna ddadl sylweddol ynglŷn ag os yw rhai agweddau söoffilia yn cael eu deall yn well fel paraffilia neu fel cyfeiriadedd rhywiol, a elwir weithiau yn söorywioldeb. Daeth y term hwn a'r cysyniad o gyfeiriadedd rhywiol tuag at anifeiliaid yn fwy cyffredin yn y maes gwyddonol ers ymchwil Hani Miletski yn y 1990au. Miletski oedd y cyntaf i wneud ymchwil ffurfiol i weld os yw cyfeiriadedd rhywiol tuag at anifeiliaid yn bodoli. Defnyddiodd ddiffiniad o gyfeiriadedd rhywiol sy'n seiliedig ar waith Francoeur (1991) yn ei astudiaeth o gyfunrywioldeb, heterorywioldeb, a deurywioldeb. Yn ôl y diffiniad hwn, mae cyfeiriadedd rhywiol yn cynnwys tair agwedd rhyng-gysylltiedig:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Söoffilia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.