Nofel ffuglen wyddonol gan Islwyn Ffowc Elis a gyhoeddwyd gan Plaid Cymru yn 1957 yw Wythnos yng Nghymru Fydd.
Cyhoeddwyd argraffiad modern gan Wasg Gomer yn Mehefin 2007 (ISBN 9781843238621 ).
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig, gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Islwyn Ffowc Elis |
Cyhoeddwr | Plaid Cymru |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1957 |
Genre | Nofel ffuglen wyddonol |
Lleoliad y gwaith | Cymru |
Mae'r arwr, Ifan Powell (yn yr 1950au) yn cytuno i gymryd rhan mewn arbrawf gwyddonol mewn teithio drwy amser ac y mae'n glanio yng Nghaerdydd yn y flwyddyn 2033. Mae'n aros yno am 5 niwrnod ac y mae'n aros gyda theulu sydd yn mynd ag ef ar daith o gwmpas Cymru. Yno y mae'n canfod fod Cymru wedi ennill hunan-lywodraeth ac yn llewyrchus yn economaidd ac yn heddychlon yn gymdeithasol ac y mae'r iaith Gymraeg yn ffynnu gyda phawb yn gwbl ddwyieithog. Mae'n syrthio mewn cariad gyda merch y teulu lle mae'n aros ac wedi iddo ddychwelyd i Gymru'r 1950au mae ei hiraeth amdani'n peri iddo fynnu mynd yn ôl i 2033. Er i'r gwyddonydd sydd yn gwneud yr arbrawf ei gynghori yn erbyn hyn, y mae'n cytuno wedi i Ifan erfyn arno.
Fodd bynnag, pan mae'n dychwelyd, y mae'n cael ei hun mewn Cymru cwbl wahanol, er mai'r un yw'r lleoliad a'r dyddiad ag o'r blaen (h.y. Caerdydd yn 2033). Mae'r iaith Gymraeg wedi marw a phob arlliw o hunaniaeth Gymreig wedi diflannu, yn wir y mae hyd yn oed enw'r wlad wedi ei newid i "Lloegr Orllewinol". Mae'r gymdeithas hefyd yn ansefydlog a llawn helynt. Dim ond am ddeuddydd y mae Ifan yn aros yma - y mae hynny yn fwy na digon iddo.
Wedi i Ifan ddychwelyd am yr eildro i'r presennol y mae'r gwyddonydd yn egluro iddo fod y ddwy Gymru y bu Ifan yn ymweld a hwynt yn bosibiliadau ar gyfer y dyfodol a'i fod i fyny i bobl Cymru pa un gaiff ei wireddu. Yn sgil hyn y mae Ifan yn troi yn genedlaetholwr Cymreig (yr oedd gynt yn gwrthwynebu cenedlaetholdeb Cymreig) gan ymrwymo i wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau mai'r Gymru y bu ynddi hi yn gyntaf fydd yn dod yn wir.
Yn 2017 cyfansoddodd Gareth Glyn opera yn seiliedig ar y nofel gyda'r libreto gan Mererid Hopwood.
Mae'r nofel yn arwyddocaol yn hanes llenyddiaeth Gymraeg gan mai hi oedd un o'r nofelau gwyddonias i gael ei hysgrifennu yn yr iaith. Cyhoeddwyd stori wyddonias estynedig gan T. Gwynn Jones yn 1905 mewn rhifynnau o Papur Pawb ond ni chyhoeddwyd hwn fel llyfr unigol nes 2024. Fodd bynnag, cydnabyddir yn gyffredinol (a chan yr awdur ei hun) mai propaganda gwleidyddol yw'r nofel yn y bôn a bod hynny yn tanseilio rhywfaint ar ei gwerth llenyddol. Cafwyd adolygiad ohono mewn sawl maes gan gynnwys gan Lowri Haf Cooke ac ar BBC Radio Cymru
Ail-argraffwyd y llyfr yn 2007 ar bumdeg mlwyddiant y cyhoeddiad gwreiddiol.
Ysbrydolwyd y stori gan lwyddiant llyfr Altneuland gan Theodor Herzl oedd yn cyflwyno agenda Seioniaeth ar gyfer sefydlu gwladfa Iddewig ym Mhalesteina.[angen ffynhonnell] Cyhoeddwyd y llyfr yn 1902 a bu'n ddylanwadol iawn ar Iddewon y cyfnod ac wedyn. Enwyd y ddinas Tel Aviv ar ôl teitl cyfieithiad Hebraeg o'r llyfr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Wythnos Yng Nghymru Fydd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.