Marc diacritig a ddefnyddir mewn sawl iaith yw tild neu tilde (~).
Mae'n nodi bod ynganiad llythyren o'r wyddor i gael ei newid mewn rhyw ffordd. Gall y newid amrywio'n fawr yn dibynnu ar yr iaith.
Dyma ychydig o ddefnyddiau'r marc sydd i'w cael yn ieithoedd y byd.
Gellir ei ddefnyddio yn Sbaeneg dros y llythyren n i ddangos y dylid ei hynganu fel cytsain daflodol (a ddangosir fel ɲ yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA)), fel yn y geiriau España ("Sbaen"), mañana ("yfory") a niña ("merch"). (Sylwch fod y ddwy lythyren n yn mañana ac niña yn digwydd gyda tild a heb tild; mae synau'r ddwy lythyren yn dra gwahanol.) Mae'r defnydd hwn o ñ i'w gael yn systemau ysgrifennu nifer o ieithoedd eraill, e.e. Astwrieg, Basgeg, Galisieg, Aymara, Guaraní, Quechua, Tetwm a Woloffeg.
Yn Llydaweg, fodd bynnag, mae'r llythyren ñ yn ddistaw, ond mae'n dangos y dylai'r llafariad blaenorol fod yn drwynoledig.
Defnyddir y tild ym Mhortiwgaleg dros y llythrennau a ac o i ddangos y dylid eu hynganu fel llafariaid trwynoledig, e.e. balão ("balŵn), balões ("balwnau").
Yn Hen Roeg gellir ei defnyddio yn lle acen grom i ddangos yr acen "uchel-isel".
Yn Fietnameg dros lafariad mae'n dynodi tôn "creclyd".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tild, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses. ®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.