Sffêr

Mae sffêr (enw gwrywaidd; o'r Groeg σφαῖρα - sphaira, pelen) yn wrthrych geometrig perffaith mewn gofod tri dimensiwn; dyma wyneb pêl cwbwl gron sy'n cyfateb yn nhermau dau ddimensiwn i gylch.

Sffêr
Diagram dau ddimensiwn o sffêr.

Fel cylch mewn gofod dau ddimensiwn, diffinnir sffêr yn fathemategol fel y set o bwyntiau sydd i gyd ar yr un pellter r o bwynt penodol, ond mewn man tri dimensiwn. Y pellter r yw radiws y bêl, sydd wedi'i ffurfio o bob pwynt gyda pellter llai na r o'r pwynt a roddir, sef canolbwynt / canol y bêl fathemategol. Cyfeirir at y rhain hefyd fel "y radiws" a "chanol y cylch". Mae'r linell syth hiraf drwy'r bêl, sy'n cysylltu dwy bwynt y sffêr, yn mynd trwy'r canol gyda'i hyd, felly, ddwywaith y radiws; dyma "ddiamedr" y sffêr a'i bêl.

Ar y cae pêl-droed a mannau eraill y tu allan i fyd mathemateg, caiff y ddau air 'sffêr' a 'phêl eu cyfnewid a'u camddefnyddio'n aml. O fewn mathemateg, perchir y gwahaniaeth, lle mae sffêr yn arwyneb caeedig dau ddimensiwn, wedi'i fewnosod mewn gofod Ewclidaidd tri dimensiwn, ac ar y llaw arall, mae'r bêl yn siâp tri dimensiwn sy'n cynnwys y sffêr a phopeth y tu mewn i'r sffêr (pêl caeedig), neu, yn amlach, dim ond y pwyntiau y tu mewn, ond nid ar y sffêr (pêl agored). Nid yw'r gwahaniaeth hwn bob amser wedi'i gynnal, yn enwedig mae hen gyfeiriadau mathemategol lle ddisgrifir sffêr yn wrthrych solat. Mae hyn yn debyg i'r sefyllfa yn y plân, lle mae'r termau "cylch" a "disg" hefyd cael eu camddefnyddio.

Hafaliadau yn y gofod tri dimensiwn

Sffêr 
Dau radiws sffêr

Mewn geometreg dadansoddol, mae sffêr sydd a'i ganol (x0, y0, z0) a'i radiws r yn locws i holl bwyntiau (x, y, z), fel bod

    Sffêr 

Gadewch i a, b, c, d, e fod yn rhifau real, gyda a ≠ 0, a rhowch

    Sffêr 

yna, nid oes gan yr hafaliad

    Sffêr 

unrhyw bwyntiau real fel datrysiadau os Sffêr , ac fe'i gelwir yn "sffêr dychmygol".

Os Sffêr  yna'r unig ddatrysiad o Sffêr  yw'r pwynt Sffêr  a dywedir bod yr hafaliad yn "hafaliad y sffêr pwynt". Yn olaf, yn achos Sffêr , yna Sffêr  yw hafaliad y sffêr sydd a'i ganol yn Sffêr  a'i radiws yn Sffêr .

Os yw a yn yr hafaliad uchod yn sero, yna f(x, y, z) = 0 yw hafaliad y plân. Felly, gellir ystyried plân yn fath o sffêr gyda radiws anfeidraidd, sydd a'i ganolbwynt yn "bwynt anfeidraidd" (point at infinity).

Gellir rhoi pwyntiau sffêr gyda radiws Sffêr  a'i ganol Sffêr  ar baramedr, drwy:

    Sffêr 

Mae sffêr gyda'i radiws wedi'i ganoli ar sero yn arwyneb integrol o'r ffurf wahaniaethol ganlynol:

    Sffêr 

Mae'r hafaliad hwn yn adlewyrchu safle a fectorau cyflymder pwynt, (x, y, z) a (dx, dy, dz), sy'n teithio ar y sffêr, ac sydd bob amser yn orthogonol i'w gilydd.

Cyfaint mewnol

Sffêr 
Sffêr (mewn coch), gyda'i silindr amgylchol (mewn glas golau).

Mewn gofod tri dimensiwn, mae cyfaint oddi mewn i sffêr (sef cyfaint pêl) yn:

    Sffêr 

lle mae r yn radiws y sffêr. Archimedes a luniodd y fformiwla hon yn gyntaf, gan fynegi fod y cyfaint y tu mewn i sffêr ddwywaith y gwahaniaeth cyfaint y sffêr a chyfaint y silindr sy'n ei amgylchynu.

Yn fyr, gellir canfod fformiwla ei gyfaint drwy ddefnyddio cyfesurynnau sfferig, gydag elfennau'r cyfaint yn

    Sffêr 

fel bod

    Sffêr 

Yn ymarferol, ac fel brasamcan, mae cyfaint mewnol sffêr yn 52.4% o gyfaint y ciwb, gan fod V = π/6 d3, ble d yw diamedr y sffêr a hyd ochr y ciwb a π/6 ≈ 0.5236. Er enghraifft, mae gan sffêr gyda diamedr o 1 fetr 52.4% o gyfaint y ciwb sydd a hyd ei ymylon yn 1 fetr, neu tua 0.524 m3.

Arwynebedd

Arwynebedd sffêr gyda'i radiws yn r yw:

    Sffêr 

Cyfeiriadau

Tags:

Sffêr Hafaliadau yn y gofod tri dimensiwnSffêr Cyfaint mewnolSffêr ArwynebeddSffêr CyfeiriadauSffêrDau ddimensiwnGofod tri dimensiwn

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Y Celtiaid1809Hunan leddfuRhyw geneuolFfuglen llawn cyffroTlotyY Cenhedloedd UnedigTecwyn RobertsCrac cocênY Ddraig GochSan FranciscoMons venerisLlundainTverKumbh MelaJohn OgwenMulherKylian MbappéYmlusgiadLa Femme De L'hôtelDafydd HywelRobin Llwyd ab OwainAnhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwyddMarcel ProustPrwsiaThe Songs We SangAlien RaidersRhisglyn y cyllOwen Morgan EdwardsBukkakeDerwyddCyfathrach rywiolSByseddu (rhyw)NepalSophie DeeYsgol Gyfun Maes-yr-YrfaLlwynog8 EbrillLeo The Wildlife RangerMilan2009Arbeite Hart – Spiele HartHirundinidaeCastell y BereLionel MessiTalcott ParsonsEisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1885Geraint JarmanCymraegMatilda BrowneAmaeth yng NghymruBroughton, Swydd Northampton2020HwferBronnoethL1584PensiwnSlefren fôrLladinCaeredinGwladRhian MorganURLRhyw diogelYsgol Gynradd Gymraeg BryntafGary Speed🡆 More