Plaid wleidyddol a mudiad chwyldroadol parafilwrol Iranaidd mewn alltudiaeth sy'n credu mewn sosialaeth Islamaidd yw'r Sāzmān-e mojāhedin-e khalq-e irān (Perseg سازمان مجاهدين خلق ايران Mujahedin y Bobl Iran), a adwaenir hefyd fel y PMOI (People's Mojahedin of Iran) neu'r MEK neu MKO.
Ei nod yw dymchwel llywodraeth bresennol Iran. Ei arweinydd yw Maryam Rajavi, a Seddigheh Hosseini yw'r Ysgrifennydd Cyffredinol. Lleolir ei phencadlys yn Ashraf, de Irac. Cyfeirir at y mudiad yn aml fel "(Mojahedin-e) Khalq".
Enghraifft o'r canlynol | terrorist organization, plaid wleidyddol, mudiad gerila, private army, carfan bwyso, Intelligence gathering network, troll farm, Cwlt |
---|---|
Idioleg | Islamic socialism |
Label brodorol | سازمان مجاهدين خلق ايران |
Dechrau/Sefydlu | 5 Medi 1965 |
Pencadlys | Auvers-sur-Oise, Ashraf-3, Camp Liberty, Dinas Ashraf |
Enw brodorol | سازمان مجاهدين خلق ايران |
Gwladwriaeth | Iran |
Gwefan | http://www.mojahedin.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd y PMOI yn 1965 i ymladd yn erbyn llywodraeth y Shah Mohammad Reza Pahlavi, cyfalafiaeth, ac imperialaeth Orllewinol. Rhoddodd y mudiad orau i ymgyrchu arfog yn swyddogol yn 2001 ac erbyn heddiw y PMOI yw'r prif fudiad yng Nghyngor Cenedlaethol Gwrthsafiad Iran (National Council of Resistance of Iran: NCRI), mudiad ymbarel neu senedd-mewn-alltudiaeth sy'n honni gweithio am sefydlu llywodraeth ddemocrataidd, seciwlar yn Iran. Mae gan/bu gan y PMOI asgell arfog o'r enw Byddin Rhyddhau Iran (National Liberation Army of Iran NLA). Cyfeiria llywodraeth Iran at y PMOI a'i cyngreiriaid fel Monafeqin (yn llythrennol, "Rhagrithwyr") yn hytrach na "Mojahedin", gan faentumio nad ydynt yn blaid Islamaidd mewn gwirionedd.
Ond yn ôl yr Unol Daleithiau, Canada, Irac, y DU, ac Iran, a'r Undeb Ewropeaidd, mae'r NCRI yn ffrynt yn unig i weithgareddau terfysgol y PMOI ac felly mae'r PMOI yn fudiad terfysgol Rhoddodd y PMOI a'r NCRI wybodaeth am raglen niwclear llywodraeth Iran yn 2002 a 2008 sydd wedi poeni rhai o wledydd y Gorllewin, yn enwedig yr Unol Daleithiau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sāzmān-e mojāhedin-e khalq-e irān, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.