Y Chwyldro Islamaidd (Perseg: انقلاب اسلامی, Enghelābe Eslāmi) neu Chwyldro Iran neu Chwyldro Islamaidd Iran oedd y chwyldro a drawsfurffiodd Iran o frenhiniaeth dan y Shah Mohammad Reza Pahlavi, i weriniaeth Islamaidd dan yr Ayatollah Ruhollah Khomeini, arweinydd y chwyldro a sefydlydd y Weriniaeth Islamaidd.
Mae'n cael ei ddisgrifio gan rai fel "y trydydd chwyldro mawr," ar ôl y Chwyldro Ffrengig a'r Chwyldro Bolshefic. Ei amcan oedd rhyddhau Iran a'r Trydydd Byd yn gyffredinol o afael gwladychiaeth a newydd-wladychiaeth.
Enghraifft o'r canlynol | chwyldro |
---|---|
Dyddiad | 1970s |
Lladdwyd | 2,781 |
Label brodorol | انقلاب اسلامی |
Dechreuwyd | Ionawr 1978 |
Daeth i ben | Chwefror 1979 |
Lleoliad | Iran |
Enw brodorol | انقلاب اسلامی |
Gwladwriaeth | Iran |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Er bod lle i ddadlau ei fod yn broses barhaol, fel sawl chwyldro arall, gellir dweud iddo ddechrau yn Ionawr 1978 gyda'r gwrthdystiadau mawr cyntaf yn erbyn llywodraeth y Shah ac iddo orffen gyda chymeradwyo'r Cyfansoddiad theocratig newydd — a droes Khomeini yn Arweinydd Pennaf y wlad — yn Rhagfyr 1979. Yn sgîl hynny, gadawodd Mohammad Reza Pahlavi y wlad i alltudiaeth yn Ionawr 1979 ar ôl i streiciau a phrotestiadau baralysu'r wlad, ac ar 1 Chwefror, 1979, dychwelodd Ayatollah Khomeini o alltudiaeth yn Ffrainc i Tehran i gael ei groesawu gan rai miliynau o Iraniaid. Daeth cwymp terfynol y brenhinllin Pahlavi yn fuan wedyn ar 11 Chwefror pan gyhoeddodd arweinwyr lluoedd miwrol Iran eu "niwtraliaeth" ar ôl i filwyr chwyldroadol orchfygu milwyr teyrngar i'r Shah mewn brwydro arfog ar y strydoedd. Daeth Iran yn Weriniaeth Islamaidd ar 1 Ebrill, 1979 pan bleidleisiodd y mwyafrif llethol o bobl y wlad i'w gwneud felly.
Un o'r mudiadau mwyaf grymus sy'n gwrthwynebu'r Chwyldro Islamaidd ar ei ffurf bresennol yw'r Sāzmān-e mojāhedin-e khalq-e irān, mudiad sosialaidd-Islamaidd mewn alltudiaeth sy'n ceisio dymchwel llywodraeth Iran.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Chwyldro Islamaidd Iran, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.