Sefydliad neu grŵp o bobl sydd yn rhannu'r un diddordeb, safbwynt neu bryder yw carfan bwyso.
Nod y fath sefydliad yw dylanwadu ar farn y cyhoedd ac i lobïo'r llywodraeth er lles ei aelodau. Gall sefydliadau megis undebau llafur, cymdeithasau proffesiynol, ac elusennau i gyd ymddwyn fel carfanau pwyso. Mae'r garfan bwyso gyffredin yn gweithredu drwy ddulliau anuniongyrchol, naill ai drwy dynnu ar nerth ei aelodaeth megis deisebau a phrotestiadau, neu drwy gyhoeddi adroddiadau a ballu i ddadlau dros ei achos. Nodir y carfanau mwyaf pwerus – er enghraifft y rhai sydd â'r nifer fwyaf o aelodau neu sydd yn meddu ar awdurdod arbenigol – gan "fynediad gwleidyddol", hynny yw y gallu i bwyso ar y llywodraeth yn uniongyrchol drwy gynghori ar faterion neilltuol neu drwy gysylltiadau agos â gwleidyddion a gweision sifil. Ystyrir y garfan bwyso yn agwedd bwysig o wyddor gwleidyddiaeth ac yn hanfodol wrth esbonio dewis ar y cyd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Carfan bwyso, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.